BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 Rhif 2629 (Cy.225)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062629w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2629 (Cy.225)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 3 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 4 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu, trafod a rheoli sŵn amgylcheddol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 4 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Nid oes dim ym mharagraff (2) yn golygu y dylai mapiau sŵn strategol a wneir neu a ddiwygir o dan y Rheoliadau hyn fod yn gyfyngedig i Gymru.

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sŵn amgylcheddol sydd o fewn clyw pobl, a hynny'n benodol mewn ardaloedd adeiledig, mewn parciau cyhoeddus neu mewn ardaloedd tawel eraill mewn crynodref, yn agos i ysgolion, ysbytai ac adeiladau ac ardaloedd eraill sy'n sensitif o ran sŵn.

    (5) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sŵn a achosir gan y person ei hun sydd o fewn clyw i'r sŵn, sŵn sy'n deillio o weithgareddau domestig, sŵn a gaiff ei greu gan gymdogion, sŵn mewn gweithleoedd, sŵn y tu mewn i gyfrwng cludo neu sŵn a achosir gan weithgareddau milwrol mewn ardaloedd milwrol.

Dehongli
    
2. —(1) Oni bai eu bod yn cael eu diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i eiriau a thermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb yr ystyr sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn—

yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p'un ai oherwydd ei bod yn dod o fewn is-adran (1), neu oherwydd ei bod yn ffordd ddosbarth o dan is-adran (3));

Nodi ffynonellau sŵn
     3. —(1) Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2006, yr holl—

    (2) Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, yr holl—

    (3) Mae paragraff (4) yn gymwys os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw'r rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir yn unol â'r rheoliad hwn yn briodol mwyach.

    (4) Mewn unrhyw flwyddyn berthnasol rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau—

yn ôl yr angen.

    (5) Ym mharagraff (4) ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw 2016 a phob pumed flwyddyn ar ôl hynny.

    (6) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(a) i nodi crynodrefi cylch cyntaf, rhaid i'r Cynulliad nodi ardaloedd—

    (7) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(a) neu (4)(a) i nodi crynodrefi, rhaid i'r Cynulliad nodi ardaloedd—

    (8) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(b) i nodi prif ffyrdd cylch cyntaf rhaid i'r Cynulliad nodi ffyrdd—

    (9) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(b) neu (4)(b) i nodi prif ffyrdd rhaid i'r Cynulliad nodi ffyrdd—

    (10) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(c) i nodi prif reilffyrdd cylch cyntaf rhaid i'r Cynulliad nodi rheilffyrdd y mae arnynt fwy na 60,000 o dramwyadau trên y flwyddyn.

    (11) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(c) neu (4)(c) i nodi prif reilffyrdd rhaid i'r Cynulliad nodi rheilffyrdd y mae arnynt fwy na 30,000 o dramwyadau trên y flwyddyn.

    (12) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(ch), (2)(ch) neu (4)(ch) i nodi prif feysydd awyr rhaid i'r Cynulliad nodi meysydd awyr sifil lle y mae mwy na 50,000 o symudiadau y flwyddyn (ac mae symudiad yn golygu awyren yn codi neu'n glanio), heb gynnwys symudiadau at ddiben hyfforddiant yn unig ar awyrennau ysgafn.



RHAN 2

MAPIAU Sŵn STRATEGOL



PENNOD 1

GOFYNION CYFFREDINOL AR GYFER MAPIAU Sŵn STRATEGOL

Mapiau sŵn strategol: gofynion cyffredinol
    
4. —(1) Rhaid i unrhyw fap sŵn strategol a wnaed neu a ddiwygiwyd o dan y Rhan hon fodloni'r gofynion cymwys yn Atodlen 1.

    (2) Rhaid i awdurdod cymwys o dan reoliad 6 neu 10 gymhwyso—

pan fydd yn gwneud neu'n diwygio mapiau sŵn strategol o dan y Rhan hon.

