BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 Rhif 1053 (Cy.109)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061053w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1053 (Cy.109)

ANIFEILIAID, CYMRU

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006

  Wedi 4 Ebrill 2006 
  Yn dod i rym 2 Mai 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 25, 32(2), 83(2), 87(2) a 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Mai 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu
    
2. Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984[2] a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1990[3] drwy hyn wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
     3. —(1) Yn y Gorchymyn hwn:—

Estyn y diffiniad o "disease" a phŵer i gigydda o achos twbercwlosis
    
4. At ddibenion y Ddeddf, estynnir y diffiniad o "disease" yn adran 88(1) o'r Ddeddf fel ag i gynnwys twbercwlosis, ac mae adran 32 o'r Ddeddf (pŵer i gigydda anifeiliaid) yn gymwys o ran y clefyd hwnnw.

Hysbysu ynghylch y clefyd mewn anifeiliaid buchol
    
5. —(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n amau fod anifail buchol sydd yn ei feddiant neu o dan ei ofal mewn unrhyw fangre yn anifail yr effeithiwyd arno, neu'n anifail a allai fod felly, wneud y canlynol yn ddi-oed—

    (2) Rhaid i filfeddyg sy'n amau fod anifail a archwiliwyd ganddo yng nghwrs ei waith yn anifail yr effeithiwyd arno, neu'n anifail a allai fod felly, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddi-oed.

Hysbysu ynghylch y clefyd mewn carcasau
    
6. —(1) Rhaid i unrhyw berson—

cyn gynted ag y bydd yn amau y gallai'r carcas fod wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol.

    (2) Rhaid i berson y mae yna yn ei feddiant neu o dan ei ofal garcas y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ei gadw yn y fangre lle mae ar yr adeg honno hyd nes y bydd wedi'i archwilio gan arolygwr milfeddygol.

    (3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) uchod, mae "carcas" ("carcase") yn golygu carcas unrhyw anifail buchol neu famal a ffermir neu famal anwes arall.

Ymchwiliad milfeddygol i bresenoldeb y clefyd
    
7. —(1) Pan fo gan archwiliwr milfeddygol reswm i gredu bod anifail yr effeithiwyd arno neu anifail a amheuir (heblaw adweithydd) neu garcas anifail buchol yr effeithiwyd arno neu yr amheuir ei fod wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis yn bresennol mewn unrhyw fangre, rhaid iddo, a hynny mor gyflym ag sy'n ymarferol, gymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol i ddarganfod a yw mewn difri'n anifail neu garcas yr effeithiwyd arno neu'n anifail neu garcas a amheuir.

    (2) At ddibenion cyflawni'i ddyletswyddau o dan yr erthygl hon, caiff archwiliwr milfeddygol archwilio unrhyw anifail buchol neu garcas anifail buchol yn y fangre a chymryd pa bynnag samplau o unrhyw anifail neu garcas o'r fath neu gyflawni pa bynnag brofion ag sy'n ofynnol i'r diben o wneud diagnosis.

    (3) Rhaid i archwiliwr milfeddygol gyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw anifail buchol a archwiliwyd ganddo sydd yn ei farn yn anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir, yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad—

Profi ar gyfer twbercwlosis
    
8. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad anifail buchol, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail o'r fath gael ei brofi ar gyfer twbercwlosis erbyn dyddiad penodedig.

    (2) Heb ragfarnu erthygl 13, pan fu yna fethiant i brofi anifail yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (1) caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail hwnnw, wahardd symud anifeiliaid buchol neu'r anifeiliaid buchol hynny a bennir yn yr hysbysiad i'r fangre neu allan ohoni, neu i unrhyw ran o'r fangre neu allan ohoni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

    (3) Rhaid i geidwad anifail buchol gydymffurfio â phob gofyniad rhesymol a wneir gan yr arolygydd, parthed—

ac yn arbennig rhaid iddo drefnu ar ei draul ei hun i gasglu, corlannu a chadw unrhyw anifail o'r fath yn ddiogel os gofynnir hynny.

