BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006 Rhif 1278 (Cy.123) (C.41)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061278w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1278 (Cy.123) (C.41)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 10 Mai 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enw
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006.

Cychwyn
    
2. I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, daw adrannau 19 i 22 a 24 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i rym ar 11 Mai 2006.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 11 Mai 2006 adrannau 19 i 22 a 24 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ("Deddf 2003"), sy'n ymwneud â chontractau rhianta a gorchmynion rhianta ar gyfer disgyblion ysgol.

Mae adran 19 yn darparu bod cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau addysg lleol yn ymrwymo i gontractau rhianta gyda rhiant disgybl neu blentyn.

Mae adran 20 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod addysg lleol wneud cais i lys ynadon am orchymyn rhianta, ar gyfer amgylchiadau pan gaiff y llys wneud gorchymyn ac ar gyfer cynnwys ac effaith gorchymyn.

Mae adran 21 yn gwneud darpariaeth atodol. Mae adran 22 yn darparu ar gyfer hawl i apelio i Lys y Goron yn erbyn gwneud gorchymyn rhianta. Mae adran 24 yn ddarpariaeth ddehongli.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran neu Atodlen Dyddiad cychwyn O.S. Rhif
1 i 11 20 Ionawr 2004 2003/3300
18 27 Chwefror 2004 2003/3300
23 27 Chwefror 2004 2003/3300
25 i 29 27 Chwefror 2004 2003/3300
30 i 38 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(1) a (2) 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(3) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(3) (y gweddill) 30 Ebrill 2004 2003/3300
39(4), (5) a (6) 20 Ionawr 2004 2003/3300
46 31 Mawrth 2004 2004/690
53 20 Ionawr 2004 2003/3300
54 31 Mawrth 2004 2004/690
57 i 59 20 Ionawr 2004 2003/3300
60 i 64 27 Chwefror 2004 2003/3300
85(1), (2) a (3) 20 Ionawr 2004 2003/3300  
85(4) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85(4) (y gweddill) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(5) (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(5) (y gweddill) (yn gyfyng ei chymhwysiad) 1 Hydref 2004 amgyfnod o 18 mis 2004/2168
85(6) (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
85(6) (y gweddill) 30 Medi 2004 2004/2168
85(7) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85(8) 27 Chwefror 2004 2003/3300
85(9), (10) ac (11) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(1) a (2) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(3) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
86(3) (y gweddill) 31 Mawrth 2004 2004/690
86(4), (5) a (6) 20 Ionawr 2004 2003/3300
87 20 Ionawr 2004 2003/3300
88 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
89(1), (2), a (3) (4) 20 Ionawr 2004 2003/3300
89(5) 31 Mawrth 2004 2004/690
89(6) a (7) 20 Ionawr 2004 2003/3300
90 31 Gorffennaf 2004 2004/1502
92 (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
92 (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
92 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
Atodlen 2 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168
Atodlen 3 (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
Atodlen 3 (yn rhannol) 31 Mawrth 2004 2004/690
Atodlen 3 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2168

Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran neu Atodlen Dyddiad cychwyn O.S. Rhif
12 30 Ebrill 2005 2005/1225 (Cy.83) (C.55)
13 (gydag arbedion) 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
14 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
14 (y gweddill) 30 Ebrill 2005 2005/1225 (Cy.83) (C.55)
15 30 Ebrill 2005 2005/1225 (Cy.83) (C.55)
16 (gydag arbedion) 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
17 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
91 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
40 i 45 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105) (C.43)
47 i 52 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105) (C.43)
55 a 56 31 Mawrth 2004 2004/999 (Cy.105) (C.43)
Rhan 8 31 Rhagfyr 2004 2004/3238 (Cy.281) (C.144)
Atodlen 1 (yn rhannol) 30 Medi 2004 2004/2557 (Cy.228) (C.107)
Atodlen 1 (y gweddill) 30 Ebrill 2005 2005/1225 (Cy.83) (C.55)


Notes:

[1] 2003 p.38.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091334 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 17 May 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061278w.html