BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 Rhif 1713 (Cy.175)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061713w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1713 (Cy.175)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 27 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 234(1) o Ddeddf Tai 2004[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 30 Mehefin 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw dŷ amlfeddiannaeth yng Nghymru heblaw bloc o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

Dyletswydd rheolwr i roi gwybodaeth i feddiannydd
     3. Rhaid i'r rheolwr sicrhau—

Dyletswydd rheolwr i gymryd camau diogelwch
    
4. —(1) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob modd i ddianc rhag tân yn y tŷ amlfeddiannaeth—

    (2) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod unrhyw gyfarpar diffodd tân a larymau tân yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac sy'n gweithio.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob hysbysiad sy'n dangos y modd i ddianc rhag tân yn cael eu harddangos mewn mannau yn y tŷ amlfeddiannaeth sy'n sicrhau bod y meddianwyr yn gallu eu gweld yn glir.

    (4) Rhaid i'r rheolwr gymryd y mesurau hynny sy'n rhesymol ofynnol i ddiogelu meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth rhag niwed, gan roi sylw i—

    (5) Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (4) rhaid i'r rheolwr yn benodol—

    (6) Nid yw'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (3) yn gymwys os oes gan y tŷ amlfeddiannaeth bedwar meddiannydd neu lai.

Dyletswydd y rheolwr i gynnal a chadw cyflenwad dŵr a draenio
    
5. —(1) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod y cyflenwad dŵr a'r system ddraenio sy'n gwasanaethu'r tŷ amlfeddiannaeth yn cael eu cynnal mewn cyflwr da a glân ac sy'n gweithio ac yn benodol rhaid i'r rheolwr sicrhau—

    (2) Rhaid i'r rheolwr beidio yn afresymol â pheri neu ganiatáu i'r cyflenwad dŵr neu ddraenio a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw feddiannydd yn y tŷ amlfeddiannaeth gael ei fylchu.

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "ffitiad dŵr" yw pibell, tap, dwsel, falf, amgarn, meter, seston, baddon, toiled dŵr neu bowlen garthion a ddefnyddir mewn cysylltiad â chyflenwad neu ddefnydd o ddŵr, ond nid yw'r cyfeiriad yn y diffiniad hwn at bibell yn cynnwys pipell orlifo neu bibell ddŵr o'r prif gyflenwad.

Dyletswydd rheolwr i gyflenwi a chynnal a chadw nwy a thrydan
    
6. —(1) Rhaid i'r rheolwr roi i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 niwrnod ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw y dystysgrif brofi cyfarpar nwy ddiweddaraf y mae'r rheolwr wedi ei chael o ran profi unrhyw gyfarpar nwy yn y tŷ amlfeddiannaeth gan beiriannydd cydnabyddedig.

    (2) Ym mharagraff (1), ystyr "peiriannydd cydnabyddedig" ("recognised engineer") yw peiriannydd a gydnabyddir gan y Cyngor Gosodwyr Nwy Cofrestredig fel un cymwys i ymgymryd â phrofion o'r fath.

    (3) Rhaid i'r rheolwr—

    (4) Rhaid i'r rheolwr beidio yn afresymol â pheri neu ganiatáu i'r cyflenwad dŵr neu drydan a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw feddiannydd yn y tŷ amlfeddiannaeth gael ei fylchu.

Dyletswydd rheolwr i gynnal a chadw rhannau cyffredin, gosodion, ffitiadau a chyfarpar
    
7. —(1) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod holl rannau cyffredin y tŷ amlfeddiannaeth—

    (2) Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) rhaid i'r rheolwr yn benodol sicrhau—

    (3) Nid yw'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(dd) yn gymwys o ran gosodion, ffitiadau neu gyfarpar y mae gan y meddiannydd hawl i'w symud o'r tŷ amlfeddiannaeth neu sydd fel arall y tu allan i reolaeth y rheolwr.