    (3) Rhaid canfod gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol drwy gyfrwng y dulliau asesu a geir yn Atodlen 2.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir trosi dangosyddion sŵn presennol a data perthynol yn Lden ac yn Lnight.

    (5) Rhaid i'r data y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) beidio â bod yn fwy na thair blwydd oed.

    (6) ystyr "dangosydd sŵn atodol" ("supplementary noise indicator") yw dangosydd sŵn fel a ddiffinnir yn Atodlen 3.



PENNOD 2

MAPIAU Sŵn STRATEGOL –FFYNONELLAU Sŵn AC EITHRIO MEYSYDD AWYR HEB EU DYNODI

Cymhwyso
    
5. Nid yw'r Bennod hon yn gymwys i sŵn o feysydd awyr heb eu dynodi.

Awdurdod Cymwys
    
6. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol
    
7. —(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2007, wneud ac, yn unol â rheoliad 23, fabwysiadu mapiau sŵn strategol yn dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol ar gyfer yr holl—

    (2) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2012, a phob pum mlynedd ar ôl hynny, wneud ac, yn unol â rheoliad 23, fabwysiadu mapiau sŵn strategol yn dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol ar gyfer yr holl—

    (3) O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

unrhyw fapiau sŵn strategol a wnaed yn unol â pharagraffau (1) neu (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.



PENNOD 3

MAPIAU Sŵn STRATEGOL – MEYSYDD AWYR HEB EU DYNODI

Cymhwyso
    
8. Mae'r Bennod hon yn gymwys i sŵn o feysydd awyr heb eu dynodi.

Dehongli
    
9. —(1) Yn y Bennod hon—

    (2) Mae unrhyw ofyniad yn y Bennod hon am gyflwyno data mewnbwn i awdurdod cymwys yn ofyniad am gyflwyno'r data mewnbwn hynny ar fformat—

Awdurdod Cymwys
     10. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw gweithredydd y maes awyr.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol: prif feysydd awyr heb eu dynodi
    
11. —(1) Dim ond i brif feysydd awyr heb eu dynodi y mae'r rheoliad hwn yn gymwys.

    (2) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2007, a phob pum mlynedd wedi hynny—

    (3) O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

unrhyw fap sŵn strategol map a wnaed yn unol â pharagraff (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.

    (4) Rhaid i'r awdurdod cymwys gyflwyno i'r Cynulliad unrhyw fap sŵn strategol a ddiwygiwyd yn unol â pharagraff (3)(b), ynghyd â data mewnbwn a metadata, a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.

Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol: crynodrefi
    
12. —(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2007—

    (2) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2012, a phob pum mlynedd wedi hynny—

    (3) O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—

unrhyw fap sŵn strategol a wnaed yn unol â pharagraffau (1) neu (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.

    (4) Rhaid i'r awdurdod cymwys gyflwyno i'r Cynulliad unrhyw fap sŵn strategol a ddiwygiwyd yn unol â pharagraff (3)(b), ynghyd â data mewnbwn a metadata, a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.

    (5) Yn y rheoliad hwn—

yn unrhyw le o fewn y grynodref;

yn unrhyw le o fewn y grynodref cylch cyntaf.



RHAN 3

ARDALOEDD TAWEL

Nodi ardaloedd tawel
    
13. —(1) Heb fod yn hwyrach na—

rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau, ardaloedd tawel mewn crynodrefi.

    (2) Mae paragraff (3) yn gymwys os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw'r rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir yn unol â'r rheoliad hwn yn briodol mwyach.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn unrhyw flwyddyn berthnasol, ac os yw o'r farn bod angen hynny, nodi ardaloedd tawel mewn crynodrefi.

    (4) Ym mharagraff (3) ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw 2017 a phob pumed flwyddyn ar ôl hynny.



RHAN 4

CYNLLUNIAU GWEITHREDU



PENNOD 1

CYFFREDINOL

Dyletswydd i gyhoeddi meini prawf neu werthoedd terfyn
    
14. Rhaid i'r Cynulliad, a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2007 gyhoeddi canllawiau sy'n gosod gwerthoedd terfyn neu feini prawf eraill ar gyfer nodi blaenoriaethau i gynlluniau gweithredu.

Cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol
    
15. —(1) Rhaid i unrhyw gynllun gweithredu a gaiff ei lunio neu ei ddiwygio o dan y Rhan hon—

    (2) Mae paragraff (3) yn gymwys i—

a gaiff ei lunio o dan y Rhan hon ar gyfer crynodref.

    (3) Rhaid i gynllun gweithredu ac unrhyw ddiwygiad o gynllun gweithredu gael ei seilio ar yr ardaloedd mwyaf pwysig a sefydlwyd gan y canlynol a bod yn gymwys yn benodol i'r ardaloedd hynny—

    (4) Yn y rheoliad hwn ystyr "map sŵn cyfunol" ("consolidated noise map") yw un map sŵn strategol sy'n gyfuniad o bob map sŵn strategol—



PENNOD 2

CYNLLUNIAU GWEITHREDU – FFYNONELLAU Sŵn AC EITHRIO PRIF FEYSYDD AWYR

Awdurdod Cymwys
    
16. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad.

Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu
    
17. —(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 18 Gorffennaf 2008, lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—

    (2) Rhaid i'r awdurdod cymwys a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2013 lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—

    (3) Mae paragraff (4) yn gymwys—

    (4) Rhaid i'r awdurdod cymwys—

y cynllun gweithredu.



PENNOD 3

CYNLLUNIAU GWEITHREDU – PRIF FEYSYDD AWYR

Awdurdod Cymwys
    
18. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw gweithredydd y maes awyr.

Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu
    
19. —(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2008—

    (2) Dim ond os nad oedd hi'n ofynnol i'r awdurdod cymwys lunio cynllun gweithredu ar gyfer y prif faes awyr yn unol â pharagraff (1) oherwydd nad ef oedd yr awdurdod cymwys ar 30 Ebrill 2008 neu cyn hynny y mae paragraff (3) yn gymwys.

    (3) Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2013—

    (4) Mae paragraff (5) yn gymwys—

    (5) Rhaid i'r awdurdod cymwys—

y cynllun gweithredu.

    (6) Rhaid cyflwyno i'r Cynulliad gynllun gweithredu wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (5)(b) a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.



PENNOD 4

CYNLLUNIAU GWEITHREDU – CYFRANOGIAD CYHOEDDUS

Cyfranogiad cyhoeddus
    
20. —(1) Rhaid i awdurdodau cymwys, wrth baratoi a diwygio cynlluniau gweithredu o dan reoliadau 16 ac 18 sicrhau—



PENNOD 5

RHOI CYNLLUNIAU GWEITHREDU AR WAITH

Rhoi cynlluniau gweithredu ar waith
    
21. —(1) Os bydd cynllun gweithredu neu ddiwygiad o gynllun gweithredu—

rhaid i'r awdurdod cyhoeddus hwnnw drin y cynllun gweithredu fel pe bai'n bolisi iddo i'r graddau y mae'n ymwneud â'r weithred honno.

    (2) Caiff awdurdod cyhoeddus wyro oddi wrth unrhyw bolisi a grybwyllir ym mharagraff (1)—

o roi rhesymau ysgrifenedig am wyro oddi wrth y polisi hwnnw; a

    (3) Yn y rheoliad hwn mae "awdurdod cyhoeddus" ("public authority") yn cynnwys unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, ond nid yw'n cynnwys—



RHAN 5

CYDWEITHIO AG AWDURDODAU CYMWYS ALLANOL

Cydweithio ag awdurdodau cymwys allanol
    
22. —(1) Pan fydd angen hynny er mwyn iddo fodloni ei rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod cymwys wneud pob ymdrech resymol i sicrhau cydweithrediad awdurdod cymwys allanol.

    (2) Rhaid i awdurdod cymwys—

gydweithredu â'r awdurdod cymwys allanol hwnnw.

