BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 1795 (Cy.190)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061795w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1795 (Cy.190)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2006 
  Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2006 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997[
3].

     2. I'r graddau nad yw'r diwygiadau a wneir i'r Prif Reoliadau gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006[4] yn gymwys o ran Cymru[5]mae'r diwygiadau hynny drwy hyn yn cael eu cymhwyso o ran Cymru yn ddarostyngedig i ddiwygiadau pellach a wneir gan y Gorchymyn hwn.

Diwygio'r Rheoliadau
     3. Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    
4. Yn rheoliad 2(1A), hepgorer y geiriau "in relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only".

    
5. Yn rheoliad 2(1B), hepgorer y geiriau "in relation to England and in relation to Wales for the purposes of its application to regulation 4 only".

    
6. Hepgorer rheoliad 2(4).

    
7. Yn rheoliad 2(4B) hepgorer y geiriau "In relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only,".

    
8. Hepgorer rheoliad 2(5).

    
9. Yn rheoliad 2(5B), hepgorer y geiriau "In relation to England".

    
10. Hepgorer rheoliad 2(6).

    
11. Ym mhennawd rheoliad 6A ac yn rheoliad 6A(1) a (2), hepgorer y geiriau "In relation to England" .

    
12. Hepgorer rheoliad 8(2).

    
13. Yn yr Atodlen—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997 ("Rheoliadau 1997") o ran Cymru. Gwnaed Rheoliadau 1997 o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Datganolwyd y pwerau o dan adran 2 (sy'n ymwneud â dyfarniadau yn ôl disgresiwn) i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru yn 1999 (pan gafodd y Cynulliad ei swyddogaethau cyntaf). Ond ni throsglwyddwyd y pwerau o dan adran 1 (sy'n ymwneud â chodi ffioedd mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch), nes Fehefin 2006.

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu, mewn achosion penodol, ei bod yn gyfreithlon i wahaniaethu rhwng y personau a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hynny a'r personau na chyfeirir atynt yn yr Atodlen mewn cysylltiad â chodi ffioedd a gwneud dyfarniadau. Yn rhinwedd adran 26 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, nid yw unrhyw amod a osodir i gyfyngu ar symiau ffioedd dysgu o dan y Deddfau hynny yn berthnasol i unrhyw ffioedd sy'n daladwy gan fyfyrwyr ar wahân i'r rhai sy'n disgyn o fewn y dosbarth rhagnodedig o bersonau sydd â chysylltiad penodol â'r Deyrnas Unedig o dan reoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau (fel y'i diwygiwyd) yn amlinellu'r dosbarth o bersonau sydd â'r cysylltiad penodol hwnnw gyda'r Deyrnas Unedig.

Mae Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 (OJ L158, 30.04.2004, t77-123) yn ymwneud â hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd o fewn tirogaeth yr aelod-wladwriaethau. Bydd rhai categoriau o bersonau nad oedd ganddynt yr hawl yn flaenorol i gael eu trin yn gyfartal â dinasyddion y Deyrnas Unedig o ran ffioedd dysgu a chymorth cynnal bellach yn gymwys o ganlyniad i'r Gyfarwyddeb.

Cafodd y newidiadau yr oedd eu hangen er mwyn rhoi effaith lawn i'r Gyfarwyddeb mewn perthynas â ffioedd dysgu a dyfarniadau yn ôl disgresiwn eu gweithredu gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006 a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau. I Gymru y mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hynny yn gymwys i'r graddau y maent yn ymwneud â ffioedd dysgu (nas datganolwyd hyd nes Fehefin 2006). O'u cymhwyso i ddyfarniadau yn ôl disgresiwn (pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau eisoes wedi'i ddatganoli), dim ond i Loegr y mae'r newidiadau yn gymwys. Effaith y Rheoliadau presennol yw gwneud y newidiadau diweddarach hynny'n gymwys i Gymru.


Notes:

[1] 1983 p.40; gwnaed diwygiadau perthnasol gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57 a chan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen 14, paragraff 9. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1983 (ac eithrio'r rhai o dan adran 1), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 i fod yn effeithiol o 1 Gorffennaf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 1 i'r Cynulliad a hynny'n effeithiol o 8 Mehefin 2006: O.S. 2006/1458.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/1972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1965, O.S. 1999/229, O.S. 2000/2192, O.S. 2003/2945, O.S. 2003/3280, O.S. 2005/2114 ac O.S 2006/453.back

[4] O.S. 2006/453.back

[5] Gwnaed y Rheoliadau hynny o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol (gweler troednodyn (1) ar dudalen 1), ac felly, nid yw'r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006 o dan yr adran honno yn gymwys o ran Cymru.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091383 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 13 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061795w.html