BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1709 (Cy.171)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
27 Mehefin 2006 | |
|
Yn dod i rym |
7 Gorffennaf 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru,drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 233(1) a (4) o Ddeddf Tai 2004[1] ac wedi cymryd camau i ymgynghori â'r personau a grybwyllir yn adran 233(2) (a) a (b), ac wedi ei fodloni gyda'r trefniadau cyhoeddi yn unol ag adran 233(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006 a a daw i rym ar 7 Gorffennaf 2006.
(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran mangreoedd yng Nghymru.
Cymeradwyo codau ymarfer
2.
—(1) Mae'r codau ymarfer a grybwyllir ym mharagraff (2) sy'n gosod safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer sydd i'w dilyn parthed rheoli—
(a) tai amlfeddiannaeth a feddiennir yn unig neu'n bennaf gan bersonau sy'n eu meddiannu at y diben o ymgymryd â chwrs amser llawn o addysg bellach neu uwch[2]; neu
(b) adeiladau sy'n cwympo o fewn paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 (adeiladau a feddiennir gan fyfyrwyr),
yn rhai a gymeradwyir at ddibenion adran 233 o'r Ddeddf.
(2) Y codau ymarfer yw—
(a) Cod Ymarfer Prifysgolion y DU/Cynhadledd Sefydlog Prifathrawon y Prifysgolion ar gyfer Rheoli Tai Myfyrwyr (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006[3];
(b) Cod Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety i Fyfyrwyr a Reolir ac Sydd Dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006[4]; ac
(c) Cod Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety i Fyfyrwyr Nas Rheolir Gan ac Nad Ydynt Dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006[5].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
27 Mehefin 2006
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo tri cod ymarfer sy'n gosod safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer sydd i'w dilyn parthed rheoli tai amlfeddiannaeth ("HMOs") ac adeiladau eraill a feddiennir yn unig neu yn bennaf gan fyfyrwyr amser llawn.
Yr adeiladau eraill a grybwyllir yw'r rheiny sy'n cwympo o fewn paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 (sy'n darparu ar gyfer math o adeilad a feddiennir gan fyfyrwyr nad yw yn HMO at ddibenion y Ddeddf honno). Yn achos yr adeiladau hynny, rhaid i fyfyrwyr sy'n eu meddiannu wneud hynny at y diben o ymgymryd â chyrsiau addysg amser llawn mewn sefydliadau addysgol penodedig. Mae Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) ) 2006 wedi cael eu gwneud er mwyn pennu sefydliadau addysgol at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 14.
Mae arfarniad rheoliadol o'r effeiithiau y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar gael oddi wrth Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF 10 3NQ; e-bost: [email protected]; intranet: www.wales.gov.uk.
Notes:
[1]
2004 (p. 34). Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 233 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" ("awdurdod cenedlaethol priodol") yn adran 261(1).back
[2]
Am ystyr "tŷ amlfeddiannaeth" gweler y diffiniad o "house in multiple occupation" yn adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf.back
[3]
Gellir cael copi o'r Cod hwn gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: [email protected]; rhyngrwyd: www.wales.gov.uk, neu Universities UK, Woburn House, 20 Tavistock Square, Llundain WC1H 9HQ; e-bost: [email protected]; rhyngrwyd: www.universitiesUK.ac.uk.back
[4]
Gellir cael copi o'r cod hwn gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: [email protected]; rhyngrwyd: www.wales.gov.uk, neu The National Administrator, National Codes of Standards, 155-157 Woodhouse Lane, Leeds LS2 3ED: e-bost: [email protected] neu [email protected]; rhyngrwyd: neu www.anuk.org.uk/Large Code/. , .back
[5]
Gellir cael copi o'r cod hwn gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: [email protected]; rhyngrwyd: , neu The National Administrator, National Codes of Standards,, 155-157 Woodhouse Lane, Leeds LS2 3ED: e-bost: [email protected] neu [email protected]; rhyngrwyd: www.unipol.org.uk neu www.anuk.org.uk/Large Code/., .back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091372 8
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
7 July 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061709w.html