[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006 Rhif 1338 (Cy.130) (C.45) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061338w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 16 Mai 2006 |
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.
Y Diwrnod penodedig
3.
Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru.
4.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru a Lloegr.
(2) Nid yw adrannau 41 a 42 i ddod i rym ond i'r graddau eu bod yn gymwys i ysgolion arbennig o'r disgrifiad sydd yn adran 28(2)(d).
5.
Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007 o ran Cymru a Lloegr.
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
6.
Mae'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
Adran 44 | Categorïau o ysgolion sy'n peri pryder. |
Adran 45 | Achosion pan gaiff y Cynulliad gyfarwyddo cau ysgol. |
Adran 46 | Dosbarthiadau chwech y mae gofyn eu gwella'n sylweddol. |
Adran 47 | Ystyr "denominational education". |
Adran 51 | Pŵer yr AALl i arolygu ysgol a gynhelir at ddiben penodol. |
Adran 53, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 y cyfeirir atynt isod. | Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin. |
Adran 54 | Arolygu ysgolion annibynnol. |
Adran 58 | Arolygu cofnodion cyfrifiadurol. |
Adran 59 | Adroddiadau cyfunol. |
Adran 60 | Diddymu Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996. |
Adran 61, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 y cyfeirir atynt isod. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion. |
Adran 71 | Cynigion sy'n ymwneud ag ysgolion arbennig a gynhelir. |
Adran 105 | Darparu a chyllido addysg uwch mewn ysgolion a gynhelir. |
Adran 106 | Trefniadau derbyn i wneud darpariaeth arbennig i blant sy'n derbyn gofal. |
Adran 115 | Pwer corff llywodraethu i wneud darpariaeth amgen ar gyfer disgyblion sydd wedi'u gwahardd. |
Adran 116 | Rhiant yn methu â sicrhau bod plentyn yn mynychu'r ddarpariaeth amgen. |
Adran 117 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud â Rhan 4. |
Adran 118 | Ystyr "the 2002 Act" yn Rhan 4. |
Adran 123 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. | Diddymiadau. |
Atodlen 5 | Dosbarthiadau chwech y mae angen eu gwella'n sylweddol. |
Paragraffau 6 i 24 o Atodlen 7. | Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin. |
Atodlen 8 | Arolygu ysgolion annibynnol. |
Paragraffau 8 i 21 a 28 i 30 o Atodlen 9. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion. |
Paragraffau 1, 6 a 15 o Atodlen 18. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud â Rhan 4. |
Yn Atodlen 19, Rhan 1: | Diddymiadau |
Y diddymiadau sy'n ymwneud â: Deddf Addysg 1996, Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996, Deddf Addysg 1997, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (ac eithrio adran 81), Deddf Addysg 2002. | Diddymiadau. |
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
Adran 19 | Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. |
Adran 20 | Swyddogaethau'r Prif Arolygydd. |
Adran 21 | Adroddiadau blynyddol ac adroddiadau eraill i'r Cynulliad. |
Adran 22 | Pŵer y Cynulliad i sefydlu panel cynghorol. |
Adran 23 | Pwerau mynediad etc y Prif Arolygydd. |
Adran 24 | Pŵer y Prif Arolygydd i drefnu arolygiadau. |
Adran 25 | Cofrestru Arolygwyr yng Nghymru. |
Adran 26 | Tynnu arolygwyr o'r Gofrestr a gorfodi ac amrywio amodau. |
Adran 27 | Apelau ynghylch cofrestru. |
Adran 28 | Dyletswydd i drefnu bod ysgolion penodol yn cael eu harolygu'n rheolaidd. |
Adran 29 | Cyhoeddi adroddiadau arolygu. |
Adran 30 | Talu ffioedd i Gronfa Gyfunol. |
Adran 31 | Dehongli Pennod 3. |
Adran 32 | Arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth. |
Adran 33 | Dyletswydd i roi adroddiad ar arolygiadau adran 28. |
