BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion ("Phytophthora ramorum^/hw2^) (Cymru) 2006 Rhif 1344 (Cy.134)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061344w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1344 (Cy.134)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 16 Mai 2006 
  Yn dod i rym 24 Mai 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2, 3(1), (2)(b) a (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Mai 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn–

Gwaharddiad rhag dod â Phytophthora ramorum i Gymru a'i ledaenu o fewn Cymru
     3. Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â–

Mewnforio deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA
    
4. Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â mewnforio[5]i Gymru ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA oni–

Symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu mewn trydydd gwledydd
     5. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac erthygl 11, pan fydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA neu yn unrhyw drydedd wlad arall wedi'i fewnforio i Gymru, rhaid i berson beidio â symud y deunydd hwnnw–

oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef .

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fewn Cymru os bydd ei symud yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 12.

Symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yng Nghymru neu mewn man arall yn y Gymuned Ewropeaidd neu yn y Swistir
    
6. —(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â symud i Gymru ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu–

oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef a'i fod yn bodloni gofynion Atodlen 2.

    (2) Rhaid i berson sydd wrth ei waith yn masnachu, neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad arall beidio â symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gynhyrchir yng Nghymru o'r man cynhyrchu onid oes pasbort planhigion yn mynd gyda'r deunydd a'i fod yn bodloni gofynion Atodlen 2.

Cynhyrchwyr cofrestredig
    
7. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i berson sy'n cynhyrchu deunydd sy'n dueddol o gael y pla beidio â symud y deunydd hwnnw onid yw wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd yn unol ag erthyglau 15 ac 16 o'r prif Orchymyn neu baragraff (2) o'r erthygl hon.

    (2) O ran cynhyrchydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla nad yw wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd o dan y prif Orchymyn–

    (3) Rhaid i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd yn unol â pharagraff (1) roi hysbysiad o unrhyw achos a amheuir o Phytophthora ramorum neu o bresenoldeb Phytophthora ramorum a gadarnhawyd yn y man cynhyrchu y mae'r person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef.

    (4) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i bersonau sy'n cynhyrchu deunydd sy'n dueddol o gael y pla neu sy'n symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla y maent wedi'i gynhyrchu os ydynt yn gwneud hynny heb fod wrth eu gwaith yn masnachu, neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad arall.

Pasbortau planhigion
    
8. —(1) Mae erthyglau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys o ran pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan erthyglau 5 neu 6, fel sy'n briodol, o'r Gorchymyn hwn–

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae person sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan erthygl 17 o'r prif Orchymyn i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion ar ran busnes hefyd wedi'i awdurdodi o dan y Gorchymyn hwn i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn ar ran y busnes hwnnw.

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gwl yn dda eu gosod, awdurdodi person nas awdurdodwyd o dan baragraff (2), i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn ar ran unrhyw fusnes, unigolyn neu gorff arall,–

    (4) Caiff arolygydd dynnu'n ôl awdurdod a roddir i berson o dan baragraff (2) neu (3) i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn os yw'r arolygydd wedi'i fodloni nad yw'r person hwnnw'n bodloni darpariaethau'r Gorchymyn hwn o ran pasbortau planhigion.

Tystysgrifau ffytoiechydol
    
9. —(1) Mae darpariaethau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys i dystysgrif ffytoiechydol sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn–

    (2) Os traddodwyd, i drydedd wlad nad hi yw'r wlad y dyroddwyd y dystysgrif ynddi, lwyth o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y mae tystysgrif ffytoiechydol yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi'i dyroddi yn unol ag erthygl 4 ac os cafodd y deunydd ei storio, ei ailbacio neu ei rannu yn y drydedd wlad honno, rhaid i'r dystysgrif ffytoiechydol wreiddiol neu gopi ohoni sydd wedi'i ardystio fynd gyda'r deunydd ynghyd â thystysgrif ffytoiechydol ar gyfer anfon ymlaen a ddyroddir gan wasanaeth iechyd planhigion swyddogol y drydedd wlad honno.

Tystysgrifau ffytoiechydol neu basportau planhigion a ddyroddir y tu allan i Gymru
    
10. —(1) Rhaid tybio bod unrhyw dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddir at ddibenion y Gorchymyn hwn neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol trydedd wlad wedi'i dyroddi'n unol â gofynion perthnasol Atodlen 1.