    (4) Heb ragfarnu unrhyw achos ar gyfer trosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliad 1981 yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, pan fu yna fethiant i brofi anifail yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd neu beri cymryd yr holl gamau a all fod yn angenrheidiol i hwyluso archwilio, profi ac, os yn briodol, penderfynu ar werth yr anifail hwnnw (yn cynnwys symud yr anifail o'r fangre lle'i cedwir), a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill cyfanswm unrhyw dreuliau a ddaeth yn rhesymol i ran y Cynulliad Cenedlaethol wrth adfer y methiant oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.

    (5) Pan fo prawf perthnasol wedi'i wneud ar anifail buchol, ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail hwnnw o'r fangre lle y'i cedwir oni bai—

    (6) Ni chaiff unrhyw berson ymyrryd â gweinyddu neu ddarllen prawf perthnasol.

Profion cyn Symud
    
9. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i erthyglau 11 a 23, a heb leihau effaith gofynion Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985[4], ni chaiff person symud anifail buchol o unrhyw fangre oni bai fod prawf croen wedi'i wneud arno ddim mwy na 60 diwrnod cyn dyddiad y symud.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r anifeiliaid canlynol—

    (3) At ddibenion paragraff (1), dyddiad y prawf yw dyddiad y pigiad gyda thwbercwlin.

    (4) At ddibenion paragraff (2) (ch) (i) o'r erthygl hon, ystyr "fferm agored" ("open farm") yw fferm sy'n agored ar gyfer ymweliadau gan y cyhoedd neu adrannau o'r cyhoedd.

Cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis
     10. —(1) Pan fo prawf croen wedi'i wneud ar anifail buchol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cofnod mewn ysgrifen o ganlyniadau'r prawf i geidwad yr anifail hwnnw cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl i ganlyniadau'r prawf gael eu darllen gan arolygydd.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i anifeiliaid y mae eu symud wedi'i wahardd neu'n parhau wedi'i wahardd o dan y Gorchymyn hwn yn dilyn y prawf.

    (3) Rhaid i geidwad unrhyw anifail y mae paragraff (1) yn gymwys iddo—

Symudiadau a Ganiateir
    
11. Er gwaethaf erthygl 9, fe ganiateir y symudiadau canlynol—

Gwaharddiadau
    
12. —(1) Ni chaiff person frechu anifail buchol yn erbyn twbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Ni chaiff person drin anifail buchol ar gyfer twbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Ni chaiff person brofi anifail buchol ar gyfer twbercwlosis heblaw gyda chaniatâd ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol, a rhaid i berson y rhoddir y fath ganiatâd iddo adrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch canlyniad y prawf cyn gynted ag y gŵyr beth yw'r canlyniad hwnnw.

Gwaharddiadau ar symud anifeiliaid
    
13. Heb leihau effaith erthyglau 7(3)(c) ac 8(2), caiff arolygydd, at ddiben rheoli neu rwystro ymlediad twbercwlosis, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad anifeiliaid buchol a gedwir yn y fangre a bennir yn yr hysbysiad, wahardd symud anifeiliaid buchol, neu'r anifeiliaid buchol hynny a bennir yn yr hysbysiad, i'r fangre honno neu allan ohoni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

Hysbysu ynghylch y bwriad i gigydda anifeiliaid
    
14. —(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cigydda anifail buchol o dan adran 32 o'r Ddeddf fel y mae wedi'i chymhwyso i dwbercwlosis, rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail yn hysbysu'r ceidwad o'r bwriad i gigydda ac yn mynnu fod y ceidwad yn cadw'r anifail hyd y cyflawnir y cigydda hwnnw (neu hyd nes y caiff ei drosglwyddo a'i symud ar gyfer y cigydda hwnnw) yn y rhan honno o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad ac yn ei ynysu i'r graddau y mae hynny'n ymarferol oddi wrth ba bynnag anifeiliaid eraill a bennir felly.

    (2) Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff person symud yr anifail, ac eithrio ar gyfer ei gigydda, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

Rhagofalon rhag lledaenu haint
    
15. —(1) Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni fod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre'n anifail yr effeithiwyd arno neu'n adweithydd, caiff yr arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw anifail o'r fath, ei gwneud yn ofynnol—

    (2) Os yw unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (1) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill cyfanswm unrhyw dreuliau a ddaeth yn rhesymol i ran y Cynulliad Cenedlaethol wrth adfer y methiant oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.

