BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 2802 (Cy.241)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062802w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2802 (Cy.241)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 17 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 25 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), ar ôl iddo ymghynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd, y cyrff neu'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach yn eu trefn y mae o'r farn eu bod yn briodol a'r cyrff a'r personau eraill hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ("y Ddeddf")[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2 o'r Ddeddf ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Hydref 2006.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000
    
2. —(1) Diwygier Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000[3] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 32 (tramgwyddau)[4]—

    (3) Diwygier Rhan 1 o Atodlen 1 (Gweithgareddau, Gosodiadau a Chyfarpar Symudol) fel a ganlyn—

    (4) Diwygier Atodlen 3 (Dyddiad Rhagnodedig a Threfniadau Trosiannol) fel a ganlyn—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Hydref 2006



YR ATODLEN
Rheoliad 2(4)(b)


RHAN 5 NEWYDD YN ATODLEN 3 I REOLIADAU ATAL A RHEOLI LLYGREDD (CYMRU A LLOEGR) 2000






NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) ("y Rheoliadau PPC") o ran Cymru.

Mae rheoliad 2(2) yn cynyddu mwyafswm y gosb y caiff llys Ynadon ei gosod o dan reoliad 32(2)(a) o'r Rheoliadau PPC o ran tramgwyddau a gyflawnir ar ôl dwyn i rym adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (sy'n rhoi terfynau ar bŵer llys Ynadon i garcharu).

Mae Rheoliad 2(3)(a) yn diwygio rhan B o adran 1.2 (Gweithgareddau Nwyeiddio, Hylifo a Phuro) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC drwy ychwanegu gweithgareddau ail-lenwi tanwydd i gerbydau at y rhestr o weithgareddau sy'n ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd o dan y Rheoliadau PPC. Mae hyn yn bodloni rhwymedigaeth y DU sy'n codi o Brotocol Genefa Pwyllgor Economaidd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ewrop i Gonfensiwn 1979 ar Lygredd Aer Trawsffiniol Pellgyrhaeddol Ynghylch Rheoli Allyriadau Cyfansoddion Organig Anweddol neu eu Dylifiadau Trawsffiniol. Daeth y Protocol hwn i rym ar 29 Medi 1997 ar ôl iddo gael ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 1991. Gellir gweld y Protocol ar wefan UNECE yn
www.unece.org.

Mae rheoliad 2(3)(b) yn diwygio Adran 5.1 (Hylosgi a Chydhylosgi Gwastraff) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC drwy egluro nad yw hyslosgi o ganlyniad i losgi nwy tirlenwol yn ddarostyngedig i ganiatâd o dan y Rheoliadau PPC.

Mae rheoliad 2(3)(c) yn cywiro gwall drafftio yn Rhan B o adran 7 (Gweithgareddau SED) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio Atodlen 3 (Dyddiad Rhagnodedig a Threfniadau Trosiannol) i'r Rheoliadau PPC i esemptio gweithredwyr penodol o beiriannau sychlanhau sy'n derbyn arian sy'n dewis peidio â gwneud cais am ganiatâd cyn 31 Hydref 2006 o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Toddyddion 1999/13/EC i gael caniatâd ar y sail bod y gweithredwyr yn cytuno i roi'r gorau i gyflawni gweithrediadau sy'n dod o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb honno yn y gosodiad cyn 31 Hydref 2007.


Notes:

[1] 1999 p.24. Diwygiwyd paragraff 25 o Ran II o Atodlen 1 gan adran 105 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16). Nid yw deddfwriaeth ddiwygio arall yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (O.S. 2005/1958), erthygl 3.back

[3] O.S. 2000/1973; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2004/107 ac O.S. 2004/3276. Nid yw deddfwriaeth ddiwygio arall yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[4] Ni fydd y cosbau uwch hyn yn gymwys ond o ran tramgwyddau a gyflawnir ar ôl dwyn i rym adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44). Gweler adran 105(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd.back

[5] 1990 p.8, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091408 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 26 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062802w.html