    (2) Rhaid tybio bod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y dyroddwyd pasbort planhigion iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn neu ddeddfwriaeth gyfatebol yn y wlad lle y'i dyroddwyd gan neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol Aelod-wladwriaeth neu ran arall o'r Deyrnas Unedig neu Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yn bodloni gofynion Atodlen 2.

    (3) Rhaid tybio bod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y dyroddwyd iddo basbort planhigion y Swistir gan neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol yn y Swistir yn bodloni gofynion Atodlen 2.

Trwyddedau at ddibenion gwyddonol neu ddibenion ymchwil
    
11. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau erthygl 30A o'r prif Orchymyn fod yn gymwys o ran mewnforio, symud a chadw Phytophthora ramorum , neu unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y mae Phytophthora ramorum yn bresennol arno, a fyddai fel arall wedi'i wahardd o dan y Gorchymyn hwn, fel pe bai ef neu'r deunydd yn bla planhigion y byddai ei fewnforio, ei symud neu ei gadw yn waharddedig, pe na bai am drwydded a roddwyd o dan y prif Orchymyn.

    (2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar gymhwyso erthygl 30A(2)(d) o'r prif Orchymyn o ran trwydded a roddwyd yn rhinwedd yr erthygl hon.

Camau y caiff arolygydd eu gwneud yn ofynnol
    
12. —(1) Os bydd gan arolygydd sail resymol dros amau bod Phytophthora ramorum yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, at ddibenion gorfodi erthygl 3(b), drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i feddiannydd y fangre neu i berson arall â gofal am y fangre neu am y deunydd sy'n dueddol o gael y pla–

    (2) Os oes gan arolygydd sail resymol dros gredu ei bod yn angenrheidiol at ddiben rhwystro lledaenu Phytophthora ramorum o unrhyw fangre neu sicrhau ei fod yn cael ei ddifa yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre arall neu i berson arall â gofal amdani osod y cyfryw waharddiadau a'i gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gamau rhesymol, a bennir yn yr hysbysiad, ac sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol at y diben hwnnw, yn cael eu cymryd a hynny yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad.

    (3) At ddiben cyflawni archwiliad o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla wrth iddo ddod i Gymru caiff arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i draddodai unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gafodd ei fewnforio neu sydd i'w fewnforio i Gymru, bennu mangre a'i gwneud yn ofynnol i'r deunydd hwnnw gael ei symud i'r fangre honno yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw gyfnod ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad.

Camau y caiff arolygydd eu cymryd
    
13. —(1) Heb ragfarn yn erbyn y darpariaethau yn erthygl 12, ac yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd gan arolygydd sail resymol dros amau bod Phytophthora ramorum yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o'i fwriad i feddiannydd y fangre neu i berson arall â gofal amdani, ac o ddangos os gofynnir iddo wneud hynny, arwydd o'i awdurdod, fynd i'r cyfryw fangre a chymryd camau naill ai yn y fangre honno neu yn rhywle arall–

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff arolygydd, o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, arwydd o'i awdurdod, ar bob adeg resymol ac at ddiben canfod a oes Phytophthora ramorum yn bodoli yn unrhyw fangre, neu at unrhyw un o ddibenion eraill y Gorchymyn hwn, gan gynnwys gwirio a gydymffurfir ag ef, fynd i unrhyw fangre–

    (3) Ni chaniateir arfer y pŵ er i fynd i fangre, sef pŵer a roddir gan baragraffau (1) a (2), o ran mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, ond yn unol â gwarant a roddir o dan erthygl 28 o'r prif Orchymyn.

    (4) Caiff arolygydd, at ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), agor, awdurdodi unrhyw berson i agor ar ei ran neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog y cyfryw gynhwysydd, bwndel neu becyn arall neu i unrhyw berson â gofal drosto i agor, yn y cyfryw fodd ag y byddo'r arolygydd yn ei bennu, y cynhwysydd neu'r pecyn arall.

    (5) Caiff arolygydd, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol at ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), wahardd symud, yn gyfan gwbl neu i'r cyfryw raddau ag y byddo'r arolygydd yn datgan, unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla, unrhyw gynhwysydd, bwndel, pecyn arall neu wrthrych a all fod yn fodd i ledaenu Phytophthora ramorum yn ei farn ef.

