BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 Rhif 1293 (Cy.127) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061293w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 10 Mai 2006 | ||
Yn dod i rym | 12 Mai 2006 |
1. | Enwi, cymhwyso a chychwyn |
2. | Dehongli |
3. | Cymeradwyaethau, etc. |
4. | Deunydd Categori 1 |
5. | Deunydd Categori 2 |
6. | Deunydd Categori 3 |
7. | Cymysgu sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd |
8. | Casglu, cludo a storio |
9. | Cyfyngiadau ar roi gwastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion eraill yn fwyd |
10. | Ailgylchu mewnrywogaethol |
11. | Mynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill |
12. | Tir pori |
13. | Yr awdurdod cymwys |
14. | Cymeradwyo mangreoedd |
15. | Gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio |
16. | Compostio gwastraff arlwyo yn y fangre y mae'n tarddu ohoni |
17. | Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-ffordd |
18. | Samplu mewn gweithfeydd prosesu |
19. | Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio |
20. | Samplau a anfonwyd i labordai |
21. | Labordai |
22. | Rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio yn ddeunydd bwyd anifeiliaid |
23. | Rhoi ar y farchnad fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i gwn a chynhyrchion technegol |
24. | Rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio ar dir amaethyddol |
25. | Yr awdurdod cymwys ar gyfer Pennod V o Reoliad y Cyngor |
26. | Rhanddirymiadau'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
27. | Canolfannau casglu |
28. | Claddu anifeiliaid anwes |
29. | Ardaloedd pellennig |
30. | Claddu yn achos brigiad clefyd |
31. | Llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna |
32. | Cofnodion |
33. | Cofnodion ar gyfer traddodi, cludo neu dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
34. | Cofnodion ar gyfer claddu neu losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid |
35. | Cofnodion ar gyfer gwaredu neu ddefnyddio yn y fangre |
36. | Cofnodion traddodi i'w cadw gan weithredwyr gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio |
37. | Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio |
38. | Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywyd |
39. | Cofnodion i'w cadw ar gyfer traddodi compost neu weddillion traul |
40. | Rhoi cymeradwyaethau, etc. |
41. | Atal, diwygio a dirymu cymeradwyaethau, etc |
42. | Cyflwyno sylwadau i berson a benodwyd |
43. | Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo |
44. | Glanhau a diheintio |
45. | Cydymffurfio â hysbysiadau |
46. | Pwerau mynediad |
47. | Rhwystro |
48. | Cosbau |
49. | Gorfodi |
50. | Mesurau trosiannol: cynhyrchion technegol |
51. | Mesurau trosiannol: cynhyrchion ffotograffig yn dod o gelatin |
52. | Mesurau trosiannol: llaeth |
53. | Mesurau trosiannol a dyddiadau dod i ben |
54. | Diddymu a dirymu |
ATODLEN 1 | Gofynion ychwanegol ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio |
ATODLEN 2 | Hylif yn deillio o anifeiliaid sy'n cnoi cil |
ATODLEN 3 | Dulliau profi |
(2) Y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a geir yn Erthyglau 4, 5 a 6 o Reoliad y Gymuned yn y drefn honno yw'r deunydd Categori 1, y deunydd Categori 2 a'r deunydd Categori 3, ac mae i ymadroddion eraill a ddiffinnir yn Rheoliad y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.
Cymeradwyaethau, etc.
3.
Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad, gyfarwyddyd hysbysiad neu gydnabyddiaeth a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned fod yn ysgrifenedig, a gallant fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n angenrheidiol i
Ailgylchu mewnrywogaethol
10.
—(1) Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(a) o Reoliad y Gymuned (sy'n gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol) yn dramgwydd.
(2) Er gwaethaf paragraff (1), nid yw rhoi protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu o rannau o gyrff pysgod yn fwyd i bysgod yn dramgwydd os gwneir hyn yn unol ag Erthyglau 2 i 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 ac Atodiad I iddo.
(3) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yw'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill
11.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran–
(b) sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill nad ydynt wedi'u prosesu na'u trin yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn.
(2) Mae unrhyw berson sy'n dod ag unrhyw wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall (ac eithrio llaeth, llaeth tor, gwrtaith neu gynnwys y llwybr treulio) i mewn i unrhyw fangre lle y cedwir da byw yn euog o dramgwydd.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw meddiannydd y fangre a'r person sy'n rheoli'r sgil-gynhyrchion yn sicrhau nad oes gan y da byw fynediad at y sgil-gynhyrchion, ac–
(c) os bwriedir rhoi'r sgil-gynhyrchion yn fwyd i anifeiliaid yn y fangre yn unol ag Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned fel y'i cymhwysir gan reoliad 26(3) o'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant garcas neu ran o garcas unrhyw dda byw nas cigyddwyd i'w bwyta gan bobl, tra byddo'n disgwyl anfon y carcas neu'r rhan o garcas neu ei waredu neu ei gwaredu'n unol â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, sicrhau y'i cedwir yn y fath fodd fel nad oes gan anifeiliaid ac adar (gan gynnwys anifeiliaid ac adar gwyllt) fynediad ato neu ati, ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.
(5) Mae i unrhyw berson ganiatáu i dda byw gael mynediad at unrhyw wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall yn dramgwydd ac eithrio at–
(6) Mae i unrhyw berson ganiatáu i unrhyw anifail gael mynediad at ddeunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall mewn gweithfeydd bio-nwy neu gompostio yn dramgwydd, ac eithrio nad yw'n dramgwydd i adar gwyllt gael mynediad at y deunydd yn ystod ail gyfnod compostio neu gyfnod compostio dilynol.
