BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006 Rhif 1513 (Cy.149)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061513w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1513 (Cy.149)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 13 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 14 Mehefin 2006 

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1].

     Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006, meant yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anfieiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006[3].

Dehongli
     2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn–

    (2) Mae gan ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac sydd yn ymddangos yn Rheoliad TSE y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned.

Iawndal am ddefaid neu eifr sy'n cael eu cigydda fel anifail yr amheuir
     3. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal yn unol â'r paragraff hwn pan fo dafad neu afr wedi ei ladd fel anifail y credir iddo gael ei heintio.

    (2) Lle bo cadarnhad fod dafad neu afr wedi cael ei effeithio gan TSE, mae'r iawndal yn–

    (3) Lle nad oes cadarnhad ei fod wedi cael ei effeithio gan TSE, yr iawndal yw'r uchaf o'r–

Iawndal am anifeiliaid sy'n cael eu lladd neu y bo eu cynhyrchion yn cael eu dinistrio ar ôl cadarnhau TSE
    
4. Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal i berchennog anifeiliaid sydd wedi cael eu lladd a'u cynhyrchion wedi eu dinistrio o dan Atodlen 4 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 yn dilyn cadarnhau TSE yn unol â darpariaethau yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Prisio
    
5. —(1) Os yw perchennog anifail o'r farn fod yr iawndal a delir yn yr Atodlen yn afresymol, gall ef neu hi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o hyn, a bydd y weithdrefn yn Rheoliad 15 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf (Cymru) 2006 yn berthnasol, gyda'r perchennog yn talu unrhyw ffi sydd yn codi o enwebu a chyflogi prisiwr.

    (2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, wedi cymeryd i ystyriaeth yr holl amgylchiadau fod yr iawndal yn yr Atodlen yn ormodol gall brisio'r anifail yn unol â'r weithdrefn yn Rheoliad 15, ond yn yr achos yma bydd yn rhaid iddo dalu unrhyw ffi sydd yn codi am enwebu neu gyflogi prisiwr.

    (3) Rhaid i'r prisiwr brisio'r anifail yn unol â'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am yr anifail o brynwr mewn marchnad agored pe byddai'r anifail o braidd nad oed wedi ei effeithio gan TSE.

Diddymu
    
6. Mae darpariaethau rheoliadau 8, 9, 84, 93, Rhan o Atodlen 1, paragraff 17 o Ran IV o Atodlen 6A a paragraffau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â thalu iawndal yn dilyn cigydda defaid a geifr, Reoliadau TSE (Cymru) 2002[5]yn cael ei dirymu pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) of Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mehefin 2006



YR ATODLEN
Rheoliad 4

Iawndal


Anfail neu gynnyrch Iawndal (£) Iawndal (£)
Dafad neu afr wryw 90 90
Dafad(a) neu afr fenyw 90 65
Oen (o dan 12 mis oed)(b) neu fyn (o dan 12 mis oed) 50 40
Embryonau 150 150
Ofa 5 5

(a) Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi rhanddirymiad o dan bwynt 9 o Atodiad VII I Reoliad TSE y Gymuned £30 yw'r iawndal am ddafad fenyw os caiff ei lladd ar ôl y flwyddyn gyntaf o'r cyfnod rhanddirymiad.

(b) Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi rhanddirymiad yn unol â'r pwynt hwnnw mewn perthynas ag unrhyw hwrdd mewn praidd, £25 yw'r iawndal am unrhyw oen yn y ddiadell honno sydd wedi cael ei ladd ar ôl y flwyddyn gyntaf o'r cyfnod rhanddirymiad.

Nodyn ynglŷn â'r cyfraddau


Ar neu ar ôl 14 Mehefin 2006




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu swm yr iawndal sydd yn daladwy pan fo dafad neu afr yn cael ei gigydda yn dilyn ei heintio gyda TSE.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod swm yr iawndal sydd yn daladwy ar gigydda dafad neu afr yn ddibynol ar unai yw'r ddafad neu afr yn Anifail y credir iddo gael ei heintio neu y lleddir yr anifail wedi iddo gael ei gadarnhau fel anifail sydd wedi ei heintio â TSE.

Os yw perchennog anifail a leddir yn dilyn cadarnhad ei fod wedi ei heintio â TSE o'r farn fod yr iawndal sydd i'w dalu yn afresymol, yna gall y perchennog hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a chael prisiad. Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod yr iawndal sydd i'w dalu i berchennog anifail a leddir wedi derbyn cadarnhad ei fod wedi ei heintio â TSE, gall gael prisiad.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu darpariaethau Rheoliadau TSE (Cymru) na chafodd eu dirymu gan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.

Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1972 p.68back

[2] O.S. 2003/1246back

[3] O.S. 2006/1226.back

[4] OJ Rhif L147, 31.5.2001, tud 1.back

[5] O.S. 2002/1416.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091357 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 June 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061513w.html