BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 2645 (Cy.226)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062645w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2645 (Cy.226)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 3 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 9 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160A(3) a 172(4) o Ddeddf Tai 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 9 Hydref 2006.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn—

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r dosbarthau o berson a ragnodir o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys
     2. —(1) Diwygir Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003[4] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 4 (Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys)—

Darpariaethau trosiannol
     3. Nid oes gan y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn effaith mewn perthynas â cheisydd a wnaeth gais cyn 9 Hydref 2006 am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dyrannu llety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996").

Mae rheoliad 2 yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 sy'n rhagnodi'r dosbarthau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod dosbarth newydd o bersonau sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai ac sy'n bersonau o dan ofal dyngarol. Math ar ganiatâd a roddir i bersonau nad ydynt yn gymwys i fod â statws ffoadur ond a fyddai'n wynebu gwir risg o ddioddef niwed difrifol pe baent yn cael eu dychwelyd i'r wladwriaeth y maent yn hanu ohoni (gweler paragraffau 339C-344C o'r Rheolau Mewnfudo (HC 395)) yw gofal dyngarol.

Nid yw'r diwygiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn yn effeithio ar geisiadau am ddyraniad o lety tai a wnaed cyn 9 Hydref 2006.


Notes:

[1] 1996 p. 52.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1971 p.77.back

[4] O.S. 2003/239 (Cy. 36).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091404 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062645w.html