    (4) Rhaid i'r rheolwr sicrhau—

    (5) Os oes unrhyw ran o'r tŷ amlfeddiannaeth nad yw'n cael ei defnyddio rhaid i'r rheolwr sicrhau bod y rhan honno, gan gynnwys unrhyw gyntedd a grisiau sy'n rhoi mynediad uniongyrchol iddi, yn cael ei chadw'n rhesymol lân ac yn rhydd o sbwriel a llanastr.

    (6) Yn y rheoliad hwn ystyr "rhannau cyffredin" ("common parts") yw—

Dyletswydd rheolwr i gynnal a chadw llety i fyw ynddo
    
8. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob uned lety i fyw ynddi yn y tŷ amlfeddiannaeth ac unrhyw ddodrefn a gyflenwir gyda'r uned mewn cyflwr glân pan fydd person yn dechrau meddiannu'r lle.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i'r rheolwr sicrhau, ynglŷn â phob rhan o'r tŷ amlfeddiannaeth a ddefnyddir fel llety i fyw ynddo—

    (3) Nid yw'r dyletswyddau a osodir o dan baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheolwr wneud unrhyw drwsio y cododd yr angen amdano o ganlyniad i ddefnydd gan y meddiannydd o'r llety i fyw ynddo mewn modd nad yw'n debyg i fodd y byddai tenant yn ei ddefnyddio.

    (4) Nid yw'r dyletswyddau a osodir o dan baragraffau (1) a (2)(b) yn gymwys o ran dodrefn, gosodion, ffitiadau neu gyfarpar y mae gan y meddiannydd hawl i'w symud o'r tŷ amlfeddiannaeth neu sydd fel arall y tu allan i reolaeth y rheolwr.

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn bernir bod person yn defnyddio'r llety i fyw ynddo mewn modd nad yw'n debyg i fodd y byddai tenant yn ei ddefnyddio os bydd y person yn methu â thrin yr eiddo yn unol â'r cyfamodau neu'r amodau a geir yn y les neu'r drwydded neu fel arall os yw'n methu â gweithredu fel y byddai tenant neu drwyddedai rhesymol yn ei wneud.

Dyletswydd i ddarparu cyfleusterau gwaredu gwastraff
    
9. Rhaid i'r rheolwr—

Dyletswyddau meddianwyr tai amlfeddiannaeth
    
10. Rhaid i bob meddiannydd tŷ amlfeddiannaeth—

Cyffredinol
    
11. —(1) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Mae unrhyw ddyletswydd a osodir gan y Rheoliadau hyn i gynnal a chadw neu drwsio i'w dehongli fel dyletswydd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod safon y cynnal a chadw neu'r trwsio yn un sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, gan gymryd i ystyriaeth oed, cymeriad ac oes ragolygol y tŷ a'r ardal lle y mae'r tŷ.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dai amlfeddiannaeth yng Nghymru ond nid ydynt yn gymwys i flociau o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddynt. Mae'r adran honno yn gymwys i adeiladau a gafodd eu trosi'n fflatiau hunangynhaliol ac sy'n fflatiau hunangynhaliol pan nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r trosiad yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu priodol ac nad yw o hyd yn cydymffurfio â hwy, ac mae llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhaliol wedi'u perchen-feddiannu.

Mae'r Rheoliadau yn gosod dyletswyddau ar y person sy'n rheoli tŷ amlfeddiannaeth o ran—

Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswyddau ar feddianwyr tŷ amlfeddiannaeth at ddibenion sicrhau bod y person sy'n ei reoli yn gallu cyflawni'r dyletswyddau a osodir ar y rheolwr gan y Rheoliadau hyn yn effeithiol.

Mae person sy'n methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn yn cyflawni tramgwydd o dan adran 234(3) o Ddeddf Tai 2004, a gellir ei gosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn eu cael ar gael oddi wrth yr Uned Sector Preifat, yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111;
e-bost [email protected]).


Notes:

[1] 2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddir gan adran 234(1) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1) o'r Ddeddf.back

[2] I gael ystyr "person managing" gweler adran 263(3) o'r Ddeddf.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091368 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 7 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061713w.html