BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006 Rhif 1641 (Cy.156)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061641w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1641 (Cy.156)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 20 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 23 Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 250(2)(a) o Ddeddf Tai 2004 ac Atodlen 13 i'r Ddeddf honno[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mehefin 2006.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Cymhwyso
     3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer achosion mewn tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ar geisiadau'n ymwneud â mangreoedd yng Nghymru a wneir—

Yr amcan cyffredinol
    
4. —(1) Pan fo tribiwnlys—

rhaid iddo geisio gweithredu'r amcan cyffredinol o ymdrin yn deg ac yn gyfiawn gyda cheisiadau y mae i benderfynu arnynt.

    (2) Mae ymdrin yn deg ac yn gyfiawn gyda chais yn cynnwys—

Gofyn am estyn yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais
    
5. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn gofyn i dribiwnlys am ganiatâd i wneud cais ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn y Ddeddf fel y cyfnod o fewn yr hwn mae'n rhaid gwneud y cais.

    (2) Pan wneir cais am ganiatâd o'r fath o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo—

    (3) Pan wneir cais am ganiatâd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r ceisydd ar yr un pryd anfon i'r tribiwnlys y cais cyflawn y mae'n gofyn am y caniatâd hwnnw ar ei gyfer.

Manylion cais
    
6. —(1) Rhaid i gais fod mewn ysgrifen a rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol—

    (2) Gellir hepgor unrhyw rai o'r manylion sy'n ofynnol o dan baragraff (1) neu liniaru'r gofynion ar eu cyfer, os yw'r tribiwnlys wedi'i fodloni—

    (3) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel[6] weithredu'r pŵer a roddir o dan baragraff (2).

Cydnabod derbyn cais a hysbysu ynghylch cais gan dribiwnlys
     7. —(1) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl derbyn y cais, rhaid i'r tribiwnlys—

    (2) Heblaw mewn achos y mae rheoliad 9 yn gymwys iddo, rhaid i'r tribiwnlys hefyd anfon at yr ymatebydd hysbysiad sy'n pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i'r ymatebydd anfon yr ateb a grybwyllir yn rheoliad 8.

    (3) Ni chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y'i gwnaed.

Ateb gan yr ymatebydd
    
8. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ymatebydd yn derbyn yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 7(2).

    (2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r ymatebydd anfon i'r tribiwnlys erbyn y dyddiad a ddynodir yn yr hysbysiad hwnnw ateb ysgrifenedig yn cydnabod iddo dderbyn y copïau o ddogfennau a anfonwyd yn unol å rheoliad 7(1)(b) ac yn datgan—

Ceisiadau brys am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro
    
9. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r awdurdod tai lleol yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro fel mater brys.

    (2) Pan ymddengys i'r tribiwnlys, ar sail y wybodaeth a gyflwynir gyda'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, caiff orchymyn cynnal gwrandawiad llafar ("gwrandawiad llafar brys") heb gydymffurfio â'r gofynion hysbysu yn rheoliad 25.

    (3) Yr amgylchiadau eithriadol yw—

    (4) Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon a phob person sydd â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad wedi'u hysbysu iddo—

    (5) Ni chaiff dyddiad y gwrandawiad fod yn llai na 4 diwrnod ar ôl y dyddiad pryd yr anfonir yr hysbysiad ynghylch y gwrandawiad llafar brys.

    (6) Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—

    (7) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel—

    (8) Pan fydd tribiwnlys yn gorchymyn gwrandawiad llafar brys, nid yw'r darpariaethau ynghylch hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—

Cais gan berson i'w drin fel ceisydd neu ymatebydd
    
10. —(1) Gall person ("y parti posibl") wneud cais i'r tribiwnlys am gael ymuno fel parti i'r achos.

    (2) Yn achos unrhyw gais o dan baragraff (1)—

    (3) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl iddo benderfynu pa un ai a fydd yn caniatáu ynteu'n gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys—

    (4) Rhaid trin unrhyw barti posibl y caniateir ei gais o dan baragraff (1) fel ceisydd neu ymatebydd at ddibenion rheoliadau 4, 9, 11, 13 i 37 a 39 i 41.

    (5) Yn y rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (4), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at geisydd neu ymatebydd fel ei fod yn cynnwys person a gaiff ei drin fel ceisydd neu ymatebydd o dan y rheoliad hwn, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel ei fod yn cynnwys unrhyw berson o'r fath.

    (6) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel ganiatáu neu wrthod cais o dan baragraff (1).

Penderfynu ar geisiadau ar y cyd
    
11. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisiadau wedi'u gwneud ar wahân sydd, ym marn y tribiwnlys—

    (2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, gall y tribiwnlys orchymyn y dylid penderfynu ar y cyd ynglŷn â—

Talu ffioedd
    
12. Pan na fydd ffi'n sy'n daladwy o dan y Rheoliadau Ffioedd wedi'i thalu o fewn cyfnod o 14 diwrnod o'r dyddiad pryd y derbynnir y cais, dylid trin y cais fel wedi'i dynnu'n ôl oni bai fod y tribiwnlys wedi'i fodloni fod yna sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Cynrychiolwyr
    
13. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo parti neu berson sydd â buddiant yn gwneud cais ysgrifenedig i'r tribiwnlys am ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau i gynrychiolydd y parti neu'r person sydd â buddiant hwnnw.

    (2) Rhaid i gais o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (1) gynnwys enw a chyfeiriad y cynrychiolydd.

    (3) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, fe fodlonir unrhyw ddyletswydd sydd ar y tribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfen drwy iddo ei hanfon at y cynrychiolydd neu ei rhoi iddynt.