    (3) Yn y Rhan hon ystyr "awdurdod cymwys allanol" ("external competent authority") yw awdurdod cymwys yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, neu yn Lloegr a ddynodwyd at ddibenion Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb.



RHAN 6

MABWYSIADU MAPIAU Sŵn STRATEGOL A CHYNLLUNIAU GWEITHREDU

Mabwysiadu mapiau sŵn strategol
    
23. —(1) Os yw'r Cynulliad o'r farn bod map sŵn strategol—

yn bodloni gofynion rheoliad (4), rhaid iddo fabwysiadu'r map.

    (2) Os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw map sŵn strategol a gyflwynir iddo yn unol â rheoliad 11 neu 12 neu baragraff (4) yn bodloni'r gofynion yn rheoliad 4 caiff—

    (3) Os gwrthodir map sŵn strategol yn unol â pharagraff (2)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—

    (4) Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (3) gyflwyno'r map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

    (5) Mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i fap sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio fel y maent yn gymwys i fap sŵn strategol a gyflwynir yn unol â rheoliad 11 neu 12.

    (6) Os yw'r Cynulliad yn gwneud newidiadau i—

rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y map yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 4.

Mabwysiadu cynlluniau gweithredu
    
24. —(1) Os yw'r Cynulliad o'r farn bod cynllun gweithredu—

yn bodloni gofynion rheoliad 15, caiff fabwysiadu'r cynllun gweithredu.

    (2) Mae paragraff (3) yn gymwys—

    (3) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys rhaid i'r Cynulliad—

    (4) Os gwrthodir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (3)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—

    (5) Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (4) gyflwyno'r cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

    (6) Mae paragraffau (1) i (5) yn gymwys i gynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio fel y maent yn gymwys i gynllun gweithredu a gyflwynir yn unol â rheoliad 19(1)(b), 19(3)(b) neu 19(6).

    (7) Os yw'r Cynulliad yn gwneud newidiadau i—

rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y cynllun gweithredu'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn.



RHAN 7

PWERAU'R CYNULLIAD MEWN PERTHYNAS Â SWYDDOGAETHAU AWDURDODAU CYMWYS ERAILL

Cymhwyso
    
25. Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn os y Cynulliad yw'r awdurdod cymwys ar eu cyfer.

Pwerau
    
26. —(1) Caiff y Cynulliad ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cymwys ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

    (2) O ran cais am wybodaeth yn unol â pharagraff (1)—

    (3) Os bydd cais yn dod i law awdurdod yn unol â pharagraff (1) rhaid iddo ymateb—

    (4) Mae paragraff (5) yn gymwys—

    (5) Caiff y Cynulliad arfer y cyfryw swyddogaethau hynny o blith swyddogaethau'r awdurdod cymwys ag y mae o'r farn eu bod yn briodol.

Adennill treuliau
    
27. —(1) Os bydd y Cynulliad yn tynnu treuliau yn unol â—

caiff adennill y treuliau hynny oddi wrth yr awdurdod cymwys perthnasol ar ffurf dyled sifil.

    (2) Yn y rheoliad hwn ystyr "awdurdod cymwys perthnasol" ("relevant competent authority")—



RHAN 8

GWYBODAETH I'R CYHOEDD

Awdurdod Cymwys
    
28. Yr awdurdod cymwys o ran y Rhan hon yw'r Cynulliad.

Argaeledd mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu
    
29. —(1) Rhaid i unrhyw—

gynnwys, a hynny mewn lle amlwg, eiriau yn nodi mai drafft ydyw hyd oni chaiff ei fabwysiadu gan y Cynulliad.

    (2) Rhaid i unrhyw—

gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod cymwys yn unol â gofynion paragraff (3).

