BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006 Rhif 2803 (Cy.242)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062803w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2803 (Cy.242)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 18 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 13 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2].

     Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 13 Tachwedd 2006.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Trwyddedau a hysbysiadau
     3. —(1) Rhaid i drwyddedau a hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu mewn ysgrifen ar unrhyw bryd.

    (2) Caiff trwyddedau o dan y Rheoliadau hyn fod yn gyffredinol neu'n benodol ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae'r person sy'n rhoi'r trwyddedau yn credu eu bod yn angenrheidiol.

Trwyddedau a roddir yn Lloegr neu yn yr Alban
    
4. Mae trwyddedau a roddwyd yn Lloegr neu'r Alban ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol yng Nghymru fel petaent wedi'u rhoi o dan y Rheoliadau hyn, ond caiff arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded o'r fath, yn ei gyfarwyddo i'w symud i fangre a bennir yn yr hysbysiad a'i gadw yno neu ei symud y tu allan i Gymru.

Dangos trwyddedau
    
5. —(1) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

    (2) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

Gwahardd crynoadau adar
    
6. —(1) Ni chaiff neb drefnu unrhyw ffair, marchnad, sioe, arddangosfa neu grynhoad arall sy'n golygu casglu at ei gilydd ddofednod neu adar caeth eraill oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei drwyddedu i wneud hynny.

    (2) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw ddofednod neu aderyn caeth arall i grynhoad o'r fath os yw'n gwybod neu'n amau nad yw'r crynhoad wedi'i drwyddedu felly.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi trwydded o dan baragraff (1) oni bai—

Nodi mangreoedd dofednod
    
7. —(1) Rhaid i berson sydd, ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yn geidwad 50 neu fwy o ddofednod ar unrhyw fangre unigol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol mewn ysgrifen o'r canlynol mewn perthynas â phob mangre o'r fath—

    (2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei wneud o fewn 1 mis i'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

    (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson a hysbysodd y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6(2) o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2005[
8] neu reoliad 6(2) o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Rhif 2) 2005[9] (a elwir gyda'i gilydd "yr hen Reoliadau").

    (4) Rhaid i berson sy'n dod yn geidwad 50 neu fwy o ddofednod ar unrhyw fangre unigol ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol mewn ysgrifen o fewn 1 mis iddo ddod yn geidwad o'r fath o'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1).

    (5) Rhaid i berson sydd wedi rhoi hysbysiad o dan yr hen Reoliadau neu o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol mewn ysgrifen o fewn 1 mis i'r canlynol—

    (6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i unrhyw berson sydd wedi hysbysu o dan yr hen Reoliadau neu o dan y rheoliad hwn, ei hysbysu—

    (7) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo hysbysu o dan baragraff (6) wneud hynny o fewn 1 mis iddo gael hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (8) Yn y rheoliad hwn, ystyr "amrywiadau rheoli arferol" yw—

Cyfyngu ar frechu adar sw
     8. —(1) Ni chaiff neb frechu unrhyw aderyn sw onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu wedi'i drwyddedu i'w wneud.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r canlynol—

Brechu adar sw
     9. —(1) Os yw'r amod ym mharagraff (2) wedi'i fodloni, caiff y Cynulliad Cenedlaethol—

    (2) Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal asesiad risg ac yn credu bod risg y byddai ffliw adar yn cael ei drosglwyddo i adar sw neu i gategorïau o'r adar hynny.

    (3) Fel rhan o'i asesiad risg, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bwyso a mesur a yw sw—

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu, mewn hysbysiad neu drwydded o dan y rheoliad hwn—

    (5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y brechu'n cael ei wneud yn unol â'r cynllun brechu ataliol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn 2006/474/EC ynghylch mesurau i atal ffliw adar pathogenig iawn a achosir gan firws ffliw A o'r is-deip H5N1 rhag ymledu i adar a gedwir mewn swau a mangreoedd cyrff, sefydliadau a chanolfannau a gymeradwywyd yn yr Aelod-wladwriaethau ac yn diddymu Penderfyniad 2005/744/EC[13].

Estyn y pwer i beri brechu
     10. Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai brechu o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud drwy arfer y pŵer i frechu yn adran 16(1) o'r Ddeddf—

Cyfyngiadau ynglŷn ag adar sw
     11. —(1) Ni chaiff neb symud unrhyw aderyn sw a frechwyd onid yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

    (2) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd drwyddedu symudiad adar sw a frechwyd i'r mannau canlynol yn unig—

    (3) Rhaid i arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd beidio â thrwyddedu symudiad i Aelod-wladwriaeth arall nac i drydedd wlad oni fydd ei awdurdod cymwys wedi awdurdodi'r symudiad.