Darparu gwybodaeth a dogfennau i bersonau sydd â buddiant
    
14. —(1) Pan hysbysir y tribiwnlys o enw a chyfeiriad person sydd â buddiant, rhaid iddo sicrhau cyn gynted ag sy'n ymarferol y darperir i'r person sydd â buddiant—

    (2) Caiff y tribiwnlys sicrhau fod gwybodaeth neu ddogfennau'n cael eu darparu o dan baragraff (1) drwy—

    (3) Pan ddarperir gwybodaeth a dogfennau i berson sydd â buddiant yn unol â pharagraff (1) ond—

ni fydd unrhyw ddyletswydd bellach ar y tribiwnlys i sicrhau darparu gwybodaeth neu ddogfennau i'r person hwnnw.

Darparu dogfennau gan dribiwnlys
    
15. —(1) Cyn penderfynu ynghylch cais, rhaid i'r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darparu i bob un o'r partïon—

    (2) Mewn gwrandawiad, os nad yw parti eisoes wedi derbyn dogfen berthnasol, neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddetholiadau digonol neu fanylion o ddogfen berthnasol, yna oni bai bod—

rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod y mae'n ystyried fydd yn rhoi cyfle digonol i'r person hwnnw ymdrin â'r materion hynny.

Darparu gwybodaeth a dogfennau gan bartïon
    
16. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn mynnu fod parti'n darparu i'r tribiwnlys unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae o fewn pwerau'r parti hwnnw i'w darparu.

    (2) Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn mynnu fod parti'n darparu i barti arall neu i berson sydd â buddiant gopïau o unrhyw ddogfennau a gafodd eu darparu neu sydd i'w darparu i'r tribiwnlys o dan baragraff (1).

    (3) Rhaid i barti sy'n ddarostyngedig i orchymyn a wnaed o dan baragraff (1) neu (2) ddarparu'r fath wybodaeth, dogfennau neu gopïau erbyn pa bynnag amser a all fod wedi'i bennu yn y gorchymyn neu a benderfynir yn unol â'r gorchymyn.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn mynnu fod unrhyw berson yn mynychu gwrandawiad llafar i roi tystiolaeth ac i gyflwyno unrhyw ddogfennau a bennir yn y gorchymyn, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn, y mae o fewn pwerau'r person hwnnw i'w cyflwyno.

    (5) Nid yw paragraffau (1) a (4) yn gymwys i unrhyw ddogfen na ellid gorfodi person i'w chyflwyno mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru neu Loegr.

    (6) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (1), (2) neu (4) sydd—

Methiant i gydymffurfio â gorchymyn i ddarparu gwybodaeth a dogfennau
    
17. Pan fo parti wedi methu â chydymffurfio â gorchymyn a wnaed o dan reoliad 16(1), (2) neu (4) caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn gwrthod neu'n caniatáu'r cyfan neu ran o'r cais.

Penderfynu heb wrandawiad
    
18. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6) caiff y tribiwnlys benderfynu ynghylch cais heb wrandawiad llafar os bydd wedi hysbysu'r partïon mewn ysgrifen ddim llai na 14 diwrnod ymlaen llaw o'i fwriad i wneud hynny.

    (2) Ar unrhyw adeg cyn penderfynu ynghylch cais—

    (3) Pan wneir cais neu pan roir hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad o wrandawiad yn unol â rheoliad 25.

    (4) Gellir gwneud dyfarniad heb wrandawiad llafar yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan yr ymatebydd.

    (5) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel benderfynu pa un ai a yw gwrandawiad llafar yn briodol neu beidio ar mwyn penderfynu ynghylch cais[
7].

    (6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 9 (ceisiadau brys am orchymyn rheoli dros dro) yn gymwys iddo.

Gorchmynion dros dro
     19. —(1) Caiff tribiwnlys wneud gorchymyn a fydd yn weithredol dros dro ("gorchymyn dros dro")—

    (2) Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn dros dro heb yn gyntaf ganiatáu cyfle i'r partïon wneud sylwadau ynghylch gwneud y gorchymyn, caiff parti ofyn am amrywio'r gorchymyn dros dro neu ei ddiddymu.

    (3) Gellir gwneud unrhyw gais o'r fath—

    (4) Rhaid cofnodi gorchymyn dros dro cyn gynted ag y bo modd mewn dogfen y mae'n rhaid iddi, heblaw yn achos gorchymyn a wnaed gyda chytundeb yr holl bartïon, roi'r rhesymau dros y penderfyniad i wneud y gorchymyn.

    (5) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro.

Cyfarwyddiadau
    
20. —(1) Caiff parti ofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddiadau drwy wneud gorchymyn o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o'r Ddeddf.

    (2) Caiff parti y cyfeirir cyfarwyddyd ato ofyn i'r tribiwnlys ei amrywio neu ei ddiddymu.

    (3) Gellir gwneud cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2)—

    (4) Rhaid i'r parti sy'n gwneud y cais bennu'r cyfarwyddiadau a geisir a'r rhesymau dros eu ceisio.

    (5) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel roi cyfarwyddyd gweithdrefnol ynghylch unrhyw fater sydd—

    (6) Ym mharagraff (5), ystyr "cyfarwyddyd gweithdrefnol" ("procedural direction") yw unrhyw gyfarwyddyd heblaw un o'r rhai a ddynodir ym mharagraffau (a) i (e) o adran 230(5) o'r Ddeddf.

Archwilio mangreoedd a'u cyffiniau
    
21. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys archwilio—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

    (3) Mae gwneud archwiliad a mynychu archwiliad yn amodol ar sicrhau unrhyw ganiatâd sydd ei angen.