(7) Yn y rheoliad hwn ystyr "da byw" yw pob anifail a ffermir, ac unrhyw anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil, moch ac adar (ac eithrio adar gwyllt).
Tir pori
12.
—(1) Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(c) o Reoliad y Gymuned (rhoi deunydd ar dir pori) yn dramgwydd.
(2) At ddibenion paragraff (1), tir y bwriedir ei ddefnyddio i bori neu gnydio bwydydd anifeiliaid ar ôl rhoi neu ddyroddi arno wrteithiau organig a deunyddiau i wella'r pridd (ac eithrio gwrtaith neu gynnwys llwybr treulio) o fewn y cyfnodau canlynol yw tir pori–
(3) Bydd unrhyw berson sydd–
yn euog o dramgwydd.
(2) Ef hefyd fydd yr awdurdod cymwys ar gyfer–
(3) Awdurdodir defnyddio'r prosesau a ddisgrifir yn Atodiadau I i V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 yn unol ag Erthyglau 1 a 2 o'r Rheoliad hwnnw a'r awdurdod cymwys at ddibenion sicrhau y cydymffurfir ag Erthygl 5(3) o'r Rheoliad hwnnw yw'r Cynulliad Cenedlaethol.
Cymeradwyo mangreoedd
14.
—(1) Ni chaiff neb weithredu unrhyw un o'r canlynol, sef–
i storio, prosesu, trin, gwaredu neu ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, oni bai bod–
wedi'u cymeradwyo at y diben hwnnw yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i weithredydd mangre a gymeradwywyd sicrhau–
(b) bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i mewn i'r fangre, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.
(3) Rhaid i weithredydd gwaith hylosgi neu waith gydhylosgi uchel ei gynhwysedd sy'n hylosgi neu'n cydhylosgi deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(b) o Reoliad y Gymuned waredu'r lludw yn unol â pharagraff 4 o Bennod VII o Atodiad IV i Reoliad y Gymuned yn yr un modd â gweithredydd gwaith hylosgi isel ei gynhwysedd; ond er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw'r ddarpariaeth hon yn gymwys o ran hylosgi neu gydhylosgi cynnyrch sy'n deillio o ddeunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(b) o Reoliad y Gymuned ac a gafodd ei brosesu neu ei drin eisoes yn unol â Rheoliad y Gymuned.
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
15.
—(1) Bydd darpariaethau Rhan I o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith bio-nwy a gwaith compostio sy'n cael eu defnyddio ar gyfer trin unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn ychwanegol at ofynion paragraffau 1 i 11 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.
(2) Yn unol ag Erthygl 6(2)(g) o Reoliad y Gymuned a pharagraff 14 o Bennod II o Atodiad VI iddo–
(3) Bydd unrhyw weithredydd sy'n methu cydymffurfio â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Compostio gwastraff arlwyo yn y fangre y mae'n tarddu ohoni
16.
Yn unol ag Erthygl 6(2)(g) o Reoliad y Gymuned a pharagraff 14 o Bennod II o Atodiad VI iddo, nid yw darpariaethau'r Bennod honno a darpariaethau rheoliad 14(1)(dd) uchod yn gymwys i gompostio gwastraff arlwyo Categori 3 yn y fangre y mae'n tarddu ohoni ar yr amod–
Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-ffordd
17.
—(1) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 25(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(3) Rhaid i'r gweithredydd gofnodi'r camau sy'n cael eu cymryd yn unol ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
(4) Mae Atodlen 2 (hylif sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil) yn effeithiol mewn perthynas â hylif sy'n dod o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil.
Samplu mewn gweithfeydd prosesu
18.
—(1) Os yw gwaith prosesu yn prosesu deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2, a bod deunydd proteinaidd a broseswyd i'w anfon i fan tirlenwi (neu, yn achos deunydd Categori 2, i'w roi ar dir neu i'w anfon i waith bio-nwy neu waith compostio), rhaid i'r gweithredydd, unwaith bob wythnos–
(2) Os yw gwaith prosesu'n prosesu deunydd Categori 3 ac y bwriedir defnyddio'r deunydd proteinaidd a broseswyd mewn bwydydd anifeiliaid, rhaid i'r gweithredydd, ar bob un o'r diwrnodau y traddodir y deunydd o'r fangre–
(3) Os yw gwaith prosesu'n prosesu deunydd Categori 3 ac os na fwriedir defnyddio'r deunydd proteinaidd mewn bwydydd anifeiliaid, rhaid i'r gweithredydd, unwaith bob wythnos–
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
19.
—(1) Yn achos gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio, rhaid i'r gweithredydd, o dro i dro yn ôl yr hyn a bennir yn y gymeradwyaeth, gymryd sampl gynrychioliadol o ddeunydd sydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau amser a thymheredd a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu i Reoliad y Gymuned a'i hanfon i'w phrofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae (neu, yn achos deunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo, Salmonela yn unig) mewn labordy a gymeradwywyd i gynnal y profion hynny.
(2) Yn achos profion sy'n cadarnhau nad yw'r deunydd sydd wedi'i drin yn cydymffurfio â'r terfynau ym mharagraff 15 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned, rhaid i'r gweithredydd–
(c) cofnodi'r camau a gymerwyd yn unol â'r rheoliad hwn.
(3) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Samplau a anfonir i labordai
20.
