BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Esemptiadau Penodedig) (Cymru) 2006 Rhif 2824 (Cy.247)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062824w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2824 (Cy.247)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Esemptiadau Penodedig) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 25 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 26 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 79(4) o Ddeddf Tai 2004[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Esemptiadau Penodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai[
2] yng Nghymru.

Tenantiaethau esempt neu drwyddedau esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004
     2. —(1) Mae tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd sydd wedi'i chynnwys mewn tŷ yn denantiaeth esempt neu'n drwydded esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") os yw'n dod o dan unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol —

    (2) At ddibenion yr erthygl hon —



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r disgrifiadau o denantiaethau a thrwyddedau tai, neu o denantiaethau a thrwyddedau anheddau sydd wedi'u cynnwys mewn tai, a'r rheini'n denantiaethau esempt neu'n drwyddedau esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf"). Effaith yr esemptiad yw nad yw Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys i dai yng Nghymru sy'n ddarostyngedig i denantiaeth neu drwydded a ddisgrifir yn erthygl 2 ac nad ydynt felly yn ddarostyngedig i'r gofynion trwyddedu a ddisgrifir yn adran 85 o'r Ddeddf.

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith a fydd gan y Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth yr Uned Sector Preifat, yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920 825111; e-bost:
[email protected]


Notes:

[1] 2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 79(4) o'r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r "appropriate national authority" yn adran 261(1).back

[2] Am ystyr "house" gweler adran 99 o'r Ddeddf.back

[3] 1988 p. 50.back

[4] Mae paragraff 5 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 wedi'i ddiwygio gan adran 198(1) o Ddeddf Trwyddedu 2003 a pharagraff 108 o Atodlen 6 iddi (p. 17).back

[5] Mae paragraff 7 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 wedi'i ddiwygio gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 a pharagraff 34 o Atodlen 6 iddi (p. 8).back

[6] 1996 p. 16.back

[7] 2004 p. 21.back

[8] 1990 p. 19.back

[9] Gweler adran 254(5) o'r Ddeddf.back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091423 6


 © Crown copyright 2006

Prepared 1 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062824w.html