BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006 Rhif 1704 (Cy.166)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061704w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1704 (Cy.166)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 27 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a), 26(2)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1];

     Yn unol ag adran 48(4A)[2] o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 mae wedi ystyried cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi ymghynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 28 Ionawr 2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3].

Enwi, cychwyn, rhychwantu a dirymu
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006, sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2006 ac eithrio rheoliad 3(3)(a) a (b) a 4 sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Hepgorir is-baragraff (b) o Atodlen 3 (Diffiniad o gyfraith bwyd berthnasol) yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2006[
4].

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn—

ond nid yw'n cynnwys eitem a gyflenwir fel hynafolyn;

Terfynau ar drosglwyddo plwm a chadmiwm
    
3. —(1) Rhaid i symiau o blwm a chadmiwm a drosglwyddir o eitem geramig beidio â mynd dros y terfynau a osodir yn Atodlen 1.

    (2) Penderfynir cydymffurfedd â pharagraff (1) drwy gynnal profion a dadansoddi yn unol ag Atodlen 2 oni ddangosir nad oedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitemau ceramig yn cynnwys plwm neu gadmiwm.

    (3) Ni chaiff neb—

eitem geramig nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion ym mharagraff (1).

Datganiad o Gydymffurfio
    
4. —(1) Rhaid i weithgynhyrchydd neu werthwr eitem geramig na ddaeth hyd yn hyn i gyffyrddiad â bwyd ddarparu datganiad ysgrifenedig yn unol ag Atodlen 2 i fynd gyda'r eitem yn y cyfnodau marchnata hyd at a chan gynnwys y cyfnod manwerthu.

    (2) Rhai i'r datganiad gael ei ddyroddi gan y gweithgynhyrchydd neu gan werthwr sydd wedi ymsefydlu yn y Gymuned.

    (3) Rhaid i weithgynhyrchydd neu fewnforiwr eitem geramig i'r Gymuned, pan ofynnir iddo, drefnu bod dogfennau priodol ar gael i awdurdod gorfodi sy'n dangos cydymffurfiaeth â gofynion rheoliad 3(1) gan gynnwys—

    (4) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i eitem geramig sy'n ail-law.

Gorfodi
    
5. Yr awdurdodau canlynol sydd i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn—

Tramgwyddau a chosbau
    
6. —(1) Mae person sy'n mynd yn groes i ddarpariaeth yn rheoliadau 3(3) neu 4(1) neu (3) yn euog o dramgwydd.

    (2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) uchod yn agored

    (3) Mewn rheithdrefn am dramgwydd o ran methiant i gydymffurfio â rheoliad 4 mae'n amddiffyniad i brofi bod yr eitem geramig y mae'r tramgwydd yn ymwneud â hi wedi'i rhoi ar y farchnad gyntaf yn y Gymuned cyn 20 Mai 2007.

Cymhwyso Deddf Diogelwch Bwyd 1990
    
7. —(1) Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990[5] yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, a dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)


Y MWYAFSYMIAU O BLWM A CHADMIWM Y CEIR EU TROSGLWYDDO O EITEM GERAMIG (TERFYNAU MUDO)


Rhaid i'r swm o blwm a/neu gadmiwm a echdynnir yn ystod y prawf a gyflawnir o dan yr amodau a osodir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 beidio â mynd dros y terfynau canlynol:

           Plwm Cadmiwm
Categori 1: eitemau na ellir eu llenwi ac eitemau y gellir eu llenwi, y mae eu dyfnder mewnol, wrth fesur o'r pwynt isaf i'r plân llorweddol sy'n mynd drwy'r ymyl uchaf, ddim mwy na 25 mm 0.8 mg/dm² 0.07 mg/dm²
Categori 2: Pob eitem arall y gellir ei llenwi 4.0 mg/l 0.3mg/l
Categori 3: Nwyddau coginio; llestri pecynnu a storio sy'n dal mwy na thri litr 1.5 mg/l 0.1 mg/l

Pan na fydd eitem geramig yn mynd dros y symiau uchod gan fwy na 50% , cydnabyddir er hynny bod yr eitem honno'n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn os oes o leiaf dair eitem arall sy'n dwyn yr un siâp, dimensiynau, addurn a gwydr yn mynd drwy brawf a gyflawnir o dan yr amodau a osodir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 ac nad yw symiau cyfartalog y plwm a/neu'r cadmiwm a echdynnir o'r eitemau hynny yn mynd dros y terfynau a osodwyd, ac nad oes un o'r eitemau hynny'n mynd dros y terfynau hynny gan fwy na 50% .