—(1) Pa bryd bynnag y bydd gweithredydd yn anfon sampl i labordy yn unol â'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd anfon yn ysgrifenedig gyda'r sampl yr wybodaeth ganlynol–
(2) Ni chaiff neb ymyrryd â sampl a gymerwyd o dan y Rheoliadau hyn gyda'r bwriad o effeithio ar ganlyniad y prawf.
(3) Rhaid i'r gweithredydd gadw cofnod o holl ganlyniadau profion labordy.
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â pharagraffau (1) neu (3) neu sy'n mynd yn groes i baragraff (2) yn euog o dramgwydd.
Labordai
21.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai o dan y rheoliad hwn i gynnal un neu ragor o'r profion yn y rheoliad hwn os caiff ei fodloni bod gan y labordai hynny y cyfleusterau, y personŽl a'r gweithdrefnau gweithredu angenrheidiol i wneud hynny.
(2) Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth neu barhau i wneud hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r labordy gynnal yn llwyddiannus unrhyw brofion rheoli ansawdd y mae'n rhesymol i'r Cynulliad Cenedlaethol weld yn dda eu cynnal.
(3) Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn ac sy'n cynnal profion at ddibenion y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned wneud hynny yn unol â'r darpariaethau canlynol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(4) Rhaid cynnal prawf ar gyfer Clostridium perfringens yn unol â'r dull yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7937/1997 (BS-EN 13401:1999) (Enumeration of Clostridium perfringens) neu ddull cyfwerth[17].
(5) Rhaid cynnal prawf Salmonela yn unol ag un o'r dulliau yn Rhan II o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag–
(6) Rhaid cynnal prawf Enterobacteriaceae yn unol â'r dull yn Rhan III o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7402/1993 (BS 5763: Rhan 10: 1993) (Enumeration of Enterobacteriaceae) neu ddull cyfwerth[20].
(7) Pan fydd profion yn cael eu cynnal er mwyn canfod un o'r canlynol, rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu ar unwaith y Cynulliad Cenedlaethol a gweithredydd y fangre–
a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
(8) Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran deunydd wedi'i brosesu, ar ddiwrnod olaf pob mis o nifer y profion a gynhaliwyd yn ystod y mis hwnnw, eu math a'u canlyniadau, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
(9) Os yw'r sampl wedi'i hanfon i labordy a gymeradwywyd o fangre y tu allan i Gymru, rhaid dehongli'r gofyniad yn y rheoliad hwn i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol fel gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys ar gyfer y fangre y mae'r sampl wedi'i hanfon ohoni.
Rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio ar dir amaethyddol
24.
Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio ar dir amaethyddol sicrhau bod arno neu arnynt label neu fod dogfennau yn mynd gydag ef neu gyda hwy yn y fath fodd fel ag i dynnu sylw'r derbynnydd at ofynion rheoliad 12 (darpariaethau'n ymwneud â thir pori) a bydd unrhyw berson sy'n methu gwneud hynny yn euog o dramgwydd.
(3) Caniateir rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn Erthygl 23(2)(b) o Reoliad y Gymuned yn fwyd i–
os yw'n unol ag awdurdodiad.
(4) Mae'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal cofrestr o fangreoedd a awdurdodir ar gyfer rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'r fath yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas, cwn o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gwn hela a chynrhon ar gyfer abwyd pysgota.
(5) Mae'r gofrestr yn y paragraff blaenorol i gynnwys yr wybodaeth ganlynol–
(6) Yn y rheoliad hwn ac yn y rheoliad canlynol ystyr "sw" yw mangre sydd naill ai wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981[21] neu fangre y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi gollyngiad iddi o dan adran 14 o'r Ddeddf honno.
(7) Bydd unrhyw berson sy'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at unrhyw un o'r dibenion yn y rheoliad hwn ac eithrio yn unol ag awdurdodiad yn euog o dramgwydd.
Canolfannau casglu
27.
—(1) At ddibenion Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned, ni chaiff unrhyw berson weithredu canolfan gasglu at ddibenion bwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid–
onid yw'r fangre a gweithredydd y fangre wedi'u hawdurdodi.
(2) Ni chaiff unrhyw berson weithredu unrhyw fangre lle y cesglir sgil-gynhyrchion anifeiliaid a lle y cânt eu trin ar gyfer eu rhoi yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas mewn mangreoedd eraill onid yw'r fangre lle y cesglir y sgil-gynhyrchion hynny a lle y cânt eu trin a gweithredydd y fangre honno wedi'u hawdurdodi.
(3) Rhaid i weithredydd mangreoedd a awdurdodwyd o dan y rheoliad hwn gynnal a gweithredu'r fangre'n unol ag–
(4) Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir yn y fangre, neu a wahoddir i'r fangre, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.
(5) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
Claddu anifeiliaid anwes
28.
Yn unol ag Erthygl 24(1)(a) o Reoliad y Gymuned, caniateir i anifeiliaid anwes sydd wedi trigo gael eu claddu.
Ardaloedd pellennig
29.
—(1) Dim ond Ynys Enlli ac Ynys Bur sy'n ardaloedd pellennig at ddibenion Erthygl 24(1)(b) o Reoliad y Gymuned ac yn unol â hynny caniateir gwaredu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid y cyfeirir atynt yn yr is-baragraff hwnnw ac sy'n tarddu o'r ardaloedd hynny drwy eu llosgi neu eu claddu yn y fangre ar yr amod y gwneir hyn yn unol â Rhan C o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003[22].
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a rhan C o Atodiad II iddo yw'r Cynulliad Cenedlaethol.
Claddu yn achos brigiad clefyd
30.