    (4) Pan fo yna wrandawiad llafar, gellir cynnal archwiliad cyn y gwrandawiad, yn ystod y gwrandawiad neu ar ôl y gwrandawiad.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd i'r partïon o ddim llai na 14 diwrnod o ddyddiad, amser a lleoliad yr archwiliad i'r partïon.

    (6) Gellir hepgor unrhyw un o'r gofynion ar gyfer rhybudd ym mharagraff (5) neu ei lacio os yw'r tribiwnlys wedi'i fodloni fod y partïon wedi derbyn rhybudd digonol.

    (7) Pan wneir archwiliad ar ôl i wrandawiad llafar derfynu, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad o achos unrhyw fater sy'n codi o'r archwiliad, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad a ail-agorir i'r partïon.

Tystiolaeth arbenigol
    
22. —(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr "arbenigwr" ("expert") yw arbenigwr annibynnol nad yw'n cael ei gyflogi gan un o'r partïon.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys, ac wrth wneud hynny rhaid iddo—

    (3) Rhaid i grynodeb ysgrifenedig yr arbenigwr o dystiolaeth yr arbenigwr—

    (4) Pan fo tribiwnlys yn rhoi cyfarwyddyd, o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o'r Ddeddf, na all parti roi tystiolaeth arbenigol ger ei fron heb ei ganiatâd, caiff bennu fel amod i'r caniatâd hwnnw—

Cynhadledd rheoli achos
    
23. —(1) Caiff y tribiwnlys gynnal cynhadledd rheoli achos.

    (2) Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd o ddim llai na 7 diwrnod o ddyddiad, amser a lleoliad y gynhadledd rheoli achos i'r partïon.

    (3) Yn y gynhadledd rheoli achos caiff y tribiwnlys orchymyn y partïon i gymryd pa gamau bynnag a gwneud pa bethau bynnag ag sy'n ymddangos i'r tribiwnlys eu bod yn ofynnol neu'n ddymunol ar gyfer sicrhau penderfynu ynghylch y cais mewn ffordd gyfiawn, brydlon ac economaidd.

    (4) Caiff y tribiwnlys ohirio neu oedi cynhadledd rheoli achos.

    (5) Caiff parti gael ei gynrychioli mewn cynhadledd rheoli achos.

    (6) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel gyflawni swyddogaethau'r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.

Pwerau rheoli achos eraill
    
24. —(1) Caiff y tribiwnlys—

    (2) Caiff y tribiwnlys weithredu ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn mewn ymateb i gais i wneud hynny neu o'i benderfyniad ei hun.

    (3) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel weithredu'r pwerau a roir o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n rhagarweiniol i—

Hysbysu ynghylch gwrandawiad
    
25. —(1) Y tribiwnlys sydd i benodi dyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiad.

    (2) Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon o'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a benodwyd ar gyfer y gwrandawiad.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid rhoi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad ddim llai na 21 diwrnod cyn y dyddiad a benodwyd.

    (4) Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff y tribiwnlys, heb gytundeb y partïon, roi llai na 21 diwrnod o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad; ond rhaid rhoi unrhyw rybudd o'r fath cyn gynted ag sy'n ymarferol cyn y dyddiad a benodwyd a rhaid i'r hysbysiad bennu beth yw'r amgylchiadau eithriadol.

Gohirio gwrandawiad
    
26. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad llafar.

    (2) Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd rhesymol o'r amser a'r dyddiad hyd y rhai y gohirir gwrandawiad.

    (3) Pan fo parti'n gofyn am ohiriad, ni chaiff y tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny o ystyried—

Y gwrandawiad
    
27. —(1) Mewn gwrandawiad—

    (2) Mewn gwrandawiad, caiff tribiwnlys os yw wedi'i fodloni ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol gwneud hynny, ganiatáu i barti ddibynnu ar resymau nas datganwyd o'r blaen ac ar dystiolaeth nad oedd ar gael o'r blaen neu nas dygwyd gerbron o'r blaen.

    (3) Caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad i adeg arall, ond os gwneir hynny ar gais un o'r partïon, rhaid i'r tribiwnlys ystyried a yw'n rhesymol gwneud hynny yng ngoleuni—

Gwrandawiad cyhoeddus neu'n breifat
    
28. —(1) Rhaid i wrandawiad fod yn gyhoeddus heblaw pan fo'r tribiwnlys wedi'i fodloni yn amgylchiadau'r achos ac yn ddarostyngedig i'r amcan cyffredinol y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat.

    (2) Caiff y tribiwnlys benderfynu o dan baragraff (1)—

Personau sydd â'r hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat
    
29. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae gan y personau canlynol yr hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ac i fod yn bresennol yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys ar gyfer penderfynu ar y cais—

    (2) Ni chaiff yr un o'r personau a bennir ym mharagraff (1) gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad neu drafodaethau o'r fath.

    (3) Caiff tribiwnlys ganiatáu i bersonau fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ar ba bynnag delerau ac amodau ag y tyb sy'n briodol.

Methiant parti i ymddangos mewn gwrandawiad
    
30. Pan fo parti yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys barhau gyda'r gwrandawiad os—

Penderfyniadau'r Tribiwnlys wrth ddyfarnu ynghylch ceisiadau
    
31. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r penderfyniad sy'n dyfarnu ynghylch cais.

    (2) Os cynhaliwyd gwrandawiad, gellir cyhoeddi'r penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad.

    (3) Rhaid, ym mhob achos, cofnodi'r penderfyniad mewn dogfen cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.

    (4) Nid oes angen i benderfyniad a roddir neu a gofnodir yn unol â pharagraff (2) neu (3) gofnodi'r rhesymau dros y penderfyniad.

    (5) Rhaid cofnodi'r rhesymau dros y penderfyniad mewn dogfen cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl rhoi neu gofnodi'r penderfyniad.

