BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 Rhif 1532 (Cy.150)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061532w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1532 (Cy.150)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 13 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1 —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 2 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn:

Ffioedd Arolygu
    
3. —(1) Rhaid i ymgymerydd dalu i'r awdurdod strydoedd ffi o £21 am bob tro y caiff gwaith ei arolygu am dâl gan yr awdurdod strydoedd.

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn, yn ddarostyngedig i baragraff (6) isod, arolygu gwaith am dâl yw arolygu ar hap ddim llai na 10 y cant a dim mwy na 10.5 y cant o bob un o gyfnodau'r gwaith, a dim mwy na 30 y cant o gyfanswm nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn unrhyw flwyddyn.

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn, dyma beth yw uned arolygu:

    (4) At ddibenion y rheoliad hwn, dyma'r cyfnodau gwaith:–

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (6) isod, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn blwyddyn yw cyfartaledd nifer yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd fesul blwyddyn wedi'i gyfrifo dros y tair blynedd sy'n dod yn syth o flaen y flwyddyn honno.

    (6) Pan na fydd ymgymerydd eisoes wedi gwneud unrhyw waith stryd ar strydoedd y mae'r awdurdod sy'n cyflawni'r arolygiadau'n awdurdod strydoedd drostynt, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy ym mhob un o'r tair blynedd gyntaf yw nifer amcangyfrifedig yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd yn y flwyddyn honno.

    (7) At ddibenion gwneud yr amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (6), rhaid i'r ymgymerydd, cyn cyflawni unrhyw waith mewn strydoedd y mae'r awdurdod sy'n cyflawni'r arolygiadau'n awdurdod strydoedd drostynt, ddarparu ar gyfer yr awdurdod strydoedd amcangyfrif o nifer yr unedau arolygu y mae'n arfaethu eu cynhyrchu y flwyddyn honno.

    (8) Pan fydd ymgymerydd yn methu darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd o fewn y cyfnod o amser y cyfeirir ato ym mharagraff (7) uchod, rhaid i'r awdurdod strydoedd gyflawni cymaint o arolygiadau ag y bydd yr awdurdod strydoedd o'r farn eu bod yn briodol a chodi ar yr ymgymerydd hwnnw ffi o £21 amdanynt, hyd oni fydd yr ymgymerydd yn darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd, ac ar yr adeg honno bydd darpariaethau paragraff (9) isod yn gymwys.

    (9) Unwaith y bydd yr ymgymerydd y cyfeirir ato ym mharagraff (8) uchod wedi darparu amcangyfrif ar gyfer yr awdurdod strydoedd, bydd y darpariaethau ym mharagraff (6) uchod yn gymwys, a bernir y bydd y tair blynedd gyntaf, y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yn cychwyn ar y dyddiad y daw'r amcangyfrif i law'r awdurdod strydoedd.

Dirymiadau
    
4. —(1) Dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992[3]i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

    (2) Dirymir y Rheoliadau canlynol:



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mehefin 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 ("Rheoliadau 1992") fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001"), Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ("Rheoliadau 2002") a Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004") yn rhagnodi cynllun ar gyfer talu gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau strydoedd. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 1992, Rheoliadau 2001, Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2004 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru ac yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny i roi effaith i'r newidiadau a ganlyn:


Notes:

[1] 1991 p.22. Nid yw'r diwygiad a wneir i adran 75 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 gan adran 58(2) o Deddf Rheoli Traffig 2004 wedi'i ddwyn i rym eto.back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/1688. Cafodd y Rheoliadau hyn eu dirymu o ran Lloegr gan O.S. 2002/2092.back

[4] O.S. 2001/2681 (Cy.222).back

[5] O.S. 2002/3181 (Cy.297).back

[6] O.S. 2004/1809 (Cy.196).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091354 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 21 June 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061532w.html