—(1) Yn unol ag Erthygl 24(1)(c) o Reoliad y Gymuned, os oes brigiad clefyd sydd wedi'i grybwyll yn Rhestr A o Swyddfa Ryngwladol Clefydau Episootig, ni fydd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi neu eu claddu yn y fangre (fel y diffinnir "burning or burial on site"yn Rhan A o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003) os yw'r sgil-gynnyrch anifeiliaid yn cael ei gludo, a'i gladdu neu ei losgi, yn unol–
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo yw'r Cynulliad Cenedlaethol.
Llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna
31.
Yn unol ag Erthygl 8 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, caniateir gwaredu gwenyn a chynhyrchion gwenyna Categori 2 drwy eu claddu neu eu llosgi yn y fangre os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â'r Erthygl honno.
a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.
Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
37.
Rhaid i weithredydd gwaith bio-nwy neu waith compostio sy'n trin gwastraff arlwyo neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill gofnodi–
a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywyd
38.
Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol–
a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.
Cofnodion i'w cadw ar gyfer traddodi compost neu weddill traul
39.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd mangre y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu adar yn cael eu cadw arni gofnodi–
a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio mewn unrhyw fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, neu'n ei rhoi neu'n ei roi yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd–
(4) Tra byddo'r fangre'n cael ei dilysu at ddibenion rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddyd ysgrifenedig ynghylch sut y mae'n rhaid gwaredu'r deunydd a broseswyd neu a gafodd ei drin, ac mae methu cydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwn yn dramgwydd.
Atal, diwygio a dirymu cymeradwyaethau, etc.
41.
—(1) Drwy gyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd–
(2) O ran ataliad neu ddiwygiad o dan baragraff (1)(b)–
(3) Rhaid i'r hysbysiad–
(4) Os na fydd yr hysbysiad yn cael effaith ar unwaith, a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 42, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol hyd oni wneir y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad canlynol, onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, i'r diwygiad neu'r ataliad gael effaith ar unwaith a'i fod yn cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os yw wedi'i fodloni, yn dilyn sylwadau a gyflwynir o dan reoliad 42, os o gwbl, yn unol â'r rheoliad canlynol sy'n cefnogi ataliad, ac o gymryd holl amgylchiadau'r achos i ystyriaeth, na fydd y fangre'n cael ei rhedeg yn unol â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned.
Cyflwyno sylwadau i berson a benodwyd
42.
—(1) Caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch gwrthodiad, ataliad neu ddiwygiad o dan reoliad 40 neu 41 o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl i hysbysiad o'r penderfyniad gael ei roi i berson a benodwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r person a benodwyd roi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'i ddyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.
Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo
43.
Os bydd arolygydd yn barnu ei bod yn angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu os na chydymffurfir ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned, caiff yr arolygydd–
Glanhau a diheintio
44.
—(1) Os bydd yn rhesymol i arolygydd amau bod unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre y mae'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned yn gymwys iddo neu iddi yn risg i iechyd anifail neu'r cyhoedd, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal am y cerbyd neu'r cynhwysydd, neu i feddiannydd y fangre, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd gael ei lanhau a'i ddiheintio neu i'r fangre gael ei glanhau neu ei diheintio.
(2) Caiff yr hysbysiad–
Cydymffurfio â hysbysiadau
45.
—(1) Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir ag ef ar draul y person hwnnw.
(2) Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hysbysiad hwnnw neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd.
Pwerau mynediad
46.
—(1) O ddangos, os bydd angen hynny, unrhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, bydd hawl gan arolygydd i fynd i mewn, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre (gan gynnwys unrhyw fangre ddomestig os y'i defnyddir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad y Gymuned neu â'r Rheoliadau hyn) a hynny at ddibenion sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae "fangre"yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.
(2) Caiff arolygydd–
(3) Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu'n tynnu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.
(4) Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw'n fangre wedi'i meddiannu rhaid i'r arolygydd ei gadael fel y'i cafodd, sef yn effeithiol o ddiogel fel na allo neb nad yw wedi'i awdurdodi fynd i mewn iddi.
Rhwystro
47.
Bydd unrhyw berson yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw–
Cosbau
48.
—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliad hwn yn agored–
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Gorfodi
49.
—(1) Gorfodir y Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw ladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela, a gweithfeydd torri sy'n gosod cig ffres ar y farchnad a lle y'u gorfodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(2) Ac eithrio fel a bennir ym mharagraffau (1) uchod (2) mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Mesurau trosiannol: cynhyrchion technegol
50.
—(1) Er gwaethaf rheoliadau 4 a 5, caiff gosod ar y farchnad fathau o ddeunydd Categori 1 a Chategori 2 y cyfeirir atynt yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 i'w traddodi i waith technegol pwrpasol a gymeradwywyd yn unol ag Erthygl 18 o Reoliad y Gymuned ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 2 o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Mae methu cydymffurfio ag Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 (gosod ar y farchnad) neu Erthygl 5 o'r Rheoliad hwnnw (casglu a chludo) yn dramgwydd.
Mesurau trosiannol: cynhyrchion ffotograffig yn dod o gelatin
51.
—(1) Er gwaethaf rheoliad 4, yn unol ag Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC, awdurdodir defnyddio gelatin i weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig os–
(2) Rhaid i'r gwaith o weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig fynd rhagddo yn y ffatri ffotograffig a restrir yn Atodiad I i'r Penderfyniad hwnnw, ac yn unol â chymeradwyaeth a roddwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal y gymeradwyaeth ar unwaith os na chydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwn.