    (6) Rhaid i ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad neu'r rhesymau dros benderfyniad ("dogfen penderfyniad") gael ei lofnodi a'i ddyddio gan berson priodol.

    (7) Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan y person hwnnw, gywiro unrhyw wallau clercio mewn dogfen penderfyniad neu unrhyw wallau sy'n codi ynddo o lithriad neu esgeulustod damweiniol.

    (8) Yn y rheoliad hwn, ystyr "person priodol" ("appropriate person") yw—

    (9) Rhaid anfon copi o unrhyw ddogfen penderfyniad, a chopi o unrhyw gywiriad yr ardystiwyd iddo o dan baragraff (7) i bob parti.

Costau
    
32. Ni chaiff y tribiwnlys wneud dyfarniad o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i'r Ddeddf mewn perthynas â pharti heb yn gyntaf ganiatáu i'r parti hwnnw y cyfle i gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys.

Tynnu cais yn ôl
    
33. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ceisydd ("y parti sy'n tynnu'n ôl") ("the withdrawing party") dynnu'n ôl y cyfan o gais a wnaed gan y ceisydd hwnnw, neu ran o'r fath gais, yn unol â pharagraff (2) ar unrhyw adeg cyn y dyfernir y cais.

    (2) Rhaid i'r parti sy'n tynnu'n ôl hysbysu ei fod yn tynnu'r cais yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad wedi'i lofnodi a'i ddyddio i'r tribiwnlys—

    (3) O dan unrhyw un o'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (4), ni fydd tynnu'r cais yn ôl yn effeithiol hyd y bydd un o'r camau gweithredu ym mharagraff (5) wedi'i gyflawni.

    (4) Yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw bod—

    (5) Y camau gweithredu a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—

    (6) Wrth roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5)(b)(ii), gall y tribiwnlys osod pa bynnag amodau ag y tyb sy'n briodol.

    (7) Caiff un aelod cymwysedig roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5)(b)(ii).

Gorfodi
    
34. Gellir, gyda chaniatâd y llys sirol, orfodi unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlys yn yr un ffordd â gorchmynion y fath lys.

Caniatâd i apelio
    
35. —(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr "apelio" ("to appeal") yw gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gan y tribiwnlys i'r Tribiwnlys Tiroedd ac mae i "apelydd" ("appellant") ystyr sy'n cyfateb i hynny.

    (2) Pan fo parti'n gwneud cais i'r tribiwnlys am ganiatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd yn sgil penderfyniad gan y tribiwnlys, gellir gwneud y cais—

    (3) Rhaid gwneud cais am ganiatâd i apelio o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad o'r penderfyniad fel y dyddiad pryd y rhoddwyd y rhesymau dros y penderfyniad.

    (4) Pan wneir cais am ganiatâd i apelio mewn ysgrifen, rhaid iddo gael ei lofnodi gan yr apelydd neu gynrychiolydd yr apelydd a rhaid iddo—

    (5) Rhaid cofnodi penderfyniad y tribiwnlys ynghylch cais am ganiatâd i apelio, ynghyd â'r rhesymau dros hynny, mewn ysgrifen, a rhaid i'r tribiwnlys anfon copi o'r penderfyniad a'r rhesymau i'r apelydd ac i'r partïon eraill i'r cais sy'n wrthrych i'r apêl.

    (6) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (5) gynnwys, fel bo'n briodol, ddatganiad ynghylch unrhyw ddarpariaeth statudol, rheol neu gyfarwyddyd mewn perthynas ag unrhyw gais pellach i'r Tribiwnlys Tiroedd am ganiatâd i apelio ac ynghylch yr amser a'r lle ar gyfer gwneud y cais pellach neu ar gyfer hysbysu ynghylch y bwriad i apelio.

Cymorth i gyfranogwyr
    
36. —(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr "cyfranogwr" ("participant") yw unrhyw barti neu dyst neu unrhyw berson arall sy'n cymryd rhan mewn achos mewn perthynas â chais neu at yr hwn y cyfeirir gorchymyn gan y tribiwnlys.

    (2) Os yw cyfranogwr yn analluog i ddarllen neu siarad neu ddeall yr iaith Saesneg neu'r iaith Gymraeg, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu ar gyfer y cyfranogwr, yn ddi-dâl, y cyfieithiadau a'r cymorth gan gyfieithydd sy'n ofynnol er mwyn galluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan yn effeithiol yn yr achos.

    (3) Os yw cyfranogwr yn methu â chlywed neu siarad, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu ar gyfer y cyfranogwr, yn ddi-dâl, wasanaethau cyfieithydd iaith arwyddion, gwefuslefarydd neu palandeipydd i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan yn effeithiol yn yr achos.

    (4) Mae gan gyfranogwr hawl i gymorth o dan y rheoliad hwn pa un ai a yw wedi'i gynrychioli ai peidio.

    (5) Rhaid i gyfranogwr y mae arno angen cymorth o dan y rheoliad hwn hysbysu'r tribiwnlys o'r angen hwnnw ar y cyfle cyntaf posibl.

Gofynion ynghylch darparu hysbysiadau a dogfennau
    
37. —(1) Mae unrhyw ddogfen neu hysbysiad y mae'r Rheoliadau hyn yn ei awdurdodi neu yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu i unrhyw berson, boed hynny gan y tribiwnlys, parti, neu unrhyw berson arall, wedi'i ddarparu'n briodol i'r person hwnnw—

    (2) At ddibenion paragraff (1)(c), ystyrir bod cynrychiolydd cyfreithiol y person wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig os dangosir y cyfeirnod neu'r cyfeiriad ar gyfer cyfathrebu drwy ffacs neu'n electronig neu drwy system danfon dogfennau preifat ar bapur ysgrifennu'r cynrychiolydd cyfreithiol.