Anifeiliaid a amheuir mewn marchnadoedd, sioeau ac arwerthiannau
    
16. Pan fo arolygydd milfeddygol yn credu'n rhesymol fod anifail buchol mewn unrhyw fangre lle mae sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair yn cael ei gynnal yn anifail yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis neu'n un yr amheuir ei fod wedi'i effeithio arno felly, neu'n un a fu'n agored i gael ei heintio â thwbercwlosis, caiff yr arolygydd—

    (2) Pan symudir anifail buchol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii) neu (iii) rhaid ei ynysu'n syth ac ni chaniateir ei symud eto heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

Rheoli haint oddi wrth anifeiliaid eraill
    
17. —(1) Pan fo arolygydd milfeddygol yn credu'n rhesymol fod anifail a gedwir mewn unrhyw fangre wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis neu o bosib wedi'i effeithio arno felly, caiff yr arolygydd drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre honno—

    (2) At ddibenion paragraff (1) uchod, mae "anifail" ("animal") yn golygu unrhyw fath o famal heblaw dyn, ond nid anifail buchol.

Marcio anifeiliaid buchol
    
18. —(1) Os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan arolygydd, rhaid i geidwad anifeiliaid buchol a gedwir mewn unrhyw fangre farcio'r anifeiliaid hynny yn y modd a ofynnir gan yr arolygydd.

    (2) Caiff yr arolygydd farcio anifeiliaid buchol a gedwir mewn unrhyw fangre.

    (3) Ni chaiff neb newid neu ymyrryd ag unrhyw farc a roddwyd o dan yr erthygl hon.

Adnabod M. bovis mewn labordy
    
19. —(1) Pan adnabyddir presenoldeb yr organeb M. bovis drwy archwilio mewn labordy sampl a gymerwyd o unrhyw famal (heblaw dyn) neu o garcas, cynhyrchion neu amgylchoedd unrhyw famal o'r fath, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y labordy hwnnw hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol yn ddi-oed.

    (2) Nid yw'r ddyletswydd i hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo M. bovis yn bresennol yn y sampl oherwydd ei osod yno'n fwriadol fel rhan o ymchwil sy'n cynnwys defnyddio'r organeb honno.

Darpariaethau Cyffredinol parthed Hysbysiadau a Thrwyddedau
    
20. —(1) Rhaid i unrhyw drwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn fod mewn ysgrifen, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, a gellir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau.

    (2) Gellir diwygio, atal dros dro neu ddileu trwydded a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad pellach gan arolygydd.

Dangos trwyddedau
    
21. Pan symudir anifail buchol o dan awdurdod trwydded (heblaw trwydded gyffredinol) a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn—

Gorfodi
    
22. —(1) Rhaid gorfodi'r Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ynglŷn ag unrhyw achos penodol, fod yn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflawni dyletswydd gorfodi a osodwyd ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn yn hytrach na'r awdurdod lleol.

Darpariaethau Trosiannol
    
23. Hyd at ac yn cynnwys 28 Chwefror 2007, ni fydd erthygl 9 yn gymwys i anifeiliaid sy'n llai na 15 mis oed ar ddyddiad y symud.

Arbedion
    
24. Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd neu drwydded neu ganiatâd a roddwyd o dan Orchymyn Twbercwlosis (Lloegr a Chymru) 1984 ac sy'n effeithiol ar yr adeg y daw'r Gorchymyn hwn i rym aros mewn grym fel pe bai'n hysbysiad a gyflwynwyd neu'n drwydded neu ganiatâd a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Ebrill 2006



ATODLEN
Erthygl 11


Symudiadau a Ganiateir


Caniateir y symudiadau canlynol heb brofion cyn symud:

Symud ar gyfer cigydda
     1. Symud anifail buchol yn uniongyrchol ar gyfer ei gigydda.

Symud i farchnadoedd cigydda
     2. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad o'r hon y mae pob anifail yn mynd yn uniongyrchol i'w gigydda.