(4) Ni chaiff unrhyw berson–
(5) Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd sicrhau bod unrhyw gelatin ffotograffig sydd dros ben neu weddillion y gelatin ffotograffig a gwastraff arall sy'n deillio ohono–
(6) Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd gadw cofnodion am ddwy flynedd o leiaf yn rhoi manylion ynghylch prynu a defnyddio gelatin ffotograffig, yn ogystal ag ynghylch gwaredu gweddillion a deunydd dros ben.
(7) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw ddeunydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac nad yw wedi'i gludo, ei ddefnyddio neu ei waredu'n unol â'r rheoliad hwn, yn ei gwneud yn ofynnol i'r ardygydd waredu'r deunydd fel a bennir yn yr hysbysiad.
(8) Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn neu ag hysbysiad a gyflwynir oddi tano'n dramgwydd.
Mesurau trosiannol: llaeth
52.
Awdurdodir casglu, cludo, prosesu, defnyddio a storio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005, a'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion dyroddi cofrestriadau ac awdurdodiadau'n unol â'r Rheoliad hwnnw.
Diddymu a dirymu
53.
—(1) Diddymir y canlynol i'r graddau y maent yn effeithiol o ran Cymru–
(2) Dirymir Gorchymyn Rendro (Trin Hylif) (Cymru) 2001[28] [d] a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003[29].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[30]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2006
(2) Rhaid i'r man glân fod wedi'i wahanu'n ddigonol oddi wrth y man derbyn a'r fan lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio er mwyn atal y deunydd sydd wedi'i drin rhag cael ei halogi. Rhaid gosod lloriau fel na all hylifau ollwng i'r man glân o'r mannau eraill.
(3) Rhaid i'r man derbyn fod yn un hawdd i'w lanhau a'i ddiheintio a rhaid bod yno le neu gynhwysydd sydd wedi'i amgáu ac y gellir ei gloi i dderbyn a storio'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin.
2.
Rhaid dadlwytho'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn y man derbyn a naill ai–
3.
Rhaid i'r gwaith gael ei weithredu yn y fath fodd–
4.
Rhaid i'r gweithredydd nodi, rheoli a monitro pwyntiau critigol addas yng ngweithrediad y gwaith i ddangos–
5.
Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri a cherbydau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin yn y man pwrpasol cyn iddynt adael y fangre a chyn bod unrhyw ddeunydd sydd wedi'i drin yn cael ei lwytho. Yn achos cerbydau sy'n cludo dim ond gwastraff arlwyo heb ei drin ac nad ydynt yn cludo deunydd sydd wedi'i drin ar ôl hynny, dim ond olwynion y cerbyd y mae angen eu glanhau.
System | Compostio mewn adweithydd caeedig | Compostio mewn adweithydd caeedig | Compostio mewn rhenciau wedi'u hamgáu |
Mwyafswm maint y gronyn | 40cm | 6cm | 40cm |
Isafbwynt y tymheredd | 60°C | 70°C | 60°C |
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd | 2 ddiwrnod | 1 awr | 8 niwrnod (yn ystod y cyfnod hwn, rhaid troi'r rhenc o leiaf deirgwaith a hynny heb fod yn llai aml na phob deuddydd) |
System | Bio-nwy mewn adweithydd caeedig | Bio-nwy mewn adweithydd caeedig |
Mwyafswm maint y gronyn | 5cm | 6cm |
Isafbwynt y tymheredd | 57°C | 70°C |
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd | 5 awr | 1 awr |
Gweithfeydd bio-nwy
4.
Rhaid i gymeradwyaeth gwaith bio-nwy bennu un o'r dulliau yn y tabl ac, yn ychwanegol at hynny, ei gwneud yn ofynnol naill ai–
(b) trin yr hylif sy'n dod o'r gwaith prosesu yn y fangre brosesu yn y fath fodd fel bod gan yr hylif a gafodd ei drin–
ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.
(2) Os yw'r person sy'n prosesu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn traddodi hylif nad yw wedi'i drin yn unol ag is-baragraff (1)(b) i'w ollwng gan berson arall, a bod y person hwnnw'n methu ei ollwng yn unol ag is-baragraff (1)(a)–
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran gwaed nad yw wedi'i gymysgu gydag unrhyw ddeunydd arall sy'n dod o anifail sy'n cnoi cil.
Mesur hylif a gafodd ei drin
2.
—(1) Er mwyn sicrhau bod yr hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) y lleiaf y mae'n rhaid i weithredydd sy'n trin hylif yn unol â'r paragraff hwnnw ei wneud yw'r mesuriadau canlynol.
(2) Rhaid i'r gweithredydd fonitro'n barhaus lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin neu fel arall ei mesur deirgwaith y dydd.
(3) Unwaith yr wythnos, rhaid i'r gweithredydd fesur lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin drwy ddull sy'n cydymffurfio â "Suspended Settleable and Total Dissolved Solids in Waters and Effluents[33]".
(4) Unwaith yr wythnos rhaid i'r gweithredydd fesur galw'r hylif a gafodd ei drin am ocsigen biocemegol drwy ddull sy'n cydymffurfio â'r "5 day Biochemical Oxygen Demand (BOD5)[34]".
(5) Os yw unrhyw un o'r mesuriadau hyn yn dangos nad yw'r hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) rhaid i'r gweithredydd sicrhau mai'r hylif a gafodd ei drin yn unol aö pharagraff 1(1)(a) yn unig sydd yn cael ei ryddhau hyd onid yw profion pellach yn dangos bod y system drin yn cyrraedd y lefelau gofynnol.