    (3) O ran map sŵn strategol neu gynllun gweithredu a gyhoeddir yn unol â pharagraff (2)—



RHAN 9

CANLLAWIAU

    
30. Rhaid i awdurdod cymwys, wrth arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad o dan y rheoliad hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Hydref 2006



ATODLEN 1
rheoliadau 4 a 9


Y LLEIAF O'R GOFYNION AR GYFER MAPIO Sŵn STRATEGOL


Dehongli
     1. Yn yr Atodlen hon—

er mwyn arddangos yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.5, 1.6, 1.7, 2.5, 2.6 a 2.7 o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb.

Gofynion cyffredinol ar gyfer mapiau sŵn strategol
     2. —(1) Rhaid i fapiau sŵn strategol a'u diwygiadau—

    (2) Wrth gymhwyso paragraff 1(a) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb at—

Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i grynodrefi
     3. —(1) Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—

    (2) Rhaid i fapiau sŵn strategol—

Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i brif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr
     4. —(1) Dim ond i'r canlynol y mae'r paragraff hwn yn gymwys—

    (2) Rhaid i fapiau sŵn strategol—



ATODLEN 2
rheoliad 4


DULLIAU ASESU AR GYFER DANGOSYDDION Sŵn


Rhagarweiniad
     1. —(1) Rhaid canfod gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol drwy gyfrifiannu (yn y safle asesu).

    (2) Yn yr Atodlen hon—

Dull asesu ar gyfer dangosyddion sŵn traffig ffyrdd
     2. Ar gyfer dangosyddion traffig ffyrdd rhaid defnyddio'r dull asesu "Calculation of road traffic noise" (Yr Adran Drafnidiaeth, 7 Mehefin 1988, Y Llyfrfa)[11] wedi'i addasu gan ddefnyddio'r adroddiad "Method for converting the UK road traffic noise index LA10,18h to the EU noise indeces for road noise mapping" (DEFRA, 24 Ionawr 2006)[12].

Dull asesu ar gyfer dangosyddion swn rheilffyrdd
     3. Ar gyfer dangosyddion sŵn rheilffyrdd rhaid defnyddio'r dull asesu "Calculation of railway noise" (Yr Adran Drafnidiaeth, 13 Gorffennaf 1995, Y Llyfrfa)[13] wedi'i addasu fel a welir yn Ffigur 6.5 yn yr adroddiad "Rail and wheel roughness – implications for noise mapping based on the Calculation of Railway Noise procedure" (DEFRA, Mawrth 2004)[14].

Dulliau asesu ar gyfer dangosyddion sŵn awyrennau
     4. Ar gyfer sŵn awyrennau rhaid defnyddio'r dull asesu "Report on Standard Method of Computing Noise Contours around Civil Airports" (Ailargraffiad, Y Gynhadledd Ewropeaidd ar Hedfan Sifil, 2-3 Gorffennaf 1997)[15] a hynny'n unol â pharagraff 2.4 o'r Atodiad i'r Argymhelliad.

Dulliau asesu ar gyfer dangosyddion sŵn diwydiannol a dangosyddion sŵn porthladdoedd
     5. —(1) Ar gyfer dangosyddion sŵn diwydiannol a dangosyddion sŵn porthladdoedd rhaid defnyddio'r dull lledaenu o asesu a ddisgrifir yn "ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation" (International Standards Organisation, 1996) a hynny'n unol â pharagraff 2.5 o'r Atodiad i'r Argymhelliad.

    (2) Gellir cael data gollyngiadau sŵn addas (data mewnbwn) ar gyfer "ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation" naill ai o fesuriadau a wneir yn unol ag un o'r dulliau canlynol:

neu drwy ddefnyddio Arweinlyfr 10 o "Good Practice Guide for Strategic Noise Mapping and the Production of Associated Data on Noise Exposure Version 2, Position Paper Final Draft" (Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw i Sŵn, 13 Ionawr 2006).



