BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1277 (Cy.122)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
10 Mai 2006 | |
|
Yn dod i rym |
11 Mai 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 20(1), 21(4) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 11 Mai 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran disgyblion a waherddir o ysgolion yng Nghymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn–
mae i "cyfnod perthnasol" ("relevant period") yr ystyr a roddir i'r geiriau hynny gan reoliad 4;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002[2]; ac
mae i "diwrnod ysgol" ("school day") yr ystyr a roddir i "school day" yn Neddf Addysg 1996.
Amodau Rhagnodedig
3.
—(1) Rhagnodir y materion canlynol at ddibenion adran 20(1)(b) o'r Ddeddf.
(2) Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, rhaid i'r gwaharddiad fod yn ail waharddiad neu'n waharddiad olynol a waharddodd y disgybl o unrhyw ysgol cyn pen deuddeng mis ar ôl y diwrnod pan ddechreuodd y gwaharddiad blaenorol.
(3) Ym mhob achos, ni ellir gwneud cais ond cyn pen y cyfnod perthnasol ac ar yr amod–
(a) yn achos disgybl a waherddir yn barhaol, bod y cais yn cael ei wneud heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad pan waharddwyd y disgybl; a
(b) yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, bod y cais yn cael ei wneud heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y gwaharddiad diwethaf y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) uchod.
Cyfnod Perthnasol
4.
—(1) Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodedig, y "cyfnod perthnasol"yw p'un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys p'un bynnag o ohonynt sy'n dod i ben hwyraf–
(a) y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod pan ystyriwyd y gwaharddiad gan y corff llywodraethu (neu yn achos gwahardd disgybl o uned cyfeirio disgyblion, yr awdurdod addysg lleol) neu, os nad ystyriwyd y gwaharddiad felly, y diwrnod pan ddechreuodd;
(b) y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd unrhyw un o rieni'r disgybl i gontract rhianta.
(2) Yn achos disgybl a waherddir yn barhaol, y "cyfnod perthnasol" yw p'un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys, p'un bynnag ohonynt sy'n dod i ben hwyraf–
(a) y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl–
(i) y diwrnod pan benderfynodd panel apêl a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 o Ddeddf 2002 gadarnhau'r gwaharddiad, neu
(ii) os nad oedd apêl, y diwrnod olaf pan fuasai'n bosibl gwneud apêl; neu
(b) y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd unrhyw un o rieni'r disgybl i gontract rhianta.
Costau gorchymyn rhianta
5.
Bydd yr awdurdod addysg lleol yn gyfrifol am y costau sy'n gysylltiedig â gofynion gorchmynion rhianta o dan adran 20 o'r Ddeddf, gan gynnwys costau darparu rhaglenni cwnsela neu gyfarwyddyd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amodau sydd i'w bodloni cyn y caiff awdurdod addysg lleol wneud cais i lys ynadon am orchymyn rhianta o dan adran 20(1)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran disgyblion a waherddir o ysgolion yng Nghymru.
Rhoddir yr amodau yn rheoliad 3. Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, rhaid ei fod wedi'i wahardd o leiaf ddwywaith mewn cyfnod o ddeuddeng mis. Ym mhob achos, rhaid peidio â gwneud cais mwy na chwe mis ar ôl y tro diwethaf y gwaharddwyd disgybl a rhaid gwneud y cais cyn pen y "cyfnod perthnasol" a ddiffinnir yn rheoliad 4.
Mae rheoliad 5 yn darparu y bydd yr awdurdod addysg leol yn gyfrifol am gostau sy'n gysylltiedig â gofynion gorchymyn rhianta.
Notes:
[1]
2003 p.38. Rhoddir y pwerau i'r "appropriate person". Mae adran 24 yn diffinio'r "appropriate person" fel "in relation to Wales, the National Assembly for Wales"back
[2]
2002 p.32.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091336 1
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
17 May 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061277w.html