BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 2800 (Cy.239)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062800w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2800 (Cy.239)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 17 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 20 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) ac 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 20 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant a wneir i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar 20 Hydref 2006 neu ar ôl hynny[
3].

Diwygiadau
     2. Diwygir Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996[4] yn unol â'r rheoliadau a ganlyn.

Rheoliad 2
     3. Yn rheoliad 2 (ffurflenni cais am grant)[5], ym mharagraff (1) ar ôl "Schedule" rhodder "or a form to the like effect".

Yr Atodlen
     4. Mae'r ffurflen a welir yn yr Atodlen yn cael ei diwygio yn y modd a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Hydref 2006



YR ATODLEN
Rheoliad 4

     1. Yn y testun sy'n rhagflaenu Rhan 1, yn lle'r geiriau "qualifying park home" ym mhob man lle digwyddant, rhodder "caravan".

     2. Yng nghwestiwn 1.7, yn lle'r geiriau "a qualifying park home" rhodder "a caravan".

     3. Yn y tabl sy'n dilyn cwestiwn 2.1, yn lle'r geiriau "Disabled adaptations to a qualifying houseboat or qualifying park home " rhodder "Disabled adaptations to a qualifying houseboat or caravan".

     4. Yn y tabl cyntaf sy'n dilyn cwestiwn 2.2, yn lle'r geiriau "Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or qualifying park home" rhodder "Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or caravan".

     5. Yn lle Nodyn 5B, rhodder—

     6. Yn nodyn 10, yn lle brawddeg olaf yr ail baragraff, rhodder—

     7. Yn nodiadau 19, 36A a 36B, yn lle'r geiriau "qualifying park home" ym mhob man lle digwyddant, rhodder "caravan".

     8. Yn nodyn 49, yn lle'r frawddeg gyntaf, rhodder—

     9. Yn nodyn 90E, hepgorer y geiriau "married or unmarried" ym mhob man lle digwyddant, ac ym mharagraff (b) yn lle "them" rhodder "the couple".



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891) ("y prif Reoliadau"), sy'n gosod y ffurflen ragnodedig ar gyfer ceisiadau am grant o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("y Ddeddf"). Mae'r cwestiynau a'r nodiadau sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen ragnodedig yn adlewyrchu'r rheolau prawf moddion ar gyfer ceisiadau am grant sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890), fel y'i diwygiwyd.

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys drwy reoliad 1 i geisiadau am grant sy'n cael eu gwneud i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar y dyddiad pan ddeuant i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae'r diwygiad a wneir gan reoliad 3 yn caniatáu i awdurdodau o'r fath ddefnyddio ffurflenni a ddyluniwyd ganddynt eu hunain sy'n cael yr un effaith (ac felly, oherwydd rheoliad 3 o'r prif reoliadau, sy'n cynnwys yr un manylion) â'r ffurflen ragnodedig a geir yn yr Atodlen i'r prif Reoliadau.

Drwy reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, diwygir yr Atodlen honno (a) er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r Ddeddf gan adran 224 o Ddeddf Tai 2004, gan osod yn lle cyfeiriadau at "qualifying park home" yn y prif Reoliadau, gyfeiriadau at "caravan"; a (b) er mwyn gwneud newidiadau o ganlyniad i greu'r berthynas gyfreithiol newydd o bartneriaeth sifil drwy'r Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004.


Notes:

[1] 1996 p.53.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer y Ddeddf hon yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.back

[3] I gael ystyr "grant" gweler adran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 2 o Atodlen 3 i Orchymyn Diwygio Rheolaethol (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/1860).back

[4] O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, O.S. 1997/978, O.S. 1998/809, O.S. 1999/1607, O.S. 1999/3470 (Cy. 56), O.S. 2000/1735 (Cy. 119), O.S. 2001/2071 (Cy. 143), O.S. 2001/4006 (Cy. 332), O.S. 2002/2799 (Cy. 267) ac O.S. 2004/254 (Cy. 29).back

[5] Amnewidiwyd Rheoliad 2, o ran Cymru, gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/254).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091411 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 26 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062800w.html