    (4) Rhaid i arolygydd oruchwylio unrhyw symudiad a drwyddedir o dan baragraff (2) tra bo'r aderyn yng Nghymru.

    (5) Ni chaiff neb ollwng unrhyw aderyn sw a frechwyd i'r gwyllt onid yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol.

    (6) Ni chaiff neb gyflenwi na gwerthu, ar gyfer ei fwyta gan bobl, gynnyrch o aderyn sw a frechwyd.

    (7) Yn y rheoliad hwn, ystyr "awdurdod cymwys" —

Gwyliadwriaethu mewn sŵau
     12. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod unrhyw wyliadwriaethu am ffliw adar y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol i gyfyngu ar ledaeniad ffliw adar yn cael ei wneud mewn unrhyw sw lle mae adar wedi'u brechu o dan y Rheoliadau hyn.

Methu â brechu adar
    
13. Rhaid i unrhyw berson sy'n gwybod neu sy'n amau bod unrhyw aderyn heb ei frechu yn unol â gofynion y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ar unwaith y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle mae'r aderyn hwnnw.

Dyletswyddau cyffredinol ynglŷn â gweithredu'r Rheoliadau hyn
    
14. —(1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn wneud hynny'n ddi-oed, onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio â'i wneud.

    (2) Ni chaiff neb ddifwyno, difodi na dileu unrhyw farc a ddodwyd gan arolygydd o dan reoliad 18(1).

    (3) Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

    (4) Rhaid i'r costau a dynnir gan unrhyw berson wrth gymryd y camau sy'n ofynnol, neu drwy beidio â chymryd camau a waherddir, o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan y person hwnnw oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen.

Dangos cofnodion
    
15. —(1) Rhaid i berson, y mae person sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddangos cofnod, wneud hynny'n ddi-oed.

    (2) Ar ôl dangos y cofnod, caiff y person sy'n cyflawni'r swyddogaeth—

Newid ym meddiannaeth mangre o dan gyfyngiad
    
16. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw ceidwad unrhyw ddofednyn neu aderyn caeth arall yn gallu ei symud o fangre adeg terfynu ei hawl i'w meddiannu oherwydd cyfyngiad ar symud a osodir o dan y Rheoliadau hyn ac mae'n parhau i fod yn gymwys am saith niwrnod ar ôl i unrhyw gyfyngiad o'r fath gael ei godi.

    (2) Rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre ar ôl y terfyniad hwnnw—

    (3) Os nad yw'r ceidwad yn gallu, neu os yw'n anfodlon bwydo neu dendio'r dofednyn neu'r aderyn caeth arall, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannau'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednyn neu'r aderyn hwnnw'n cael ei fwydo a'i dendio'n iawn.

    (4) Mae ceidwad y dofednyn neu'r aderyn caeth arall yn atebol i dalu'r costau rhesymol a dynnir o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n ei fwydo neu'n ei dendio, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer ei fwydo, ei dendio neu ei ddefnyddio fel arall.

Datgymhwyso darpariaethau i berson sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn
    
17. Ni fydd darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy'n gwahardd symud neu ddefnyddio unrhyw beth neu'n cyfyngu ar ei symud neu ei ddefnyddio yn gymwys i'r canlynol wrth iddynt gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn—

Pwerau arolygwyr
    
18. —(1) Caiff arolygydd sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn—

    (2) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, pan fyddant yn cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn—

    (3) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg
     19. —(1) Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y byddai'r gofyniad yn cael ei fodloni, a'u cymryd ar draul y person hwnnw.

    (2) Mae pwerau arolygydd o dan baragraff (1) yn cynnwys pwerau—

Tramgwyddau
    
20. —(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

    (2) Mae adran 69 o'r Ddeddf (sicrhau trwyddedau drwy dwyll) yn gymwys fel pe bai trwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn wedi'u rhoi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.

    (3) Mae adran 75 o'r Ddeddf[21] (cosbau am dramgwyddau ynadol penodol) yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio bod rhaid i unrhyw gyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod beidio â bod yn hwy na thri mis.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
     21. —(1) Os dangosir bod tramgwydd a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

    (3) ystyr "swyddog", mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Gorfodi
    
22. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achos penodol, y byddai'n gorfodi'r Rheoliadau hyn yn lle'r awdurdod lleol.

Dirymiadau ac arbedion
    
23. —(1) Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Rhif 2) 2005[22] wedi'u dirymu.

    (2) Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal mewn Sŵau) (Cymru) (Rhif 2) 2005[23] wedi'u dirymu.

    (3) Mae'r drwydded gyffredinol ar gyfer crynoadau adar a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5 o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Rhif 2) 2005 yn parhau mewn grym fel petai wedi'i rhoi o dan reoliad 6(1) o'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[24]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn—

     2. Mae Rheoliadau 1 i 5 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol ynglŷn â diffiniadau, trwyddedau a hysbysiadau.

