BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) 2006 Rhif 1707 (Cy.169)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061707w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1707 (Cy.169)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 27 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 4(2) o Atodlen 14 o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006.

    (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Sefydliadau addysgol penodedig at ddibenion penodol o fewn Deddf Tai 2004
    
2. Mae sefydliad addysgol yn un penodedig at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 os yw—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006



ATODLEN
Rheoliad 2(a)


Sefydliadau addysgol penodedig at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004


Prifysgol Caerdydd;

Prifysgol Morgannwg;

Athrofa Addysg Uwch Abertawe;

Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd;

Prifysgol Cymru, Aberystwyth;

Prifysgol Cymru, Bangor;

Coleg y Drindod Caerfyrddin;

Prifysgol Cymru, Casnewydd;

Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan;

Prifysgol Cymru, Abertawe.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn disgrifio tai nad ydynt yn dai amlfeddiannaeth ("HMOs") at ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1). Mae adran 254 o'r Ddeddf yn diffinio HMOs.

Mae paragraff 4 o Atodlen 14 i'r Ddeddf yn darparu nad yw adeilad yn HMO at ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1) os yw'n adeilad a feddiennir yn unig neu yn bennaf gan bersonau sy'n ei feddiannu at ddibenion dilyn cwrs amser llawn o addysg bellach mewn sefydliad penodedig neu mewn sefydliad o fath penodedig, a phan mai'r person sy'n ei reoli neu sydd â rheolaeth drosto yw'r sefydliad dan sylw neu berson penodedig neu berson o fath arbennig. Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn pennu sefydliadau o'r fath. Mae'r sefydliadau yn rhai penodedig os ydynt yn cael eu rhestru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac os ydynt hefyd yn cael eu rhestru fel rheolwr unrhyw adeilad a restrir mewn atodlen sy'n ffurfio rhan o'r naill neu'r llall o'r codau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(b).

Gellir cael copi o God Ymarfer y DU/ Cynhadledd Sefydlog Prifathrawon Prifysgolion (Cymru) gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
e-bost: [email protected]; rhyngrwyd: www.wales.gov.uk, neu Universities UK, Woburn House, 20 Tavistock Square, Llundain WC1H 9HQ; e-bost: [email protected]; rhyngrwyd: [email protected].

Gellir cael copi o God Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol (Cymru) gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: [email protected]; rhyngrwyd: www.wales.gov.uk, neu The National Administrator, National Codes of Standards, 155-157 Woodhouse Lane, Leeds LS2 3ED; e-bost: [email protected] neu [email protected]; rhyngrwyd: www.unipol.org.uk neu www.anuk.org.uk/Large Code/.

Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau y bydd y Rheoliadau hyn yn ei gael ar gael oddi wrth Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ; e-bost: [email protected]; intranet: www.wales.gov.uk.


Notes:

[1] 2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddwyd gan baragraff 4(2) o Atodlen 14 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" ("awdurdod cenedlaethol priodol") yn adran 261 (1) o'r Ddeddf.back

[2] Mae'r Cod Ymarfer hwn wedi cael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 233 o'r Ddeddf. Gweler Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) ( Cymru) 2006 (O.S. 2006/1709 (W.171)).back

[3] Mae'r Cod Ymarfer hwn wedi cael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 233 o'r Ddeddf. Gweler Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) Gorchymyn 2006 (O.S. 2006/1709 (Cy.171)).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091374 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 10 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061707w.html