    (6) At ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd y fangre y cynhelir yr archwiliad ynddi neu i berson arall â gofal drosti ddarparu golau digonol a, phan fo'n briodol, fannau addas ar gyfer arolygiad.

    (7) Pan gedwir unrhyw ddogfen neu gofnod o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(c) drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff arolygydd–

    (8) Caiff arolygydd, pan fydd yn mynd i unrhyw fangre o dan baragraff (1) neu baragraff (2) o'r erthygl hon, fynd â'r cyfryw bersonau eraill gydag ef, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, a'r cyfryw gyfarpar a'r cyfryw gerbydau ag sy'n angenrheidiol at ddiben hwyluso arfer ei bwerau o dan y paragraffau hynny, ynghyd â'r cyfryw bersonau eraill, p'un ai yng nghwmni'r arolygydd neu beidio, a chânt, o ddangos os gofynnir iddynt wneud hynny arwydd o'u hawdurdod a roddwyd iddynt yn y cyswllt hwnnw gan arolygydd, aros ar y tir a mynd yn ôl i mewn o bryd i'w gilydd gyda'r cyfryw gyfarpar a'r cyfryw gerbydau a grybwyllir uchod, er mwyn cyflawni'r cyfryw waith at y dibenion uchod ac yn y cyfryw fodd ag y byddo'r arolygydd yn cyfarwyddo.

Amrywiol ddarpariaethau o ran hysbysiadau a methu cydymffurfio â hysbysiadau
    
14. Mae darpariaethau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys i hysbysiad a ddyroddir o dan erthygl 12 neu erthygl 13, fel sy'n briodol, o'r Gorchymyn hwn–

Tramgwyddau
    
15. —(1) Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, heb esgus rhesymol y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei brofi–

    (2) Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, at ddibenion caffael yr awdurdod i ddyroddi pasbort planhigion o dan y Gorchymyn hwn–

    (3) Mae person yn euog o dramgwydd os yw, a hynny'n anonest, yn dyroddi pasbort planhigion ffug o dan y Gorchymyn hwn.

    (4) Bydd person yn euog o dramgwydd os yw, a hynny'n anonest, yn newid pasbort planhigion sydd ynghlwm wrth ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla neu'n ailddefnyddio pasbort planhigion ar gyfer deunydd pan nad y deunydd sy'n dueddol o gael y pla y dyroddwyd y pasbort planhigion ar ei gyfer ydyw.

    (5) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr erthygl hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu
    
16. Dirymir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Rhif 2) 2002[6].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mai 2006



ATODLEN 1
Erthyglau 4(a) a 10(1)

Deunydd sy'n dueddol o gael y pla Gofynion i'w bodloni o ran dyroddi unrhyw dystysgrif ffytoiechydol sy'n mynd gyda deunydd sy'n dueddol o gael y pla ("y dystysgrif")
Acer macrophyllum

Pursh.

Aesculus californica

Nutt.

Aesculus.

hippocastanum L

Arbutus menziesii

Pursch.

Arbutus unedo L.

Arctostaphylos spp.

Adans

Camellia spp.

Castanea sativa Mill.

Fagus sylvatica L.

Hamamelis

virginiana L.

Heteromeles

arbutifolia (Lindley)

M. Roemer

Kalmia latifolia L.

Leucothoe

fontanesiana (Steudel)

Sleumer neu

Lithocarpus

densiflorus (H &A)

Lonicera hispidula

(Dougl.)

Pieris spp.

Pseudotsuga menziesii

(Mirbel) Franco

Quercus spp. L.

Rhamnus californica (Esch)

Rhododendron spp. L.,

ac eithrio

Rhododendron simsii

Planch.

Sequoia sempervirens

(D. Don) Endl.

Syringa vulgaris L.

Taxus spp.

Trientalis latifolia (Hook)

Umbellularia

californica (Pursch.)

Vaccinium vitis-idaea

Britt.

Vaccinium ovatum

(Hook &Arn) Nutt.

Viburnum spp. L.