(6) Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Cofnodion
3.
—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi dyddiadau a chanlyniadau mesuriadau a wnaed yn unol â pharagraff 2.
(2) Ar gyfer yr holl hylif a gaiff ei ollwng neu ei draddodi o'r fangre brosesu, rhaid iddo, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–
(3) Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Cofnodion traddodi
4.
—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n traddodi unrhyw hylif sy'n deillio o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil (p'un ai ef ei hun a'u prosesodd ai peidio) o unrhyw fangre, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–
(2) Rhaid iddo roi copi i'r person sy'n cludo'r hylif.
(3) Rhaid i'r cludydd gadw ei gopi o'r cofnod gyda'r llwyth hyd oni ollyngir neu oni waredir yr hylif.
(4) Rhaid i'r sawl sy'n traddodi gadw copi o'r cofnod am ddwy flynedd o leiaf, a rhaid i'r cludydd ei gadw am ddwy flynedd o leiaf.
(5) Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.
a'u deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.
Symudoldeb
10.
Rhaid archwilio'r cyfrwng symudoldeb nitrad am y math o dyfiant ar hyd y llinell drywanu. Os oes tystiolaeth o dyfiant yn tryledu i mewn i'r cyfrwng oddi wrth y llinell drywanu, rhaid ystyried bod y bacteria yn symudol.
Rhydwytho nitrad yn nitrid
11.
Ar ôl archwilio'r cyfrwng symudoldeb nitrad, rhaid ychwanegu ato 0.2 ml i 0.5 ml o adweithydd canfod nitrid. Bydd lliw coch yn ymffurfio yn cadarnhau bod y bacteria wedi rhydwytho nitrad i nitrid. Rhaid diystyru meithriniadau sy'n dangos adwaith wan (h.y. lliw pinc). Os na fydd lliw coch yn ymffurfio cyn pen 15 munud, rhaid ychwanegu swm bach o lwch zinc a gadael i'r plât sefyll am 15 munud. Os bydd lliw coch yn ymffurfio ar ôl ychwanegu llwch zinc, bydd hyn yn cadarnhau nad yw nitrad wedi'i rydwytho'n nitrid.
Cynhyrchu nwy ac asid o lactos a gelatin yn troi'n hylif
12.
Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am bresenoldeb swigod bach nwy yn y cyfrwng.
13.
Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am liw. Mae lliw melyn yn dangos bod y lactos wedi eplesu.
14.
Rhaid oeri'r cyfrwng gelatin lactos am un awr ar 2- 8°C ac yna'i wirio i weld a yw'r gelatin wedi hylifo. Os yw'r cyfrwng wedi ymsolido, rhaid ei ailddeor yn anerobig am 18- 24 awr eto, oeri'r cyfrwng am un awr eto ar 2- 8°C a'i wirio eto i weld a yw'r gelatin wedi hylifo.
15.
Rhaid penderfynu ar bresenoldeb Clostridium perfringens ar sail y canlyniadau o baragraffau 10 i 14. Rhaid ystyried bod bacteria sy'n cynhyrchu cytrefi duon ar agar SF, yn ansymudol, yn rhydwytho nitrad yn nitrid, yn cynhyrchu nwy ac asid o lactos ac yn hylifo gelatin o fewn 48 awr yn Clostridium perfringens.
Profion Rheoli
16.
Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio–
17.
Rhaid rhoi darnau 10 gram o brotein anifail wedi'i rendro yn aseptigol yn y naill a'r llall o ddau gynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Ddŵ r Pepton Byfferog (BPW)[40] a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y samplau mewn daliant gwastad.
18.
Rhaid rhoi un gytref o Clostridium perfringens mewn 10 ml BPW a'i chymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol. Rhaid ailadrodd hyn ar gyfer Escherichia coli.
19.
Yna caiff y rhain eu trin a'u harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.
Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.
7.
Rhaid i'r cawl RV a ailddeorwyd gael ei osod ar blatiau fel a ddisgrifir ym mharagraff 4.
Diwrnod pump
8.
Ar y pumed diwrnod, rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent "O"ac amryfalent "H" (cyfnod 1 a 2) sera cyflynedig ar gytrefi detholedig a amheuir ac a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau gyda un o'r sera neu yn y ddau rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau. Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i weithredydd y labordy anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer dosbarthu ymhellach.
9.
Rhaid archwilio'r platiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 a chymryd camau pellach yn ôl paragraff 6 ac 8.
Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.
Diwrnod pump
15.
ar y pumed diwrnod, rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent "O"ac amryfalent "H" (cyfnod 1 a 2) sera cyfludol ar gytrefi detholedig a amheuir ac a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau yn un o'r sera neu yn y ddau rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau. Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i weithredydd y labordy anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer dosbarthu ymhellach.
ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau a yw'r cytrefi yn Enterobacteriaceae neu beidio.
6.
Ar ôl cyfrif y cytrefi, rhaid cymryd cytrefi nodweddiadol ar hap o'r platiau agar, a rhaid i'r nifer fod o leiaf yn ail isradd y cytrefi a gyfrifwyd. Rhaid is-feithrin y cytrefi ar blât agar gwaed a'u deor yn aerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.
Archwilio'r is-feithriniadau
7.
Rhaid cyflawni prawf ocsidas a phrawf eplesiad glwcos ar bob un o'r pum cytref a gafodd eu his-feithrin. Rhaid ystyried bod cytrefi sy'n ocsidas-negyddol ac yn eplesiad glwcos-cadarnhaol yn Enterobacteriaceae.
8.
