BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006 Rhif 2646 (Cy.227)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062646w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2646 (Cy.227)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 3 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 9 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 185(2) a (3) o Ddeddf Tai 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 9 Hydref 2006.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) At ddibenion y diffiniad o "ceisydd lloches", penderfynir hawliad lloches ar ddiwedd y cyfnod sy'n dechrau—

a hwnnw'n gyfnod a ragnodir o dan adran 94(3) o Ddeddf Ymfudo a Lloches 1999[6].

    (3) At ddibenion rheoliadau 3(1)(i) (Dosbarth I)—

Dosbarthiadau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i gael cymorth tai
     3. —(1) Mae'r canlynol yn ddosbarthiadau o bersonau a ragnodwyd at ddibenion adran 185(2) o Ddeddf 1996 (personau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i gael cymorth tai)-

    (2) Ym mharagraff (1)(f)(i) (Dosbarth H), mae hawliad lloches perthnasol yn hawliad lloches—

    (3) Ym mharagraff (1)(ff)(i) (Dosbarth I), ystyr "rheolau mewnfudo perthnasol" ("relevant immigration rules") yw'r rheolau mewnfudo ynghylch—

    (4) Ym mharagraff (1)(ff) (Dosbarth I), mae i "moddion byw" yr un ystyr â "means of subsistence" yn rheoliad 4 o Reoliadau Personau wedi'u Dadleoli (Amddiffyn Dros Dro) 2005[15].

Disgrifiad o bersonau sydd i'w trin fel personau o dramor sy'n anghymwys i gael cymorth tai.
     4. —(1) Mae'r canlynol yn ddisgrifiadau o bersonau, ac eithrio personau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sydd i'w trin at ddibenion Rhan VII o Ddeddf 1996 (digartrefedd) fel personau o dramor sy'n anghymwys i gael cymorth tai—

    (2) Ni fydd y personau canlynol, serch hynny, yn cael eu trin fel personau o dramor sy'n anghymwys yn unol â pharagraff (1)(a)—

    (3) Ni fydd person yn cael ei drin fel un sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon at ddibenion paragraff (1)(a) os nad oes ganddo hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon.

Darpariaethau trosiannol
     5. Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn effeithiol o ran ceisydd yr oedd ei gais am gymorth tai o dan Ran VII o Ddeddf 1996 wedi'i wneud cyn 9 Hydref 2006.

Dirymu
    
6. Dirymir drwy hyn Reoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000[19].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[20]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Nid yw person sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys i gael cymorth tai o dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996 (digartrefedd) oni bai bod y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a ragnodwyd o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 185(2)). Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth ynghylch disgrifiadau eraill o bersonau sydd i'w trin at ddibenion Rhan VII fel personau o dramor sy'n anghymwys i gael cymorth tai (adran 185(3)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod dosbarth newydd o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy'n gymwys i gael cymorth tai ac sy'n cael amddiffyniad dyngarol. Mae amddiffyniad dyngarol yn ffurf ar ganiatâd a roddir i bersonau nad ydynt yn gymwys i gael statws ffoaduriaid ond a fyddai'n wynebu risg gwirioneddol o ddioddef niwed difrifol os caent eu hanfon yn ôl i'r wladwriaeth y maent yn tarddu ohoni (gweler paragraffau 339C-344C o'r Rheolau Mewnfudo (HC395)).

Ni fydd y Rheoliadau hyn yn effeithio ar geisiadau am gymorth tai a wneir cyn 9 Hydref 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000.


Notes:

[1] 1996 p.52.back

[2] Gorch. 9171.back

[3] Gorch. 3906.back

[4] 1971 p.77.back

[5] 1995 p.18.back

[6] 1999 p.33. Gweler adran 167 o'r Ddeddf honno i gael y diffiniad o "prescribed" at ddibenion y Ddeddf honno.back

[7] 1992 p.4. Diwygiwyd adran 124 gan baragraff 30 o Atodlen 2, a chan Atodlen 3, i Ddeddf 1995.back

[8] Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 67 o Atodlen 1 i'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (p.18) a pharagraff 141 o Atodlen 7 i Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p.14).back

[9] Gorch. 9512.back

[10] Gorch. 2643.back

[11] 1985 p.68. Nid yw diddymiad Rhan III, a ddechreuwyd gan Ddeddf Tai 1996 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) 1996 (O.S. 1996/2959 (p.88)), yn rhinwedd paragraff 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw, yn gymwys i geiswyr o dan Ran III o'r Ddeddf honno yr oedd eu ceisiadau wedi'u gwneud cyn 20 Ionawr 1997.back

[12] O.S. 1987/1971; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1994/470 a 1994/1807.back

[13] O.S. 2005/1379.back

[14] Diwygiwyd adran 22 gan O.S. 1987/465; mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Diddymwyd adran 22 o Ddeddf 1971 gan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 p.33. 2 Hydref 2000 oedd y dyddiad dod i rym at ddibenion penodol yn unig (OS 2000/2444).back

[15] OS 2005 Rhif 1379.back

[16] O.S. 2006 Rhif 1003.back

[17] O.S. 2004 Rhif 1219.back

[18] O.S. 2006 Rhif 1003.back

[19] O.S. 2000 Rhif 1079 (Cy.72).back

[20] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091405 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062646w.html