Pan fydd eitem geramig yn llestr ag iddo glawr ceramig, rhaid i'r terfyn plwm a/neu gadmiwm na ddylid mynd drosto (mg/dm² neu mg/litr) fod yr un terfyn ag sy'n gymwys i'r llestr yn unig. Rhaid cynnal profion ar wahân ar y llestr yn unig ac ar arwyneb mewnol y clawr ac o dan yr un amodau; rhaid bod y berthynas rhwng cyfanswm y ddwy lefel echdyniad a geir o'r plwm a/neu gadmiwm yn berthynas briodol i'r arwynebedd neu gyfaint y llestr yn unig.



ATODLEN 2
Rheoliad 3(2)



RHAN I

RHEOLAU SYLFAENOL I BENDERFYNU MUDIAD PLWM A CHADMIWM

Yr hylif prawf ("efelychydd")
     1. 4% (v/v) asid asetig, mewn toddiant o baratowyd yn ffres.

Amodau'r prawf
     2 —(1) cyflawni'r prawf ar dymheredd o 22 ± 2° am gyfnod o 24 ± 0.5 awr.

    (2) Pan benderfynir mudiad plwm, rhodder gorchudd ar y sampl mewn modd priodol i'w ddiogelu a gadawer ef yn agored i'r amodau goleuo arferol sydd mewn labordy.

    (3) Pan benderfynir mudiad cadmiwm neu blwm a chadmiwm, rhodder gorchudd ar y sampl i sicrhau bod yr arwyneb y mae profion i'w cynnal arno yn cael ei gadw mewn tywyllwch llwyr.

Llenwi
     3 —(1) Samplau y gellir eu llenwi

    (2) Samplau na ellir eu llenwi

Yn gyntaf, gorchuddir arwyneb y sampl na fwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â bwydydd â haenen amddiffynnol sy'n gallu gwrthsefyll gweithrediad y 4% (v/v) toddiant asid asetig. Yna boddir y sampl mewn cynhwysydd sy'n cynnwys swm gwybyddus o doddiant asid asetig yn y fath fodd y bydd yr arwyneb y bwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â'r bwydydd yn cael ei orchuddio'n llwyr gan yr hylif prawf.

Penderfynu arwynebedd yr arwyneb
     4. Mae arwynebedd arwyneb yr eitemau yng nghategori 1 yn hafal i arwynebedd arwyneb y menisgws a ffurfir gan yr arwyneb hylif rhydd a geir wrth gydymffurfio â'r gofynion llenwi a osodir ym mharagraff 3.



RHAN 2

DULLIAU DADANSODDI AR GYFER PENDERFYNU MUDIAD PLWM A CHADMIWM

Amcan a maes cymhwyso
     1. Mae'r dull yn caniatáu i'r mudiad penodedig o blwm a/neu gadmiwm gael ei benderfynu.

Egwyddor
     2. Penderfynir y mudiad penodedig o blwm a/neu gadmiwm drwy ddull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy'n bodloni perfformiad meini prawf pwynt 4.

Adweithyddion
     3 —(1) Rhaid bod ansawdd dadansoddol i bob adweithydd, oni phennir fel arall.

    (2) Os cyfeirir at ddŵr, bydd bob amser yn golygu dŵr a ddistyllwyd neu ddŵr o ansawdd cyfatebol.

    (3) 4 % (v/v) asid asetig, mewn toddiant dyfrllyd; ychwaneger 40 ml o asid asetig ar ffurf rhew at ddŵr i wneud hyd at 1 000 ml.

    (4) Toddiannau stoc: paratoer toddiannau stoc sy'n cynnwys 1 000 mg/litr o blwm ac o leiaf 500 mg/litr o gadmiwm yn eu trefn mewn 4 % o doddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (3).

Meini prawf perfformiad o'r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn
     4 —(1) Rhaid i'r terfyn canfod ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu'n is na—

Diffinnir y terfyn canfod fel y crynodiad o'r elfen yn y 4 % toddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato ym mhwynt 3.1, sy'n rhoi signal sy'n hafal i ddwywaith sŵn cefndir yr offeryn.

    (2) Rhaid i'r terfyn meintioliad ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu'n is na—

    (3) Adennill: rhaid i'r hyn a adenillir o blwm a chadmiwm a ychwanegwyd at y 4 % o doddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(3), ddod o fewn 80-120 % o'r swm a ychwanegwyd.