Naill ai–

    (a) Rhaid i'r dystysgrif gynnwys datganiad ychwanegol bod y deunydd yn tarddu mewn ardal y mae gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol y wlad y mae'r deunydd yn tarddu ohoni ("y gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol") yn ei chydnabod yn ardal sy'n rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum , ac yn yr achos hwn rhaid i enw'r ardal y mae'r deunydd yn tarddu ohoni gael ei bennu o dan "tarddle";

neu

    (b) rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol wirio'n swyddogol–

      (i) o wneud arolygiadau swyddogol yn ystod cylchred gyflawn olaf llystyfiant y deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n destun y dystysgrif, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum , na chanfyddwyd arwyddion o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla nac ar unrhyw goeden sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu; a

      (ii) bod samplau cynrychioliadol wedi'u cymryd o'r planhigion cyn eu hanfon, a'u bod wedi'u profi a'u cael yn rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum yn y profion hyn, ac yn yr achos hwn rhaid i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol arnodi ar y dystysgrif o dan y pennawd "additional declaration"y datganiad "tested and found free from non- European isolates of Phytophthora ramorum".




ATODLEN 2
Erthyglau 6 a 10(2) a (3)

Deunydd sy'n dueddol o gael y pla Gofynion i'w bodloni o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gynhyrchir yng Nghymru neu a symudir i Gymru o fan arall yn y Deyrnas Unedig, neu o Aelod-wladwriaeth arall, neu o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu o'r Swistir
Camellia spp.

Rhododendron

spp. L., ac eithrio

Rhododendron simsii

Planch.

Viburnum spp. L.

Naill ai–

    (a) bod y deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn tarddu mewn ardaloedd lle y gwyddys nad yw Phytophthora ramorum yn bresennol;

    (b) o gynnal arolygiad swyddogol yn y man cynhyrchu, a hynny unwaith o leiaf ar adeg briodol pan fo'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn y broses o dyfu, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o Phytophthora ramorum , na chanfyddwyd arwyddion o Phytophthora ramorum ar y deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn ystod cylchred gyflawn olaf y llystyfiant; neu

    (c) os canfyddwyd arwyddion o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu, bod gweithdrefnau priodol y mae iddynt y nod o ddifa Phytophthora ramorum ac sy'n cynnwys y mesurau canlynol o leiaf wedi'u rhoi ar waith–

      (i) bod deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y canfyddir ei fod wedi'i heintio â Phytophthora ramorum ("deunydd heintiedig") ac unrhyw ddeunydd arall sy'n dueddol o gael y pla o fewn radiws o ddau fetr i'r deunydd heintiedig yn cael eu difa;

      (ii) bod cadw deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fewn radiws o ddeng metr i'r deunydd heintiedig a phob deunydd arall sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n dod o'r un lot â'r deunydd heintiedig wedi'u cadw yn y man cynhyrchu ac, yn ystod y tri mis yn dilyn canfod haint y cyfeirir ato yn is- baragraff (i), nad ydynt wedi bod yn ddarostyngedig i unrhyw driniaethau a fyddo'n celu'r symptomau o Phytophthora ramorum a'u bod wedi'u cael yn rhydd o Phytophthora ramorum ar ôl arolygiadau ychwanegol a gyflawnir ddwywaith o leiaf; a

      (iii) bod pob deunydd arall sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu wedi'i arolygu'n fynych yn sgil canfod haint y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) a'i gael o'i arolygu felly yn rhydd o Phytophthora ramorum .




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 24 Mai 2006, yn gweithredu yng Nghymru–

    • Penderfyniadau'r Comisiwn 2002/757/EC dyddiedig 19 Medi 2002 (OJ Rhif L 252, 20.9.2002, t.37) a 2004/426/EC dyddiedig 29 Ebrill 2004 (OJ Rhif L 189, 27.5.2004, t.1) ar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i rwystro dod â Phytophthora ramorum i'r Gymuned ac i rwystro'i ledaenu o fewn y Gymuned i'r graddau y maent yn berthnasol i blanhigion ac eithrio coed fforestydd; a

    • Penderfyniad y Comisiwn 2004/278/EC (OJ Rhif L 87, 25.3.2004, t.31) ar safbwynt y Gymuned ar ddiwygio'r Ychwanegiadau i Atodiad 4 i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar fasnach a chynhyrchion amaethyddol i'r graddau y mae'n ymwneud â Camellia, Rhododendron a Viburnum.

