"(c) "Commission Regulation" means Commission Regulation (EC) No 885/2006[4] laying down detailed rules for the application of the Council Regulation in relation to the accreditation of paying agencies";
"(e) "the Council Regulation" means Council Regulation (EC) No 1290/2005[5] on the financing of the common agricultural policy, as last amended by Council Regulation (EC) No 320/2006[6];";
"(g) "paying agency" has the meaning it has in Article 6 of the Council Regulation;".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Dyddiad
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaeth Dalu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 1999 (“Rheoliadau 1999).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac o ran daliadau amaethyddol trawsffiniol y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") yn gyfrifol amdanynt fel asiantaeth dalu.
Mae Rheoliadau 1999 yn galluogi'r Cynulliad, os cafodd ei achredu'n briodol at y diben, i weithredu fel asiantaeth dalu yn y Deyrnas Unedig o ran cyllido'r polisi amaethyddol cyffredin.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru'r cyfeiriadau a wneir at ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn Rheoliadau 1999.
Notes:
[1]
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2005 (O.S. 2005/2766) ("y Gorchymyn"). Mae Erthygl 4 ac Atodlen 3 i'r Gorchymyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau, o ran Polisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, sy'n rhychwantu daliadau sy'n cynnwys tir a leolir o fewn y Deyrnas Unedig ond y tu allan i Gymru.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 1999/2223.back
[4]
OJ Rhif L171, 23.6.2006, t. 90.back
[5]
OJ Rhif L209, 11.8.2005, t.1.back
[6]
OJ Rhif L 58, 28.2.2006, t.42.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091403 1
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
18 October 2006
|