    
3. Mae rheoliad 6 yn gwahardd unrhyw berson rhag trefnu crynhoad didrwydded o ddofednod neu adar caeth eraill. Mae hefyd yn gwahardd unrhyw berson rhag dod ag adar o'r fath i grynhoad adar y mae'n gwybod neu'n amau ei fod yn un didrwydded.

    
4. Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i geidwad 50 o ddofednod neu ragor ar unrhyw fangre unigol hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") o wybodaeth benodedig ynglŷn â'r dofednod hynny. Mae'r gofyniad hwn bellach yn gymwys i bob mangre, ac nid i fangreoedd masnachol yn unig fel yr oedd o dan y Prif Reoliadau. Mae rheoliad 7 hefyd yn gosod rhwymedigaeth newydd i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o newidiadau penodedig i'r wybodaeth hon.

    
5. Mae rheoliadau 8 i 13 yn ymwneud â brechu adar sw. Mae rheoliad 8 yn cynnwys gwaharddiad cyffredinol ar frechu adar sw heb awdurdod. Mae rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol frechu adar sw, i'w gwneud yn ofynnol iddynt gael eu brechu neu i drwyddedu eu brechu. Mae rheoliad 11 yn nodi cyfyngiadau ar symud adar sw sydd wedi'u brechu.

    
6. Mae rheoliadau 14 i 16 yn rhoi rhwymedigaethau cyffredinol ar y rhai a rwymir gan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliadau 17 i 19 yn ymwneud â phwerau'r rhai sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliadau 20 i 22 yn ymwneud â thramgwyddau a gorfodi. Mae rheoliad 23 yn dirymu'r Prif Reoliadau a'r Rheoliadau Sŵau ond yn darparu bod y drwydded gyffredinol ar gyfer crynoadau adar a ddyroddir o dan y Prif Reoliadau yn parhau i fod yn effeithiol.

    
7. Nid oes arfarniad rheoliadol o'r effaith a fydd gan y Rheoliadau hyn wedi'i lunio oherwydd yr angen i weithredu'r mesurau y cyfeiriwyd atynt yn 1(c) ac (ch) mor gyflym â phosibl.


Notes:

[1] 1972, p.68.back

[2] O.S. 2005/2766.back

[3] O.S. 1978/32, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/583 (Cy.49) ac O.S. 2006/1762 (Cy.184). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[4] Diffinnir Gorchymyn Clefydau Dofednod yn O.S. 1978/32 fel Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1079 (Cy.148) a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Tarddu o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1762 (Cy.184)).back

[5] 1981, p. 22; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, (p. 42), O.S. 1992/3293 ac O.S. 2003/1734. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[6] OJ Rhif L 268, 14.9.1992, t. 54.back

[7] OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 321; gweler y testun sydd wedi'i gywiro fel y'i nodir yn y corigendwm i'r Gyfarwyddeb a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t.128.back

[8] O.S. 2005/2985 (Cy.219).back

[9] O.S. 2005/3384 (Cy.268).back

[10] O.S. 2006/1762 (Cy.184).back

[11] O.S. 1998/463, y mae diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[12] O.S. 2005/2745.back

[13] OJ Rhif L187, 8.7.2006, t. 37. Mae copïau o' gynllun brechu ataliol y D.U. ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Yr Is-adran Atal a Rheoli Clefydau Ecsotig, 1A, Page Street, Llundain SW1P 4PQ ac yn http://www.defra.gov.uk/animalh/diseases/notifiable/pdf/euuk-zooplan.pdf.back

[14] Diwygiwyd adran 16 o Ddeddf 1981 gan adran 7 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p. 42).back

[15] Mewnosodwyd adran 16A o Ddeddf 1981 gan adran 5 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002. Fe'i hestynnwyd i fod yn gymwys i ffliw adar gan O.S. 2003/1734.back

[16] Mewnosodwyd adran 62A o Ddeddf 1981 gan adran 8 of Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002.back

[17] OJ Rhif L10, 14.1.2006, t. 16.back

[18] Mewnosodwyd adran 64A o Ddeddf 1981 gan Reoliadau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3293), rheoliad 2.back

[19] Mewnosodwyd adran 66A o Ddeddf 1981 gan adran 8(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42).back

[20] Mewnosodwyd adran 71A o Ddeddf 1981 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 14.back

[21] Mewnosodwyd adran 75 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p. 42), adran 13.back

[22] OS 2005/3384 (Cy.268).back

[23] OS 2005/3385 (Cy.269).back

[24] 1998, p.38.back



English version



ISBN 0 11 091416 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 30 October 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062803w.html