ATODLEN 3
rheoliad 4


DANGOSYDDION Sŵn ATODOL


Dehongli
     1. Yn yr Atodlen hon—

Swn Traffig Ffyrdd
     2. Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn traffig ffyrdd yw

Sŵn Rheilffyrdd
     3. Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn rheilffyrdd yw—

Sŵn Awyrennau
     4. Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn awyrennau yw—

Sŵn Diwydiannol a Sŵn Porthladdoedd
     5. Y dangosyddion sŵn atodol mewn perthynas â sŵn diwydiannol a sŵn porthladdoedd yw—



ATODLEN 4
rheoliad 15


Y LLEIAF O OFYNION Y CYNLLUNIAU GWEITHREDU


Cyffredinol
     1. —(1) Rhaid i gynllun gweithredu—

    (2) Wrth gymhwyso paragraff (1) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb at—



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy'n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol (O.J. Rhif L189, 18.07.2002, t.12) (y 'Gyfarwyddeb').

Mae asesiad llawn o'r effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ar gael (gweler y tabl isod).

Ac eithrio rheoliad 22(2), dim ond i ffynonellau sŵn yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

Mapiau sŵn strategol
Gwneir y mapiau sŵn strategol mewn dau gylch, y cyntaf yn 2007 a'r ail yn 2012. Yn yr ail gylch, bydd yn rhaid mapio nifer fwy o'r un math o ffynonellau sŵn nag a wneir yn y cylch cyntaf. Ar ôl hynny, bydd yn rhaid gwneud mapiau sŵn strategol bob pum mlynedd.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) nodi'r ffynonellau sŵn y mae'n rhaid gwneud mapiau sŵn strategol ar eu cyfer. Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad wneud mapiau sŵn strategol ar gyfer crynodrefi, prif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr a ddynodir o dan adran 80 at ddibenion adran 78 o Ddeddf Hedfan Sifil 1982 (1982 p.16). O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd, rhaid i'r Cynulliad adolygu mapiau sŵn strategol (a'u diwygio, os bydd angen).

Mae rheoliadau 11 a 12 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr meysydd awyr wneud mapiau sŵn strategol ar gyfer meysydd awyr nad ydynt yn ddynodedig o dan Ddeddf Hedfan Sifil 1982. Bydd angen gwneud mapiau sŵn strategol ar gyfer: (i) pob prif faes awyr nad yw'n ddynodedig; a (ii) sŵn mewn crynodrefi sy'n deillio o unrhyw feysydd awyr nad ydynt yn brif feysydd awyr (os yw sŵn awyrennau yn arwain at werth 55 Lden neu 50 Lnight yn unrhyw le yn y crynodrefi hynny). Bydd angen adolygu mapiau sŵn strategol (a'u diwygio, os bydd angen) o bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd. Ar ôl i fapiau sŵn strategol gael eu gwneud, rhaid i weithredwyr y maes awyr eu cyflwyno (neu gyflwyno diwygiadau ohonynt) i'r Cynulliad i'w mabwysiadu.

Rhaid i bob map sŵn strategol fodloni'r gofynion a osodir yn rheoliad 4.

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 3 yn pennu pa ddangosyddion sŵn a pha ddangosyddion sŵn atodol y mae'n rhaid eu defnyddio wrth wneud mapiau sŵn strategol. Mae Atodlen 2 yn gosod y dulliau asesu sydd i'w defnyddio i gyfrifiannu gwerthoedd dangosyddion sŵn. Pennir dulliau gwahanol ar gyfer pob ffynhonnell sŵn.

Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad nodi mannau tawel mewn crynodrefi.

Cynlluniau gweithredu
Rhaid llunio cynlluniau gweithredu mewn dau gylch (y cyntaf yn 2008 a'r ail yn 2013) yn sgil y ddau gylch o fapiau sŵn strategol y seilir y cynlluniau gweithredu arnynt.

Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gyhoeddi canllawiau ar sut y dylid nodi'r blaenoriaethau yn y cynlluniau gweithredu.