Adran 34 | Arolygiadau adran 28 gan arolygwyr cofrestredig. |
Adran 35 | Adroddiadau ar Arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth. |
Adran 36 | Amseru arolygiadau adran 28 gan arolygwyr cofrestredig. |
Adran 37 | Dyletswydd i hysbysu pan fo arolygiad yn dangos bod ysgol a gynhelir yn peri pryder. |
Adran 38 | Cyrchfan adroddiadau: ysgolion a gynhelir. |
Adran 39 | Datganiad i'w baratoi gan awdurdod priodol i'r ysgol. |
Adran 40 | Datganiad i'w baratoi gan awdurdod addysg lleol. |
Adran 41 | Cyrchfan adroddiadau: ysgolion nas cynhelir. |
Adran 42 | Datganiad i'w baratoi gan berchennog ysgol. |
Adran 43 | Dehongli Pennod 4. |
Adran 50 | Arolygu addysg grefyddol: Cymru. |
Adran 52 | Darparu gwasanaethau arolygu gan AALl yng Nghymru. |
Adran 53, i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 5 o Atodlen 7. | Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin. |
Adran 61, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 y cyfeirir atynt isod. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion. |
Adran 123, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. | Diddymiadau. |
Atodlen 2 | Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. |
Atodlen 3 | Cofrestru Arolygwyr yng Nghymru: Tribiwnlysoedd sy'n gwrando apelau o dan adran 27. |
Atodlen 4 | Arolygiadau Ysgolion yng Nghymru o dan adran 28. |
Atodlen 6 | Arolygiadau o addysg enwadol yng Nghymru. |
Paragraff 5 o Atodlen 7. | Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin. |
Paragraffau 6, 7, 22 , 24, 25 a 27 o Atodlen 9. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion. |
Yn Atodlen 19, Rhan 1, yn Neddf Plant 1989, diddymu yn adran 79T(2)(a) y geiriau "the quality and standards of". | Diddymiadau. |
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
Adran 55 | Arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru. |
Adran 56 | Arolygu gwasanaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru. |
Adran 57 | Arolygiadau o dan adrannau 55 a 56: darpariaethau pellach. |
Adran 123 i'r graddau y mae'n ymwneud a darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. | Diddymiadau. |
Yn Atodlen 19, Rhan 1, y diddymiadau yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a diddymiad adran 81 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. | Diddymiadau. |
3.
Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad o ysgol yn un a wnaed o dan y Ddeddf honno ac a nododd fod gan yr ysgol wendidau difrifol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod yr ysgol yn un yr oedd gofyn ei gwella'n sylweddol o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–
4.
Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol yn un a wnaed o dan Ddeddf 1996 ac a nododd fod gan yr ysgol ddosbarth chwech diffygiol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad arolygiad a nododd fod gofyn gwella sylweddol ar ddosbarth chwech yr ysgol at ddibenion adran 113 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 7 iddi (fel y'i diwygiwyd gan adran 46 o Ddeddf 2005 ac Atodlen 5 iddi).
5.
Pan fo hysbysiad apêl yn cael ei gyflwyno i'r tribiwnlys cyn 1 Medi 2006, mae adran 27 ac Atodlen 3 i fod yn gymwys i'r apêl fel petai is-adran (2) o adran 27 yn cael ei hepgor.
6.
Er i adran 27 ac Atodlen 3 iddi gael eu dwyn i rym, ac er i adran 9 o Ddeddf 1996 ac Atodlen 2 iddi gael eu diddymu, oll gan y Gorchymyn hwn ar 1 Medi 2006, mae unrhyw reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 1996 sydd mewn grym ar 31 Awst 2006 ("y Rheoliadau presennol") i barhau i fod yn effeithiol o ran Cymru hyd at y dyddiad pryd y daw rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 2 o Atodlen 3 ddod i rym, fel petai'r Rheoliadau presennol wedi cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y paragraff hwnnw o'r Atodlen honno.