BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1790 (Cy.186)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'i wneud |
4 Gorffennaf 2006 | |
|
Yn dod i rym |
6 Gorffennaf 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16BA, is-adrannau (1), (2) a (3) ac adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], a pharagraff 1 o Atodlen 5B i'r Ddeddf honno, sy'n arferadwy ganddo o ran Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) (Diwygio) 2006 a daw i rym ar 6 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "y prif Orchymyn" ("the principal Order") yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003[2].
Diwygio'r Atodlen i'r prif Orchymyn
3.
—(1) Diwygir yr Atodlen i'r prif Orchymyn (Enwau Byrddau Iechyd Lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer) fel a ganlyn:
(2) Yn y golofn sy'n dwyn y pennawd "Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan erthygl 3"—
(a) yn lle "Bwrdd Iechyd Lleol Powys" ("Powys Local Health Board") rhodder "Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys" ("Powys Teaching Local Health Board");
(b) yn lle "Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili" ("Caerphilly Local Health Board") rhodder "Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili" ("Caerphilly Teaching Local Health Board"); ac
(c) yn lle "Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf" ("Rhondda Cynon Taff Local Health Board") rhodder "Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf" ("Rhondda Cynon Taff Teaching Local Health Board").
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn Diwygio hwn yn diwygio Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 er mwyn newid enw Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili, Bwrdd Iechyd Lleol Powys a Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf i adlewyrchu eu statws fel Byrddau Addysgu Iechyd Lleol.
Notes:
[1]
1977 p.49.back
[2]
2003/148 (Cy.18).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091380 9
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
12 July 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061790w.html