Mae rheoliad 15 yn gosod y gofynion ar gyfer cynlluniau gweithredu.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer lleoedd ger prif ffyrdd a phrif reilffyrdd, ac ar gyfer crynodrefi. Rhaid i'r Cynulliad adolygu (a diwygio, os oes angen) y cynlluniau gweithredu bob pum mlynedd neu'n gynharach os bydd prif ddatblygiad yn digwydd.

Mae rheoliad 19 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr meysydd awyr lunio cynlluniau gweithredu mewn perthynas â phrif feysydd awyr. Rhaid i'r gweithredwr maes awyr adolygu'r cynlluniau gweithredu (a'u diwygio, os bydd angen) bob pum mlynedd neu'n gynharach os bydd prif ddatblygiad yn digwydd. Ar ôl i gynllun gweithredu gael ei lunio neu'i ddiwygio, rhaid i'r gweithredwyr meysydd awyr gyflwyno cynllun gweithredu i'r Cynulliad i'w fabwysiadu.

Mae rheoliad 20 yn pennu'r cyfranogiad cyhoeddus sy'n ofynnol yn ystod cyfnod llunio a diwygio'r cynlluniau gweithredu.

Mae rheoliad 21 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus drin cynlluniau gweithredu fel pe baent yn bolisi i'r graddau y mae'r cynllun gweithredu yn nodi mai hwy sy'n gyfrifol am weithred benodol. Caiff awdurdodau cyhoeddus wyro oddi wrth y polisïau hyn o dan amgylchiadau penodedig.

Darpariaethau eraill
Mae rheoliad 22 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys yng Nghymru gydweithio â'u cymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon, yn yr Alban ac yn Lloegr pan fydd angen gwneud hynny er mwyn bodloni rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn neu o dan y Gyfarwyddeb.

Mae rheoliadau 23 a 24 yn gosod y mecanwaith y mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio i fabwysiadu mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu yn y drefn honno.

Mae rheoliad 26 yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys roi gwybodaeth mewn perthynas â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau neu i gamu i mewn a chyflawni swyddogaethau awdurdodau cymwys o dan amgylchiadau penodedig.

Mae Rheoliad 27 yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i adennill treuliau penodol oddi wrth awdurdodau cymwys.

Mae Rheoliad 29 yn gosod gofynion ar gyfer cyhoeddi mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu.

Mae Rheoliad 30 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad.


