BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchmyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Codi Taliadau) (Cymru) 2006 Rhif 1852 (Cy.195)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061852w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1852 (Cy.195)

GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU

Gorchmyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Codi Taliadau) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 11 Gorffennaf 2006 
  Yn dod i rym 13 Gorffennaf 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[1], ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 19(7) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Codi Taliadau) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 13 Gorffennaf 2006[a].

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn—

Pŵer i godi tâl am wasanaethau
     2. Awdurdodir awdurdod tân ac achub i godi tâl ar berson a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl yn yr Atodlen ar gyfer y weithred a wneir gan yr awdurdod a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r tabl, ond nid—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Gorffennaf 2006



ATODLEN
Erthygl 2


TALIADAU AWDURDODEDIG


Y weithred a gyflawnir gan yr awdurdod tân ac achub Y person y caniateir codi tâl arno
     1. Hurio neu ddarparu cyfarpar, cerbydau, mangreoedd neu gyflogeion awdurdod tân ac achub, ac eithrio pan wneir hyn yn unol ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

    (a) adran 6;

    (b) adran 8; neu

    (c) adrannau 13 i 17.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     2. Arolygu, profi, cynnal ac atygyweirio cyfarpar a cherbydau, gan gynnwys ailwefru silindrau aer cywasgedig a chyfarpar anadlu.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     3. Dal a chlirio ysbwriel, gorlifoedd, arllwysiadau neu ollyngiadau o gerbyd, tanc storio neu bibell.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre neu gerbyd a oedd, cyn y digwyddiad a arweiniodd at y tâl, yn dal neu'n cludo'r deunydd sydd i'w ddal neu i'w glirio, neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     4. Darparu dŵ r neu gael gwared â dŵ r.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd unrhyw fangre y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     5. Galluogi pobl i fynd i mewn i fangre neu i ddod o fangre

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y fangre neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     6. Achub pobl o gabanau lifftiau

Perchennog neu weithredydd y lifft.
     7. Achub anifeiliaid.

Perchennog neu geidwad yr anifail.
     8. Darparu dogfennau, ffotograffau, tâpiau, fideos neu recordiadau tebyg eraill, pan na fo codi taliadau eisoes wedi'i awdurdodi neu ei wahardd gan ddeddfiad arall.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     9. Darparu hyfforddiant, heblaw hyfforddiant a ddarperir i gyflogeion awdurdodau tân ac achub eraill o dan gynllun atgyfnerthu.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     10. Symud strwythurau peryglus.

Perchennog, meddiannydd neu weithredydd y strwythur neu'r fangre lle mae'r strwythur neu'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     11. Rhoi cyngor i bersonau mewn perthynas â mangre lle dygir masnach, busnes neu ymgymeriad arall ymlaen, heblaw rhoi cyngor y mae'n ofynnol gwneud trefniadau ar ei gyfer o dan adran 6(2)(b) o'r Ddeddf.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.
     12. Codi personau analluog.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth.
     13. Diffodd tân ar y môr neu o dan y môr, neu amddiffyn bywyd ac eiddo os digwydd tân o'r fath.

Y person sy'n gofyn am y gwasanaeth neu'r person y darperir y gwasanaeth iddo.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub yng Nghymru (erthygl 1).

Mae adran 19 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, awdurdodi awdurdod tân ac achub i godi tâl ar berson o ddisgrifiad penodedig am unrhyw weithred o ddisgrifiad penodedig a gyflawnir gan yr awdurdod. Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r gweithredoedd y caiff awdurdod tân ac achub godi tâl amdanynt ac yn pennu'r personau y caniateir codi tâl arnynt (erthygl 2 a'r Atodlen).

Mae arfarniad rheoliadol llawn o'r effaith y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar fusnesau ar gael o Robert Tyler, Cangen Gwasanathau Tân ac Achub, Y Pedwerydd Llawr, CP2, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; ffôn: 029 2082 1283;
e-bost: [email protected].


Notes:

[1] 2004 p.21.back

[2] 1994 p.22.back

[3] 1998 p.38.back



English version


[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2, fersiwn iaith Gymraeg, erthygl 1(1), llinell tri: dylai'r dyddiad dod i rym, " Mehefin 2006.", ddarllen, "13 Gorffennaf 2006."; a back

Tudalen 2, fersiwn iaith Saesneg, erthygl 1(1), llinell tri: dylai'r dyddiad dod i rym, "9 June 2006.", ddarllen, "13 July 2006.".



ISBN 0 11 091393 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 4 August 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061852w.html