Os na phrofir bod yr holl gytrefi yn Enterobacteriaceae, rhaid i'r cyfanswm cyfrif ym mharagraff 5 gael ei leihau yn gymesur cyn cadarnhau a ddylai'r sampl fethu neu beidio.
Dulliau rheoli
9.
Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio–
10.
Rhaid rhoi cyfran 10 gram o'r protein anifail wedi'i rendro yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml BPW a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.
11.
Rhaid rhoi un gytref o Escherichia coli mewn 10 ml BPW a'i gymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol.
12.
Yna caiff hon ei thrin a'i harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.
Gwneir darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi mesurau yn Rheoliad y Gymuned o ran mewnforio, allforio a masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau gan offerynnau ar wahân.
Mae'r Rheoliadau'n darparu fel a ganlyn.
Mae categoreiddio, casglu, cludo, gwaredu, storio, prosesu neu ddefnyddio deunydd Categori 1, Categori 2 neu Gategori 3 ac eithrio yn unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliadau 4, 5 a 6) yn dramgwydd penodol. Mae cymysgedd o sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd i'w trin fel pe baent yn sgil-gynhyrchion mamalaidd (rheoliad 7).
Mae casglu, cludo, adnabod neu storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac eithrio yn unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliad 8) yn dramgwydd penodol.
Mae rheoliadau 9 a 10 yn gorfodi'r cyfyngiadau a geir yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned ar roi yn fwyd wastraff arlwyo a phrotein anifail wedi'i brosesu. At hyn, mae rheoliad 9 yn gwahardd rhoi yn fwyd i anifeiliaid a ffermir sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill heb eu prosesu.
Mae rheoliad 11 yn cyfyngu ar fynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill.
Mae rheoliad 12 yn gorfodi'r cyfyngiadau yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned ar roi gwrtaith organig ar dir pori.
Mae rheoliadau 13 i 15 yn darparu ar gyfer cymeradwyo mangreoedd ar gyfer y gwahanol ddulliau o drin sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae Rheoliad 16 yn darparu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer compostio mewn mangre y tarddodd y deunydd a gaiff ei gompostio ohoni os cydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwnnw.
Mae rheoliadau 17 i 21 yn darparu ar gyfer gwiriadau mewn gweithfeydd, wrth samplu ac mewn labordai a gymeradwywyd.
Mae rheoliadau 22 i 24 yn rheoleiddio rhoi ar y farchnad gynhyrchion amrywiol sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Mae rheoliadau 25 i 27 yn darparu rhanddirymiadau sy'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi ac i'w rhoi'n fwyd i rai anifeiliaid penodedig. Mae Rheoliad 28 yn caniatáu claddu anifeiliaid anwes.
Mae rheoliad 29 yn caniatáu claddu a llosgi mewn ardaloedd pellennig, a ddiffinnir fel Ynys Enlli ac Ynys Bur. Mae rheoliadau 30 a 31 yn darparu ar gyfer claddu neu losgi yn achos brigiad clefyd neu ar gyfer llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna.
Mae rheoliadau 32 i 39 yn darparu ar gyfer cadw cofnodion.
Mae rheoliadau 40 i 42 yn darparu ar gyfer ceisiadau am gymeradwyaethau, awdurdodiadau a chofrestriadau, am eu hatal neu eu dirymu ac am sylwadau yn erbyn hysbysiad i'w diwygio, i'w hatal neu i'w dirymu.
O dan reoliadau 43 i 45 gall arolygydd gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynnyrch anifeiliaid neu wastraff arlwyo ac yn ei gwneud yn ofynnol glanhau a diheintio unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn a hynny ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.
Mae rheoliadau 46 a 47 yn darparu pwerau mynediad a thramgwydd o rwystro arolygydd.
Gorfodir y Rheoliadau gan yr awdurdod lleol ac eithrio mewn mangreoedd penodol (rheoliad 49).
Mae rheoliadau 50 i 52 yn darparu ar gyfer mesurau trosiannol i gynhyrchion technegol, cynhyrchion ffotograffig o gelatin a llaeth (nad oes iddynt ddyddiad dod i ben).
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a chompostio.
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwaredu hylif o rendro sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil.
Mae Atodlen 3 yn darparu ar gyfer dulliau profi.
[b]
Mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy hyd at yr uchafswm statudol neu gyfnod o dri mis yn y carchar. O gollfarnu ar dditiad, dirwy heb derfyn neu dymor o ddwy flynedd yn y carchar yw'r gosb (rheoliad 48).
