BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006 Rhif 1850 (Cy.193)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061850w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1850 (Cy.193)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006

  Wedi'u gwneud 11 Gorffennaf 2006 
  Yn dod i rym 13 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), a 48 (1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo ef bellach[2].

     Yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

     Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3].

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2), maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 13 Gorffennaf 2006.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r term Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.

Tramgwyddau a chosbau
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a geir yn y darpariaethau Cymunedol a bennir ym mharagraff (2), mae person yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol—

    (2) Y darpariaethau Cymunedol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

Gorfodi
    
4. Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod porthladd o fewn ei ranbarth yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
    
5. —(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—

    (3) Bydd i'r ymadroddion "swyddog awdurdodedig", "awdurdod bwyd", "rhoi ar y farchnad", "Rheoliad y Comisiwn" sy'n cyfateb yn eu tro i "authorised officer", "food authority", "placing on the market", "the Commission Regulation" a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), yr ystyron sydd i'r ymadroddion hynny yn eu trefn yn y Rheoliadau hyn.

Diwygiad canlyniadol
    
6. Yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990[27] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006 rhodder y cofnod a ganlyn—

"The Contaminants in Food (Wales) (No. 2) Regulations 2006 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with the Commission Regulation as that expression is defined in those Regulations) S.I. 2006/1850(W.193)"

Dirymiadau
     7. Dirymir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006[28].



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[29]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Gorffennaf 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/485) (Cy.55) ("Rheoliadau 2006") ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau. Maent yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, gyda chywiriadau a diwygiadau) ("Rheoliad y Comisiwn"). Ers gwneud Rheoliadau 2006, cafodd Rheoliad y Comisiwn ei diwygio er mwyn—

     2. Mae'r Rheoliadau yn—

     3. Mae Rheoliad y Comisiwn yn pennu dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi y mae'n rhaid eu defnyddio er mwyn rheoli'n swyddogol lefelau'r sylweddau a gwmpesir ganddo. Ceir y dulliau hynny yn—

     4. Cafodd arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[4] 1984 p.22.back

[5] OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1. Mae Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwn ac Atodiad I iddo yn pennu dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi y mae'n ofynnol eu defnyddio i reolaethau'n swyddogol lefelau'r sylweddau a gwmpesir gan y Rheoliad. Ceir y dulliau hyn yng Nghyfarwyddebau'r Comisiwn 2001/22/EC, 2002/63/EC, 2002/69/EC, 2004/16/EC a 2005/10/EC ac yn Rheoliad y Comisiwn (EC) 401/2006. Rhoddir mwy o fanylion am yr offerynnau hynny yn y Nodyn Esboniadol i'r offeryn hwn.back

[6] OJ Rhif . L313, 30.11.2001, t.60.back

[7] OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1.back

[8] OJ Rhif . L37, 7.2.2002, t.4.back

[9] OJ Rhif . L41, 13.2.2002, t.12.back

[10] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.18.back

[11] OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.back

[12] OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5.back

[13] OJ Rhif L155, 14.6.2002, t.63.back

[14] OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.1.back

[15] OJ Rhif L326, 13.12.2003, t.12.back

[16] OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.3back

[17] OJ Rhif L74, 12.3.2004, t.11.back

[18] OJ Rhif L104, 8.4.2004, t.48.back

[19] OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.3.back

[20] OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.6.back

[21] OJ Rhif L16, 20.1.2005, t.43.back

[22] OJ Rhif L25, 28.1.2005, t.3.back

[23] OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.3.back

[24] OJ Rhif L143, 7.6.2005, t.3.back

[25] OJ Rhif L293, 9.11.2005, t.11.back

[26] OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.34.back

[27] O.S. 1990/2463.back

[28] O.S. 2006/485 (Cy.55).back

[29] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091389 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 19 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061850w.html