Symud i unedau pesgi wedi'u heithrio
     3. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi wedi'i heithrio, sef uned besgi sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol nad ydynt wedi derbyn prawf ar gyfer twbercwlosis cyn eu symud yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Symud i farchnadoedd wedi'u heithrio
     4. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad wedi'i heithrio, sef marchnad sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifail buchol nad ydynt wedi derbyn profion ar gyfer twbercwlosis cyn eu symud yn unol â'r Gorchymyn hwn, ar yr amod ei fod un ai'n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r fangre y daeth ohoni, neu'n uniongyrchol i uned besgi a esemptiwyd neu a gymeradwywyd neu'n uniongyrchol i'w gigydda.

Symudiadau i ganolfannau casglu wedi'u cymeradwyo
     5. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i ganolfan gasglu wedi'i chymeradwyo, sef canolfan gasglu sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol sy'n dod o fangreoedd sydd dan gyfyngiadau symud mewn perthynas â thwbercwlosis.

Symud i unedau pesgi wedi'u cymeradwyo
     6. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi wedi'i chymeradwyo, sef uned besgi sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol sy'n dod o fangreoedd sydd dan gyfyngiadau symud mewn perthynas â thwbercwlosis.

Tir comin
     7. —(1) Symud anifail buchol rhwng tiroedd dros ba rai y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl tir comin cofrestredig ac—

    (2) Symud anifail buchol rhwng mangre sydd wedi'i meddiannu gan berchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl tir comin cofrestredig fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi, a mangre sydd wedi'i meddiannu gan unrhyw berson arall sydd â hawl tir comin cofrestredig dros y tir hwnnw ac y mae hawl tir comin cofrestredig y person arall hwnnw fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi.

    (3) Yn y paragraff hwn, mae "hawl tir comin cofrestredig" ("registered right of common") yn golygu hawl tir comin a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 neu hawl tir comin sydd wedi'i eithrio o'r fath gofrestru ond sydd wedi'i gofrestru, ei ddynodi, ei gysylltu, neu wedi'i gydnabod, ei barhau neu ei gadw o dan unrhyw un o'r canlynol neu'n unol â hwy: Deddf y Fforest Newydd 1854, 1949, 1964 a 1970, a Deddfau Fforest Epping 1878 a 1880, neu Ddeddf Dinas Llundain (Pwerau Amrywiol) 1977, neu unrhyw hawl neu ganiatâd tebyg a arferir yn Fforest y Ddena.

Symud o fewn grwp meddiannaeth unigol
     8. Symud anifail buchol rhwng mangreoedd sydd mewn grŵp meddiannaeth unigol sydd wedi'i gymeradwyo, a hynny'n set o fangreoedd a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel grŵp meddiannaeth unigol o ganlyniad iddynt gael eu cysylltu yn nhermau eu rheoli.

Symud ar gyfer triniaeth filfeddygol
     9. Symud anifail buchol i le ar gyfer triniaeth filfeddygol ar yr amod ei fod yn cael ei ddychwelyd i'r fangre y daeth ohoni ar ôl y driniaeth neu'i fod yn cael ei ladd neu'n mynd yn uniongyrchol i'w gigydda.

Symud i sioeau amaethyddol
     10. Symud anifail buchol i sioe amaethyddol neu gyfres o sioeau ar yr amod ei fod yn cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r fangre y daeth ohoni ar ôl y sioe neu'r sioeau.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ailddeddfu Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984 gyda newidiadau. Mae hefyd yn cyflwyno gorfodaeth i brofi rhai anifeiliaid cyn eu symud.

Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn:

Cynhwysir adweithydd o fewn y diffiniad o anifail a amheuir yn hytrach nag o anifail yr effeithiwyd arno.

Cafodd y diffiniad o fangre a oedd yn eithrio mannau cadw dros dro megis marchnadoedd ei ddileu. Mae'r diffiniad o fangre sy'n gymwys i'r Gorchymyn hwn yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Mae'r diffiniad o garcas ac arolygydd ac arolygydd milfeddygol hefyd yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

Newidiwyd y diffiniad o anifail buchol i gynnwys byfflo a bual.