    (4) Penodolrwydd: rhaid i'r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn a gaiff ei ddefnyddio fod yn rhydd o ymyriannau matrics ac ymyriannau rhithiol.

Dull
     5. —(1) Paratoi'r sampl—

    (2) Penderfynu plwm a/neu gadmiwm—



ATODLEN 3
Rheoliad 4


DATGANIAD O GYDYMFFURFIO


     1 —(1) Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

    (2) enw a chyfeiriad y cwmni a weithgynhyrchodd yr eitem geramig orffenedig ac (os yw'n gymwys) y mewnforiwr a'i mewnforiodd i'r Gymuned;

    (3) dynodi'r eitem geramig neu'r eitemau ceramig;

    (4) dyddiad y datganiad;

    (5) cadarnhad bod yr eitem geramig neu'r eitemau ceramig yn bodloni'r gofynion perthnasol:

     2. Bydd y datganiad ysgrifenedig yn caniatáu dynodi'n hawdd yr eitem y dyroddwyd ef ar ei chyfer neu'r eitemau y dyroddwyd ef ar eu cyfer a rhaid ei adnewyddu pan fydd newidiadau sylweddol yn y cynhyrchiant yn peri newidiadau ym mudiad plwm a chadmiwm.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd. Maent yn gosod terfynau ar faint o blwm a chadmiwm a all gael eu trosglwyddo o eitemau o'r fath, ynghyd â gofynion ar gyfer cynnal profion ar drosglwyddo (mudo) o'r fath ac yn ei gwneud yn ofynnol bod tystysgrifau cydymffurfiaeth gydag eitemau ceramig yn y cyfnodau marchnata.

     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau o ran eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (O.J. L.277 o 20.10.84 t.12) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC o ran datganiad o gydymffurfio a meini prawf perfformiad o'r dull dadansoddi ar gyfer eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (O.J. L.110 o 30.4.05 t.36). Gweithredwyd y Gyfarwyddeb flaenorol gan Reoliadau Nwyddau Ceramig (Diogelwch) 1988 (O.S. 1988/1647) y mae'r Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Lloegr) 2006 (O.S. 2006/ 1179 ) yn eu dirymu.

     3. Yr oedd Rheoliadau 1988 yn gymwys i'r Deyrnas Unedig. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Gwneir Rheoliadau cyfatebol ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.

     4. Mae rheoliad 2 yn diffinio "eitem geramig". Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn gosod terfynau ar y symiau o blwm a chadmiwm y caniateir eu trosglwyddo gan eitem geramig, ac mae Atodlen 2 yn gosod sut y mae'n rhaid cynnal profion ar eitem. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad o gydymffurfio ysgrifenedig fynd gydag eitem geramig nad yw hyd yn hyn wedi dod i gyffyrddiad â bwyd ym mhob cyfnod marchnata hyd at y cyfnod manwerthu. Gosodir manylion y datganiad yn Atodlen 3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithgynhyrchydd neu fewnforiwr i'r Gymuned gadw dogfennau priodol sy'n dangos bod eitem neu eitemau yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 1.

     5. Mae rheoliad 5 yn darparu mai awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd fydd yn gorfodi'r Rheoliadau yn eu hardaloedd neu ddosbarthau perthnasol. Mae rheoliad 6 yn gosod y cosbau am fethu â chydymffurfio â'r Rheoliadau a'r amddiffyniadau sydd ar gael. Mae rheoliad 7 yn gosod pa ddarpariaeth o Ddeddf Diogelwch Bwyd sydd yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau.

     6. Mae arfarniad rheoliadol llawn wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael hefyd oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Mewnosodwyd is-adran (4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28).back

[3] O.J. Rhif L 31, 1/2/2002, t.1.back

[4] O.S. 2006 Rhif 590(Cy.66).back

[5] 1990 p.16.back

[6] Diwygiwyd adran 35(1) gan Atodlen 26 paragraff 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44) o ddyddiad sydd i'w bennu.back

[7] Mewnosodwyd adran 52A gan Atodlen 5 paragraff 16 o Ddeddf Safonau Bwyd 1990.back

[8] 1998 p.38.back

[9] O.J. L277 ar 20.10.84 t.12.back

[10] O.J. L110 ar 30.4.05 t.36.back

[11] O.J. L338, 13/11/2004 t.4—14.back



English version



ISBN 0 11 091386 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 18 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061704w.html