BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 Rhif 1712 (Cy.174)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061712w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1712 (Cy.174)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 27 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 55(3) o Ddeddf Tai 2004[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i unrhyw HMO[
2] yng Nghymru heblaw bloc o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo.

Dehongli
     2. Yn y Gorchymyn hwn—

Disgrifiad o HMOs a ragnodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
    
3. —(1) Mae HMO o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 55(2)(a) o'r Ddeddf pan fo'n bodloni'r amodau a ddisgrifir ym mharagraff (2).

    (2) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

    (3) Rhaid ystyried y lloriau canlynol wrth benderfynu a yw HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi disgrifiad o dŷ amlfeddiannaeth ("HMO") y mae Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn gymwys iddo. O dan adran 61(1) o'r Ddeddf, rhaid i bob HMO y mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn gymwys iddo fod yn drwyddedig oni bai ei fod yn destun naill ai hysbysiad esemptio dros dro o dan adran 62 o'r Ddeddf neu orchymyn rheoli terfynol neu interim o dan Bennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf.

Mae'r Gorchymyn yn gymwys i HMOs yng Nghymru ond nid yw'n gymwys i flociau o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae'r rhain yn adeiladau sydd wedi'u trosi'n fflatiau hunangynhaliol ac sy'n cynnwys fflatiau hunangynhaliol pan nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r trosiad yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu priodol, ac nad yw o hyd yn cydymffurfio â hwy, ac mae llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhaliol wedi'u perchen-feddiannu.

Mae erthygl 3(2) yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i HMOs eu bodloni er mwyn bod o ddisgrifiad a ragnodir gan erthygl 3(1). Un o'r amodau yw bod y cyfan neu ran o HMO yn cynnwys tri llawr neu fwy. Mae erthygl 3(3) yn rhestru'r lloriau mewn HMO sydd i'w hystyried wrth gyfrifo a yw'r HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy.

Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar fusnesau, ar gael o Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111;
e-bost [email protected]).


Notes:

[1] 2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adran 55(3) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1).back

[2] Ar gyfer ystyr HMO gweler adrannau 77 a 254 i 259 o'r Ddeddf.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091373 6


 © Crown copyright 2006

Prepared 10 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061712w.html