BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006 Rhif 1335 (Cy.128)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061335w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1335 (Cy.128)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006

  Wedi'u gwneud 16 Mai 2006 
  Yn dod i rym 1 Awst 2006 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 112 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006.

    (2) Maent yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn–

    (2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth yn y pedwerydd cyfnod allweddol yn gyfeiriadau at ofynion adran 106(1) o Ddeddf 2002 i'r graddau y maent yn gymwys i wyddoniaeth[4].

Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, ni fydd gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth yn y pedwerydd cyfnod allweddol yn gymwys i ddisgybl mewn ysgol a gynhelir ar unrhyw bryd pan fo pennaeth yr ysgol wedi'i fodloni bod y disgybl yn dilyn cwrs sy'n arwain at ddyfarnu cymhwyster gwyddoniaeth perthnasol.

    (2) At ddibenion paragraff (1), mae cymhwyster yn gymhwyster gwyddoniaeth perthnasol–

Dyddiad Dod i Ben y Rheoliadau
     4. —(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys ar ddiwedd Gorffennaf 2008.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mai 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 (sef, yn fras, disgyblion 14 – 16 oed) sy'n mynychu ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol, ac ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig (ac eithrio ysgolion a gynhelir mewn ysbytai) yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn datgymhwyso gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth mewn perthynas â disgybl os yw pennaeth yr ysgol wedi'i fodloni bod y disgybl yn dilyn cwrs sy'n arwain at gymhwyster allanol a gymeradwywyd o dan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar lefel mynediad, ar lefel 1 neu ar lefel 2. Y gofynion a ddatgymhwysir yw'r rhai a bennir yn adran 106 o Ddeddf Addysg 2002, sy'n darparu bod y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer cyfnod allweddol 4 i gynnwys gwyddoniaeth (ymhlith pynciau eraill) a'i fod i bennu targedau cyrhaeddiad, rhaglenni astudio a threfniadau asesu ar gyfer y pwnc hwnnw. Mae'r targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio ar gyfer gwyddoniaeth wedi'u cynnwys ar hyn o bryd mewn Dogfen o'r enw ‘Science in the National Curriculum' (ISBN 07504 24028), y mae cop•au ohoni ar gael o The Stationery Office Limited. Nid oes unrhyw drefniadau asesu.

Mae'r datgymhwyso yn gymwys am gyfnod cyfyngedig o 2 flynedd (sy'n dod i ben ar ddiwedd Gorffennaf 2008).


Notes:

[1] 2002 p.32. ystyr ‘Regulations' (o ran Cymru) yw rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol; gweler adran 212(1).back

[2] Gweler adran 27 o Ddeddf Addysg 1997, p.44. Gweler O.S. 2005/3239 ynghylch diddymu ACCAC a throsglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol.back

[3] Gweler O.S. 2005/3239 ynghylch diddymu ACCAC a throsglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol. Yr awdurdodau cyfatebol yw Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir y cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir gweld y Fframwaith ar www.qca.org.uk.back

[4] Mae'r targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio cyfredol wedi'u nodi yn y Ddogfen ‘Science in the National Curriculum' (ISBN 07504 24028), sydd ar gael o The Stationery Office Limited. Nid oes unrhyw drefniadau asesu.back

[5] 2000 p.21.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091341 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 May 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061335w.html