BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006 Rhif 2699 (Cy.231) (C.92)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062699w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2699 (Cy.231) (C.92)

COMISIYNYDD POBL HŶN, CYMRU

Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006

  Wedi'i wneud 10 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 23 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Diwrnod Penodedig
    
2. 14 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig i adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006[
3]) ("y Ddeddf") ac mae'n gymwys i Gymru.

Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 14 Hydref 2006 adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf.

Daeth darpariaethau'r Ddeddf a oedd yn weddill i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol.


Notes:

[1] 2006 p.30.back

[2] 1998 p.38.back

[3] 2006 p.30.back



English version



ISBN 0 11 091402 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 18 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062699w.html