Mae eithriadau yn y Gorchymyn blaenorol yn ymwneud ag anifeiliaid a gafodd eu mewnforio wedi'u dileu.

O dan erthygl 5, rhaid hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ynghylch anifail yr effeithiwyd arno neu yr amheuir ei fod wedi'i effeithio arno, ac ni ddylid bellach hysbysu'r awdurdod lleol na'r heddlu.

Mae'r ddyletswydd i hysbysu ynghylch carcasau yn erthygl 6 yn gymwys ar gyfer pob anifail a ffermir, gan gynnwys anifeiliaid buchol, a hefyd anifeiliaid anwes.

Mae ffurflenni A a B yn atodlen 1 i'r Gorchymyn blaenorol wedi'u dileu. Rhaid i hysbysiadau o dan y Gorchymyn hwn gydymffurfio â'r darpariaethau cyffredinol yn adran 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gyda darpariaethau erthygl 20. Mae erthygl 20 hefyd yn darparu y gall trwyddedau o dan y Gorchymyn fod yn gyffredinol neu'n benodol.

Mae erthygl 8 yn eglurhau pŵer y Cynulliad Cenedlaethol i'w gwneud yn ofynnol i brofi ar gyfer twbercwlosis erbyn dyddiad penodol. Mae hyn yn gymwys mewn perthynas â phrofi buchesau'n rheolaidd yn unol ag amlder profi'r plwyf lle'u lleolir a hefyd mewn perthynas â phrofi ychwanegol a all fod yn ofynnol at wahanol ddibenion, er enghraifft pan fo anifeiliaid wedi cael eu symud heb brofion cyn symud.

Mae erthygl 8 hefyd yn eglurhau pŵer y Cynulliad Cenedlaethol i osod cyfyngiadau ar symud yn achos methiant i brofi erbyn dyddiad a benodwyd.

Pan fo prawf croen wedi'i wneud ond heb eto wedi cael ei ddarllen, neu pan fo prawf gwaed wedi'i gymryd ond nad yw'r canlyniad eto'n wybyddus, mae erthygl 8(5) yn gwahardd symud anifail hyd nes y ceir canlyniad prawf negyddol.

Mae'n drosedd i ymyrryd ag unrhyw brawf ar gyfer twbercwlosis (erthygl 8(6)).

Mae erthygl 9 yn cyflwyno gofyniad i gynnal prawf croen ar anifeiliaid buchol cyn eu bod yn symud o un fangre i un arall. Rhaid cynnal prawf croen ar bob anifail buchol ar gyfer twbercwlosis a hynny gyda chanlyniad negyddol ddim mwy na 60 diwrnod cyn eu symud. Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys i anifeiliaid sy'n dod o fewn un o'r categorïau a restrir yn erthygl 9(2).

Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn yn nodi'r symudiadau a eithrir o'r gofyniad i brofi cyn symud. Yn ychwanegol, ceidw arolygydd milfeddygol y disgresiwn i awdurdodi rhai symudiadau heb brawf cyn symud (erthygl 11(b)).

Mae erthygl 10 yn gosod dyletswydd i gadw cofnodion o rai profion ar gyfer twbercwlosis.

Mewnosodwyd darpariaethau'n ymwneud â thail a slyri yn erthygl 15 (rhagofalon yn erbyn lledaenu haint).

Mae erthygl 19 yn gosod dyletswydd i hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol fod M.bovis yn bresennol, pan fo hwnnw wedi'i ddarganfod mewn unrhyw sampl labordy, heblaw pan fydd wedi'i gyflwyno'n fwriadol yng nghwrs ymchwil. Cyfeiriad yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol yw: TB Diagnostic Laboratory, The Veterinary Laboratories Agency, Woodham Lane, New Haw, Addlestone, Surrey, KTl5 3NB.

Mae torri'r Gorchymyn yn drosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 gyda chosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd i "the Ministers", i'r graddau y gellid eu harfer gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1984/1943.back

[3] O.S. 1990/1869.back

[4] O.S. 1985/1861.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091323 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 21 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061053w.html