BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 1660 (Cy.159) (C.56)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061660w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1660 (Cy.159) (C.56)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'i wneud 21 Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 47(5), 52(3), (4) a (6) o Ddeddf Addysg Uwch 2004[1] gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol [2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006.

Diwygio'r Gorchymyn
    
2. Mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005[3]yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

Yn lle erthygl 5 rhodder yr erthyglau canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mehefin 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) 2005 ("Gorchymyn Rhif 2") drwy roi dyddiad dod i rym newydd ar gyfer adran 44(4) o Ddeddf Addysg 2004 (sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 23 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i drosglwyddo neu ddirprwyo swyddogaethau cymorth myfyrwyr o dan reoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf honno).

Bydd yr is-adran honno, a oedd i ddod i rym ar 1 Medi 2006 o dan Orchymyn Rhif 2, yn awr yn dod i rym ar 23 Mehefin 2006.


Notes:

[1] 2004 p.8.back

[2] Fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Addysg Uwch 2004, adran 52 (4).back

[3] O.S. 2005/1833 (Cy.149).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091361 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 30 June 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061660w.html