Tabl Argaeledd dogfennau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau
Dogfen Lle y gellir cael y ddogfen Lle y gellir edrych ar y ddogfen
Safon Brydeinig BS EN 61672-2: 2003, (ISBN 0- 580-42224-0) Y Sefydliad Safonau Prydeinig (www.standards direct.org/standards /standards2 /Standards Catalogue 24_view _17041.html) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor 25 Mehefin 2002 sy'n ymwneud ag asesu a rheoli swn amgylcheddol (O.J. Rhif L 189, 18.07.2002, t. 12) http://europa.eu. int/eur-lex/ pri/en/oj/dat/2002/1 _189/1_189200207 18en00120025.pdf Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"SPIRE Data Standard, Version 1.0" (DEFRA 25 Tachwedd 2004 Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig [XXXX (http://www.defra. gov.uk/environment/ noise/ambient.htm)] Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Argymhelliad y Comisiwn 2003/613/EC dyddiedig 6 Awst 2003 ynghylch y canllawiau ar y dulliau cyfrifiannu interim diwygiedig ar gyfer sŵn diwydiannol, sŵn awyrennau, sŵn traffig ffyrdd a sŵn rheilffyrdd, a data cysylltiedig ynghylch gollyngiadau (O.J. Rhif L212, 22.8.2003, t. 49.) http://europa.eu. int/eur-lex/pri/en/oj /dat/2003/l_212/l_ 21220030822en00 490064.pdf Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Calculation of road traffic noise" (Yr Adran Drafnidiaeth, 7 Mehefin 1988, HMSO) (ISBN 0115508473 Y Llyfrfa (http://www. tsoshop.co.uk) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Method for converting the UK road traffic noise index LA10,18h to the EU noise indicesfor road noise mapping" (DEFRA, 24 Ionawr 2006 Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Calculation of railway noise" (Yr Adran Drafnidiaeth 13 Gorffennaf 1995, HMSO) (ISBN 0115517545) Y Llyfrfa (http://www. tsoshop.co.uk) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Calculation of railway noise 1995 Supplement No. 1 Procedure for the calculation of noise from Eurostar trains class 373" (Yr Adran Drafnidiaeth, 20 Hydref 1996, Y Llyfrfa) (ISBN 0115518738) Y Llyfrfa (http://www. tsoshop.co.uk Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Rail and wheel roughness – implications for noise mapping based on the Calculation of Railway Noise procedure" (DEFRA Mawrth 2004) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (http://www.defra. gov.uk/environment /noise/mapping/rail /index.htm) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Report on Standard Method of Computing Noise Contours around Civil Airports" (Ailargraffiad, Cynhadledd Hedfan Sifil Ewrop 2-3 Gorffennaf 1997) Cynhadledd Hedfan Sifil Ewrop (http://www.ecac- ceac.org/index.php? content=docstype& idtype=38) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"ISO 9613-2:1996 Acoustics – Attenuation of sound during propagation outdoors – Part 2: General method of calculation" (Y Sefydliad Safonau Rhyngwladol, 1996) Y Sefydliad Rhyngwladol er Safoni (http://www.iso.ch) Prif swyddfa'r Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Acoustics. Determination of sound power levels of multisource industrial plants for evaluation of sound pressure levels in the environment. Engineering method" (BS ISO 8297: 1994, Y Sefydliad Safonau Prydeinig) Y Sefydliad Safonau Prydeinig (http://www.standards direct.org/standards/ standards3/Standards Catalogue24_view_ 23347.html) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Engineering method in an essentially free field over a reflecting plane" (BS EN ISO 3744:1995, Y Sefydliad Safonau Prydeinig) Y Sefydliad Safonau Prydeinig (http://www.standards direct.org/standards/ standards2/Standards Catalogue24_view_ 19606.html) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Survey method using an enveloping measurement surface over a reflecting plane" (BS EN ISO 3746:1996, Y Sefydliad Safonau Prydeinig) Y Sefydliad Safonau Prydeinig (http://www.standar dsdirect.org/standards/ standards2/Standards Catalogue24_view_ 19608.html) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
"Good Practice Guide for Strategic Noise Mapping and the Production of Associated Data on Noise Exposure Version 2, Position Paper Final Draft" (Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw Sŵn, 13 Ionawr 2006) Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw Sŵn (http://www.defra. gov.uk/environment/ noise/mapping /exposure/pdf/ exposuredata- guide.pdf) Prif swyddfa Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig


Notes:

[1] O.S. 2004/706.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.J. Rhif L189, 18.07.2002, t. 12.back

[4] ISBN 0-580-42224-0.back

[5] 1984 p.27; diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 28 ac Atodlen 9, a chan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), Atodlen 7, paragraff 3 ac Atodlen 8.back

[6] 1980 p.66. Mae Atodlen 4 wedi'i diwygio gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p.54), Atodlen 3, paragraff 21(3).back

[7] 1982 p.16.back

[8] Rhaglen SPIRE, Cyfeirnod y Cynnyrch: SIP – DP – 011.back

[9] 1998 p.38.back

[10] O.J. Rhif L212, 22.8.2003, t. 49.back

[11] ISBN 0115508473.back

[12] Paratowyd gan TRL Limited a Casella Stanger, Cyfeirnod y Ddogfen st/05/91/AGG04442.back

[13] ISBN 0115517545.back

[14] Paratowyd gan AEA Technology plc, Cyfeirnod y Ddogfen: AEATR-PC&E-2003-002.back

[15] Mabwysiadwyd gan Unfed Cyfarfod Llawn ar Hugain ECAC, Cyfeirnod y Ddogfen: ECAC.CEAC Doc. 29.back



English version



ISBN 0 11 091400 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 13 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062629w.html