    (3) Cyfeiriad priodol person ar gyfer dibenion paragraff (1) yw—

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

    (5) Pan fo paragraff (4) yn gymwys, caiff y tribiwnlys—

    (6) Pan fo'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol fod yn rhaid i barti ddarparu tystiolaeth fod y parti hwnnw wedi darparu dogfen i unrhyw berson, caiff y parti hwnnw fodloni'r gofyniad drwy ddarparu tystysgrif wedi'i lofnodi yn cadarnhau fod y ddogfen wedi'i chyflwyno'n unol â gofynion y rheoliad hwn.

Amser
    
38. Pan fo'r amser a ddynodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul neu ar ddiwrnod o wyliau cyhoeddus, fe ystyrir ei fod yn dod i ben ar y diwrnod dilynol nesaf nad yw'n ddydd Sadwrn neu'n ddydd Sul neu'n ddiwrnod o wyliau cyhoeddus.

Ceisiadau gwacsaw a blinderus
    
39. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan ymddengys i'r tribiwnlys fod cais yn wacsaw neu'n flinderus neu fel arall yn gamddefnydd o broses y tribiwnlys, caiff y tribiwnlys wrthod y cais yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

    (2) Cyn gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r ceisydd o'i fwriad i wneud hynny yn unol â pharagraff (3).

    (3) Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) ddatgan—

    (4) Ni chaniateir gwrthod cais o dan baragraff (1) oni bai—

Afreoleidd-dra
    
40. Nid yw unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant gan barti i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu ag unrhyw gyfarwyddyd gan y tribiwnlys cyn bod y tribiwnlys wedi penderfynu ar y cais ohono'i hun yn gwneud yr achos yn ddi-rym.

Llofnodi dogfennau
    
41. Pan fo'r Rheoliadau hyn yn gofyn fod dogfen yn cael ei llofnodi, bydd y gofyniad hwnnw wedi'i fodloni—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Mehefin 2006



ATODLEN
rheoliad 2 a 6


Manylion ychwanegol ynglŷn â rhai ceisiadau


Ceisiadau yn ymwneud â hysbysiadau gwella
     1. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn hysbysiad gwella) heblaw cais y cyfeirir ato ym mharagraff 2.

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     2. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i'r Ddeddf sydd ar y sail a ddynodir ym mharagraff 11(1) o'r Atodlen honno (sail apêl yn ymwneud â phersonau eraill), neu sy'n cynnwys y sail honno.

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     3. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 13(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu hysbysiad gwella).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     4. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

Ceisiadau yn ymwneud â gorchmynion gwahardd
     5. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(9) o'r Ddeddf (cais yn erbyn gwrthodiad gan awdurdod tai lleol i gymeradwyo defnydd penodol o dan adran 22(4)).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     6. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 34(2) o'r Ddeddf (cais gan lesydd neu lesddeiliad am orchymyn yn terfynu neu'n amrywio les pan fo gorchymyn gwahardd wedi dod yn weithredol).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.

     7. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 7(1) o Atodlen 2 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn gorchymyn gwahardd).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     8. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9(1) o Atodlen 2 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i amrywio neu i wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

Ceisiadau'n ymwneud â gweithredu adfer brys
     9. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(1) o'r Ddeddf (apêl gan berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 41 o'r Ddeddf yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i gymryd camau gweithredu adfer brys).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     10. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(2) o'r Ddeddf (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gorchymyn gwahardd brys).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     11. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person y mae'r awdurdod tai lleol yn ceisio adennill treuliau a llog oddi wrtho.

Ceisiadau'n ymwneud â gorchmynion dymchwel
     12. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 269(1) o Ddeddf 1985 (apêl gan berson sydd wedi'i dramgwyddo gan orchymyn dymchwel).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     13. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(1) neu (2)(a) o Ddeddf 1985 (cais mewn perthynas ag adennill treuliau awdurdod tai lleol wrth weithredu gorchymyn dymchwel o dan adran 271 o Ddeddf 1985 gan gynnwys penderfynu ynghylch cyfraniadau gan berchnogion ar y cyd).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y fangre[9].

     14. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(2)(b) o Ddeddf 1985 (cais gan berchennog mangre am benderfyniad ynghylch y gyfran o dreuliau awdurdod tai lleol sydd i'w thalu gan berchennog arall).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog y mae'r ceisydd yn ceisio cyfraniad ganddo tuag at dreuliau'r awdurdod tai lleol.

     15. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 317(1) o Ddeddf 1985 (cais gan lesydd neu lesddeiliad mangre y mae gorchymyn dymchwel wedi dod yn weithredol ar ei chyfer, am orchymyn yn amrywio neu'n terfynu'r les).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.

Cais yn ymwneud â gwaith ar fangre anaddas
     16. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 318(1) o Ddeddf 1985 (cais gan berson sydd â buddiant mewn mangre am i dribiwnlys awdurdodi cyflawni gwaith ar fangre anaddas neu ar gyfer gwella).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebwyr penodedig yw—

Ceisiadau'n ymwneud â thrwyddedu tai amlfeddiannaeth
     17. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 62(7) o'r Ddeddf (apêl yn erbyn gwrthodiad gan awdurdod tai lleol i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     18. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 73(5) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol [11].

     19. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 255(9) o'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i gyflwyno datganiad tai amlfeddiannaeth).

    (2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r datganiad tai amlfeddiannaeth.