Mae'r Gorchymyn yn gwahardd dod â'r pla planhigion Phytophthora ramorum i mewn ac yn gwahardd ei ledaenu (erthygl 3).

Mae'n rheoli mewnforio deunydd nifer o rywogaethau a genera planhigion sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n dod o UDA, drwy ei gwneud yn ofynnol i dystysgrifau ffytoiechydol fynd gyda'r cyfryw ddeunydd a'r rheini'n dystysgrifau na chaniateir eu dyroddi ond ar ôl i wiriadau penodol gael eu cyflawni wrth gynhyrchu a chyn traddodi; neu, fel arall, os yw'r deunydd yn tarddu mewn rhan o UDA y mae'r awdurdodau iechyd planhigion yn cydnabod ei bod yn rhydd o Phytophthora ramorum , yn dystysgrifau sy'n cadarnhau hynny (erthygl 4 ac Atodlen 1).

Rhaid i ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a fewnforir o drydydd gwledydd, gan gynnwys UDA, gael pasbort planhigion pan y'i symudir o fewn Cymru neu o fewn lle arall yn y Gymuned Ewropeaidd ("y GE") neu'r Swistir (erthygl 5).

Pan gânt eu symud, rhaid i basbort planhigion fynd gyda phlanhigion Camellia, Rhododendron a Viburnum a gynhyrchir yng Nghymru neu sy'n tarddu yn unrhyw le arall yn y GE neu'r Swistir, ac mae'r planhigion yn ddarostyngedig i reolaethau pellach ar eu symud (erthygl 6 ac Atodlen 2).

Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr Camellia, Rhododendron a Viburnum yng Nghymru sy'n dymuno symud y cyfryw ddeunydd gael eu cofrestru os nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru o dan y prif Orchymyn Iechyd Planhigion (Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993, fel y'i diwygiwyd) ("y prif Orchymyn") (erthygl 7). Mae rhai eithriadau i'r cyfyngiadau ar symud yn achos personau nad ydynt wrth eu gwaith yn masnachu neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad (erthygl 7(4)).

Mae darpariaethau tebyg i'r rhai sydd yn y prif Orchymyn yn gymwys i awdurdodiadau i fasnachwyr cofrestredig i'w galluogi i ddyroddi pasbortau planhigion o dan arolygaeth y Cynulliad Cenedlaethol, sef y gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol yng Nghymru (erthygl 8) ac yn gymwys i ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol yng Nghymru ac i drin tystysgrifau ffytoiechydol neu basportau planhigion a ddyroddir y tu allan i Gymru (erthyglau 9 a 10).

Mae darpariaeth ar gyfer mewnforio, symud a chadw'r pla gwaharddedig o dan dystysgrif at ddibenion ymchwil (erthygl 11).

Mae darpariaethau tebyg i'r rhai a geir yn y prif Orchymyn yn gymwys i gamau a allai fod yn ofynnol neu y caiff Arolygwyr Iechyd Planhigion eu cymryd (erthyglau 12 i 14).

Caiff tramgwyddau tebyg i'r rhai a gaiff eu creu yn y prif Orchymyn eu creu o ran cynhyrchu pasbortau planhigion yn unol â'r Gorchymyn hwn ac o ran dod â Phytophthora ramorum i mewn, ei ledaenu a'i symud, ac o ran cydymffurfio â hysbysiadau a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn a rhwystro arolygwyr sy'n arfer eu pwerau o dan y Gorchymyn hwn (erthygl 15).

Dirymir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (OS 2002/2762) (erthygl 16).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi o ran y Gorchymyn hwn. Gellir cael cop•au gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) a'i diwygio ymhellach gan adran 17(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53).back

[2] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn o eiddo'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/1283, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn gymwys i'r Gorchymyn hwn.back

[4] O.S. 1993/1320; a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2126 a 2726, 2001/2343, 2002/1067, 2003/1157 a 2004/2365.(1)back

[5] Mae adran 49 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2) yn darparu ar gyfer fforffedu nwyddau a gafodd eu mewnforio, eu glanio neu eu dadlwytho yn amhriodol. Mae adran 50 yn gwneud mewnforio, glanio neu ddadlwytho nwyddau gyda'r bwriad o osgoi'r gwaharddiad a geir yn yr erthygl hon yn dramgwydd.back

[6] O.S. 2002/2762.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091339 6


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 May 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061344w.html