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
[3] OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.back
[4] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.back
[5] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.back
[6] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.back
[7] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.back
[8] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.back
[9] OJ Rhif L151,30.4.2004, t.11 fel y"i cywirwyd gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L208, 10.6.2004, t. 9 ac fel y"i cywirwyd ymhellach gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L396, 31.12.2004, t.63.back
[10] OJ Rhif L112, 19.4.2004, t.1.back
[11] OJ Rhif L162, 30.4.2004, t 62.back
[12] OJ Rhif L16, 20.1.2005, p.46.back
[13] OJ Rhif L19, 21.1.2005, p.27.back
[14] OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.34.back
[15] Ychwanegwyd Pennod VII at Atodiad IV gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.back
[16] Ychwanegwyd y paragraff hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.back
[17] Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, British Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back
[18] Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.back
[19] Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.back
[20] Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.back
[22] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.back
[23] OJ Rhif L332, 28.12.2000, t.91.back
[24] OJ Rhif L182, 16.7.1999, t.1; Cyfarwyddeb fel y"i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a"r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).back
[25] OJ Rhif L30, 6.2.1993, t.1; Rheoliad fel y"i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2557/2001 (L349, 31.12.2001, t.1).back
[33] Ceir hwn yn y gyfres "Methods for the Examination of Waters and Associated Materials" sydd ar gael ar dudalen we Asiantaeth yr Amgylchedd ar y rhyngrwyd (http://www.environment-agency.gov.uk/nls) ond a gyhoeddwyd cyn hynny gan y Llyfrfa fel ISBN 011751957X.back
[34] Ceir hwn yn y gyfres "Methods for the Examination of Waters and Associated Materials" sydd ar gael ar dudalen we Asiantaeth yr Amgylchedd (http://www.environment-agency.gov.uk/nls) ond a gyhoeddwyd cyn hynny gan y Llyfrfa fel ISBN 0117522120.back
[35] Shahidi-Ferguson Agar – Gweler Shahidi, S.A. a Ferguson, A.R. (1971) Applied Microbiology 21:500-506. American Society for Microbiology, 1913 1 St N.W., Washington DC 20006, UDA.back
[36] Motility nitrate medium – Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O"Keefe MF, Vahlefeld R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892. National Research Council of Canada, Ottawa ON K1A OR6, Canada.back
[37] Lactos gelatin medium – Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O"Keefe MF, Vahlefield R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892.back
[38] Charcoal gelatin discs -Gweler Mackie a McCartney, (1996) Practical Medical Microbiology 14, 509. Churchill Livingstone, Robert Stevenson House, 1-3 Baxter"s Place, Leith Walk, Caeredin EH1 3AF.back
[39] The National Collection of Type Cultures, Central Public Health Laboratory, 61 Colindale Ave, Llundain NW9 5HT.back
[40] Buffered Pepton Water – Gweler Edel, W. and Kampelmacher, E.H. (1973) Bulletin of World Health Organisation, 48: 167-174, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir (ISSN 0042-9686).back
[41] Rappaports Vassiliadis Broth – Gweler Vassiliadis P, Pateraki E, Papaiconomou N, Papadkis J A, a Trichopoulos D (1976) Annales de Microbiologie (Institute Pasteur) 127B: 195-200. Elsevier, 23 rue Linois, 75724 Paris, Cedex 15, Ffrainc.back
[42] Brilliant Green Agar – Gweler Edel W and Kampelmacher E H (1969) Bulletin of World Health Organisation 41:297-306, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir (ISSN 0042-9686).back
[43] Xylose Lisene Deoxycholate Agar – Gweler Taylor W I, (1965) American Journal of Clinical Pathology, 44:471-475, Lippincott and Raven, 227E Washington Street, Philadelphia PA 19106, UDA.back
[44] MacConkey Agar – Gweler (1963) International Standards for Drinking Water, World Health Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir.back
[45] Buffered Peptone Water/Lysine/Glucose – Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbiology 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).back
[46] Selenite Cystine Trimethylamine-N-Oxide Dulcitol – Gweler Easter, M C and Gibson, D M, (1985) Journal of Hygiene 94:245-262, Cambridge University Press, Caer-grawntback
[47] Lysine Decarboxylase Glucose – Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbilogy 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).back
[48] Violet Red Bile Glucose Agar – Gweler Mossell D A A, Eelderink I, Koopmans M, van Rossem F (1978) Laboratory Practice 27 No. 12 1049-1050; Emap Maclaren, PO Box 109, Maclaren House, 19 Scarbrook Road, Croydon CR9 1QH.back
[49] Mae cymedr rhifyddol yn gyfwerth â 3x10Å o unedau ffurfio cytref fesul gram o"r sampl wreiddiol.back
[50] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.back
[51] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.back
[52] OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.back
[53] OJ Rhif L117,13.5.2003, t.24.back
[54] OJ Rhif L151, 30.4.2004, t.11 fel y"i cywirwyd gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L208, 10.6.2004, t.9 ac fel y"i cywirwyd ymhellach gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L396, 31.12.2004, t.63.back
[55] OJ Rhif L112, 19.4.2004, t.1.back
[56] OJ Rhif L162, 30.4.2004, t.62.back
[57] OJ Rhif L16, 20.1.2005, t.46.back
[58] OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.27.back
[59] OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.34.back
[b]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 5, yn y Nodyn Esboniadol, fersiwn Gymraeg; dylid dileu'r paragraff cyntaf sy'n dechrau â "Mae Atodlen 4 yn cynnwys...";
Tudalen 5, yn y Nodyn Esboniadol, fersiwn Saesneg; dylid dileu'r paragraff cyntaf sy'n dechrau â "Schedule 4 contains";
back
[c]
Amended by Correction Slip.
Tudalen 9, ar ddiwedd Trefn y Rheoliadau, fersiwn Saesneg; dylid dileu "SCHEDULE 4" a "Transitional Measures" ;
Tudalen 9, ar ddiwedd Trefn y Rheoliadau, fersiwn Gymraeg; dylid dileu "ATODLEN 4" a "Mesurau Trosiannol";
back
[d]
Amended by Correction Slip.
Page 35, English language version, regulation 53(2) should read: "The Animal By-Products Regulations 2003[28] are revoked.";
Page 35, Welsh language version, regulation 53(2) should read: "Dirymir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003 [29].";
back
Page 35, in both the English and Welsh language versions: footnote [27], "S.I. 2001/1515", should deleted; and
Page 35, in both the English and Welsh language versions: footnotes [27] and [28] should be re-numbered as footnotes [28] and [29] respectively.
back