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     20. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 256(4) o'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i wrthod dirymu datganiad tai amlfeddiannaeth).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     21. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31(1) o Atodlen 5 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i ganiatáu, neu beidio â chaniatáu, trwydded o dan Ran 2 o'r Ddeddf, neu yn erbyn unrhyw un o amodau'r drwydded).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     22. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan paragraff 32(1) o Atodlen 5 i'r Ddeddf (apêl gan ddeiliad trwydded neu unrhyw berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan awdurdod tai lleol ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded o dan Ran 2 o'r Ddeddf).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

Ceisiadau'n ymwneud â thrwyddedu dethol parthed llety preswyl arall
     23. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 86(7) o'r Ddeddf (apêl yn erbyn gwrthodiad gan yr awdurdod tai lleol i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     24. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 96(5) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol[12].

     25. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 3, neu yn ymwneud ag amodau trwydded).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     26. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o dan Atodlen 5 i'r Ddeddf (apêl gan ddeiliad trwydded neu berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan awdurdod tai lleol ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded o dan Ran 3 o'r Ddeddf.

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

Ceisiadau'n ymwneud â gorchmynion rheoli dros dro a gorchmynion rheoli terfynol
     27. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(4) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli dros dro).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl y diffiniad o "relevant person" ym mharagraff 8(4) a pharagraff 35 o Atodlen 6 i'r Ddeddf.

     28. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(7) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli dros dro mewn perthynas â thŷ y mae adran 103 o'r Ddeddf yn gymwys iddo).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff 8(4) a pharagraff 35 o Atodlen 6 i'r Ddeddf.

     29. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 105(10) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am i orchymyn rheoli dros dro barhau mewn grym hyd y byddir wedi ymdrin ag apêl);

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.

     30. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 110(7) o'r Ddeddf (cais gan landlord perthnasol am orchymyn mewn perthynas â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli dros dro mewn grym).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     31. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 114(7) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn y dylai gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes barhau mewn grym tra disgwylir ymdrin ag apêl yn erbyn gorchymyn rheoli terfynol newydd).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.

     32. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 120(1) o'r Ddeddf (cais gan berson yr effeithir arnynt am orchymyn bod yr awdurdod tai lleol yn rheoli yn unol â'r cynllun rheoli yn y gorchymyn rheoli terfynol).

    (2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n cynnwys y cynllun rheoli y mae'r cais yn cyfeirio ato.

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     33. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 126(4) o'r Ddeddf (cais am addasu hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â dodrefn a freinir yn yr awdurdod tai lleol tra bo gorchymyn rheoli mewn grym).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person arall sydd â buddiant yn y dodrefn.

     34. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 130(9) o'r Ddeddf (cais i benderfynu pwy yw "y landlord perthnasol" ("the relevant landlord") at ddibenion adran 130 pan ddaw'r gorchymyn rheoli i ben).

    (2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli.

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r landlord perthnasol arall[13].

     35. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan paragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli, neu yn erbyn amodau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     36. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad neu wrthodiad awdurdod tai lleol i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli neu wrthodiad i newid neu ddirymu'r fath orchymyn).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     37. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(2) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad gan awdurdod tai lleol o dan adran 128 o'r Ddeddf ynghylch yr iawndal sy'n daladwy i drydydd partïon).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

Ceisiadau mewn perthynas â gorchmynion rheoli anheddau gwag
     38. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 133(1) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am awdurdodiad i wneud gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog perthnasol[14].

     39. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 138(1) o'r Ddeddf (cais, tra bo gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro mewn grym, am orchymyn fod awdurdod tai lleol yn talu iawndal i drydydd parti am darfu ar ei hawliau).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     40. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 1(7) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn y dylai gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro barhau mewn grym hyd y byddir wedi ymdrin ag apêl o dan baragraff 26 o'r Atodlen honno).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.

     41. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 2(3)(d) neu baragraff 10(3)(d) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn o dan baragraff 22 o'r Atodlen honno'n terfynu les neu drwydded tra bo gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol mewn grym).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebwyr penodedig yw'r partïon i'r les neu'r drwydded.

     42. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5(7) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan berchennog perthnasol am orchymyn mewn cysylltiad â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro mewn grym).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     43. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9(8) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn y dylai gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol barhau mewn grym hyd y byddir wedi ymdrin ag apêl o dan baragraff 26).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.

     44. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(1) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan berson yr effeithir arnynt am orchymyn fod awdurdod tai lleol i reoli annedd yn unol â chynllun rheoli mewn gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol).

    (2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol (yn cynnwys y cynllun rheoli).

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     45. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 26(1) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol neu yn erbyn amodau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     46. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 30 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol neu wrthodiad i amrywio neu ddirymu gorchymyn o'r fath).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     47. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 34(2) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol o dan adran 136(4) neu 138(3) o'r Ddeddf mewn perthynas â'r iawndal sy'n daladwy i drydydd partïon am y tarfu a fu ar eu hawliau o ganlyniad i orchymyn rheoli anheddau gwag terfynol).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

Ceisiadau mewn perthynas â hysbysiadau gorlenwi
     48. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 143(1) o'r Ddeddf (apêl gan berson sydd wedi'i dramgwyddo gan hysbysiad gorlenwi).

    (2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r hysbysiad gorlenwi, neu ddatganiad gan y ceisydd yn esbonio'r amgylchiadau sydd wedi peri na all y ceisydd ddarparu copi o'r hysbysiad hwnnw.

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.

     49. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 144(2) (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gwrthodiad awdurdod tai lleol i ddirymu neu amrywio hysbysiad gorlenwi, neu yn erbyn methiant yr awdurdod tai lleol i ymateb mewn pryd i gais am ddirymu neu amrywio hysbysiad o'r fath).

    (2) Y dogfennau penodedig yw—

    (3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rheoleiddio'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer ceisiadau ac apelau (y cyfeirir atynt ynghyd fel ceisiadau) a wneir i dribiwnlys eiddo preswyl o dan Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") neu o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985"). Mae'r ceisiadau hyn yn ymwneud â'r darpariaethau, neu'n gysylltiedig â'r darpariaethau, yn y Ddeddf a Deddf 1985 ynghylch pwerau awdurdod tai lleol mewn perthynas â chyflwr tai a gorfodi safonau tai, yn cynnwys gweithredu adfer brys; gorchmynion dymchwel a chlirio slymiau; rheoleiddio tai amlfeddiannaeth; rheoli anheddau ac anheddau gweigion; a gorlenwi.

Mae adrannau 229 a 230 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer cyfansoddiad tribiwnlysoedd a'u pwerau cyffredinol. Mae Atodlen 13 i Ddeddf 2004 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â gweithdrefn tribiwnlysoedd eiddo preswyl ac yn dynodi cwmpas y rheoliadau gweithdrefn hynny.

Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau. Mae'r diffiniad o "ymatebydd" ("respondent") yn cyfeirio at is-baragraff (3) o bob paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau.

Mae rheoliad 3 yn dynodi'r achosion y mae'r Rheoliadau'n gymwys iddynt.

Mae rheoliad 4 yn nodi'r amcan cyffredinol o ymdrin yn deg ag yn gyfiawn â phob cais.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â cheisiadau am estyn yr amser ar gyfer gwneud cais, yn yr achosion hynny pan fo'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i dribiwnlys ganiatáu'r fath estyniad.

Mae rheoliad 6 yn rhoi manylion y wybodaeth sydd i'w chynnwys gyda chais, ac yn pennu dogfennau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer ceisiadau penodol, fel y'u rhestrir yn is-baragraff (2) o bob paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau.

Mae rheoliad 7 yn darparu mewn perthynas â chydnabod cais gan dribiwnlys ac anfon hysbysiad at yr ymatebydd sy'n pennu'r dyddiad erbyn pryd y dylai'r ymatebydd anfon ateb i'r tribiwnlys.

Mae rheoliad 8 yn ymdrin ag ateb yr ymatebydd.

Mae rheoliad 9 yn caniatáu i'r tribiwnlys gynnal gwrandawiad llafar ar fyr rybudd pan fo awdurdod tai lleol wedi gwneud cais am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro o dan adran 102(4) neu (7) o'r Ddeddf, a phan ei bod yn ymddangos i'r tribiwnlys ar sail y wybodaeth a gyflwynir gyda'r cais fod amgylchiadau eithriadol penodedig yn bodoli.

Mae rheoliad 10 yn ymdrin â cheisiadau gan berson am gael ymuno fel parti i'r achos.

Mae rheoliad 11 yn pennu'r amgylchiadau pan ellir penderfynu ar y cyd ynglŷn â dau neu ragor o geisiadau gwahanol, neu ynghylch materion penodol sy'n codi mewn ceisiadau gwahanol.

Mae rheoliad 12 yn darparu, pan na fydd y ffi ar gyfer gwneud cais wedi ei thalu o fewn 14 diwrnod, y dylid ystyried fod y cais wedi'i dynnu yn ôl oni bai fod yna sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Mae rheoliad 13 yn galluogi cyflawni'r ddyletswydd i ddarparu dogfen drwy ei darparu i gynrychiolydd parti neu i gynrychiolydd person sydd â buddiant pan ofynnir hynny mewn ysgrifen.

Mae rheoliad 14 yn mynnu fod y tribiwnlys yn sicrhau fod personau sydd â buddiant yn cael eu hysbysu ynghylch y cais ac yn derbyn esboniad ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gael ymuno fel parti.

Mae rheoliad 15 yn ymdrin â dosbarthu dogfennau perthnasol gan y tribiwnlys.

Mae rheoliadau 16 a 17 yn ymdrin â phwerau'r tribiwnlys i orchymyn darparu gwybodaeth a dogfennau a gyda methiant i gydymffurfio â gorchymyn o'r fath.

Mae rheoliad 18 yn galluogi'r tribiwnlys i benderfynu ynglŷn â chais heb wrandawiad llafar. Rhaid rhoi rhybudd o 14 diwrnod o leiaf i'r partïon o'r bwriad i weithredu yn y ffordd hon. Mae gan y partïon yr hawl i ofyn am wrandawiad llafar. Caiff un aelod cymwysedig o'r panel benderfynu ei bod yn briodol cynnal gwrandawiad llafar.

Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer gorchmynion dros dro, heblaw yn achos penderfynu ynghylch cais o dan adran 102(4) neu (7) o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 20 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol mewn perthynas â chyfarwyddiadau o dan bŵer cyffredinol y tribiwnlys yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 21 yn ymdrin ag archwilio'r fangre a'i chyffiniau.

Mar rheoliad 22 yn darparu ar gyfer rhoi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys.

Mae rheoliad 23 yn galluogi'r tribiwnlys i gynnal cynhadledd rheoli achos (a ddiffinnir fel ei bod yn cynnwys adolygiad cyn treial) gyda rhybudd o ddim llai na 14 diwrnod i'r partïon, neu gyfnod byrrach os bydd y partïon yn cytuno.

Mae rheoliad 24 yn rhoi manylion y gweddill o bwerau rheoli achos y tribiwnlys. Mae rheoliad 24(1)(a) yn galluogi'r tribiwnlys i estyn yr amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer cyflawni'r gwahanol gamau yn yr achos.

Mae rheoliad 25 yn ymdrin â hysbysu ynghylch dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad, ac mae rheoliad 26 yn rhoi'r pŵer i'r tribiwnlys i ohirio gwrandawiad.

Mae rheoliad 27 yn nodi pwerau'r tribiwnlys yn ystod gwrandawiad ac mae rheoliad 28 yn darparu ar gyfer o dan ba amodau y gellir cynnal gwrandawiad yn breifat fel eithriad i'r rheol gyffredinol y dylid cynnal gwrandawiadau'n gyhoeddus.

Mae rheoliad 29 yn nodi'r personau sydd â'r hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiadau a gynhelir yn breifat ac yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys ar gyfer penderfynu ynghylch y cais.

Mae rheoliad 30 yn galluogi'r tribiwnlys i fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb parti sy'n methu ag ymddangos.

Mae rheoliad 31 yn nodi sut a phryd y bydd y tribiwnlys yn cyhoeddi ac yn cofnodi penderfyniadau a'r rhesymau drostynt.

Mae rheoliad 32 yn darparu na chaiff y tribiwnlys ddyfarnu costau o dan ei bwerau a gynhwysir ym mharagraff 5 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 heb ganiatáu'r hawl i'r parti dan sylw gyflwyno sylwadau. Uchafswm y costau y gellir eu dyfarnu yw £500.

Mae rheoliad 33 yn pennu sut y gellir tynnu cais yn ôl yn rhannol neu'n gyfan gwbl, ac yn pennu'r amgylchiadau pryd y mae angen caniatâd y tribiwnlys i dynnu cais yn ôl.

Mae rheoliad 34 yn darparu ar gyfer gorfodi penderfyniad tribiwnlys yn y llys sirol, gyda chaniatâd y llys.

Mae rheoliad 35 yn cynnwys darpariaethau'n ymwneud â cheisiadau i dribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd.

Mae rheoliad 36 yn mynnu fod y tribiwnlys yn gwneud y trefniadau priodol pan fo ar unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr achos angen gwasanaeth cyfieithu, dehongli, neu gymorth arall i'w galluogi i gyfranogi'n effeithiol yn yr achos.

Mae rheoliad 37 yn pennu'r gofynion ar gyfer darparu hysbysiadau neu ddogfennau y mae'r Rheoliadau'n awdurdodi eu darparu. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys yr amgylchiadau dan y rhai y bydd cyfathrebu drwy ffacs neu gyfathrebu electronig, megis e-bost, neu gan wasanaeth dosbarthu preifat, megis Cyfnewid Dogfennau, yn dderbyniol.

Mae rheoliad 38 yn darparu os yw'r amser a ddynodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar benwythnos neu ddiwrnod o wyliau cyhoeddus, y bydd y weithred wedi'i chyflawni mewn pryd os y'i gwneir ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl hynny.

Mae rheoliad 39 yn rhoi i'r tribiwnlys y pŵer i wrthod yn rhannol neu'n gyfan gwbl unrhyw gais a ystyrir yn wacsaw, yn flinderus, neu mewn unrhyw ffordd arall yn gamddefnydd o broses y tribiwnlys, ar ôl rhoi rhybudd o 21 diwrnod o leiaf i'r ceisydd.

Mae rheoliad 40 yn datgan na fydd afreoleidd-dra ar ran y partïon ynddo'i hun yn peri fod yr achos yn ddi-rym.

Mae rheoliad 41 yn caniatáu atgynhyrchu llofnod yn fecanyddol neu mewn ffordd arall, ar yr amod yr ychwanegir enw'r person sy'n llofnodi o dan y llofnod mewn modd sy'n sicrhau y gellir adnabod y person.

Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau'n rhestru'r ceisiadau y gellir eu gwneud i dribiwnlys eiddo preswyl ac yn pennu ar gyfer pob un y dogfennau ychwanegol y mae'n rhaid eu cynnwys gyda chais, ac yn nodi'r personau y gellir eu henwi fel ymatebwyr i'r cais.

Pennir y ffioedd sy'n daladwy ar gyfer rhai ceisiadau penodol i dribiwnlys eiddo preswyl yn Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1642 (W.157)), sy'n dod i rym ar yr un dyddiad â'r Rheoliadau hyn.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111;
e-bost: [email protected]).


Notes:

[1] 2004 p.34. Mae'r pŵer i wneud rheoliadau o dan Atodlen 13, mewn perthynas â Chymru, wedi'i roi i Gynulliad Cenedlaethoil Cymru ac mewn perthynas â Lloegr, i'r Ysgrifennydd Gwladol, gweler y diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 261 o Ddeddf Tai 2004.back

[2] Am ystyr "local housing authority" gweler adran 261(4) o'r Ddeddf.back

[3] Am ystyr "interim management order" gweler adran 101(3) o'r Ddeddf, ac ar gyfer awdurdodiadau i wneud gorchymyn o'r fath, gweler adran 102(4) a (7).back

[4] 1985 p.68.back

[5] 2006/1642 (W.157)back

[6] Am ddiffiniad "single qualified member of the panel" gweler paragraffau 6(2) i (4) o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 2004.back

[7] Am ddiffiniad "single qualified member" yn y cyd-destun hwn, gweler paragraff 10(4) o Atodlen 13 i'r Ddeddf.back

[8] 1998 p.38.back

[9] Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio "owner" mewn perthynas â mangre.back

[10] Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio "owner" mewn perthynas â mangre.back

[11] Gweler adran 73(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffiniad o "the appropriate person".back

[12] Gweler adran 73(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffiniad o "the appropriate person".back

[13] Gweler adran 130(11) ar gyfer diffiniad o "relevant landlord".back

[14] Gweler adran 132(4)(c) ar gyfer y diffiniad o "relevant proprietor".back



English version



ISBN 0 11 091362 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 3 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061641w.html