BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006 Rhif 2825 (Cy.248)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062825w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2825 (Cy.248)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 25 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 26 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 80(7) o Ddeddf Tai 2004[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai ac anheddau[
2] y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt o ran Cymru.

Dehongli
     2. Yn y Gorchymyn hwn—

Amodau Ychwanegol
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion adran 80(2)(b) o'r Ddeddf mae naill ai'r amod cyntaf neu'r ail amod yn gymwys—

    (2) Rhaid i awdurdod tai lleol fod yn fodlon bod y naill neu'r llall o'r amodau a osodir o dan is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) wedi'u bodloni cyn dynodi ardal ei ddosbarth neu ardal yn ei ddosbarth yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 80 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") (Dynodi ardaloedd trwyddedu dethol) yn caniatáu i awdurdod tai lleol ddynodi naill ai ardal ei ddosbarth neu ardal yn ei ddosbarth yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol os bodlonir gofynion is-adrannau (2) a (9).

Mae adran 80, is-adran (7) o'r Ddeddf yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu, ar gyfer unrhyw amodau a bennir mewn gorchymyn, eu bod yn gymwys fel set ychwanegol o amodau at ddibenion is-adran (2). Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i'r awdurdod ystyried bod y set gyntaf o amodau cyffredinol neu'r ail set o amodau cyffredinol a grybwyllir yn is-adran (3) neu (6), neu unrhyw amodau a bennir mewn gorchymyn o dan is-adran (7) fel set ychwanegol o amodau yn cael eu bodloni o ran yr ardal.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gosod yr amodau ychwanegol y mae'n rhaid eu bodloni cyn i awdurdod tai lleol ddynodi ardal ei ddosbarth neu ardal yn ei ddosbarth yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol.

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith a fydd gan y Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth yr Uned Sector Preifat, yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111); e-bost:
[email protected]).


Notes:

[1] 2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 80(7) o'r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1).back

[2] Am ystyr "house" a "dwelling", gweler adran 99 o'r Ddeddf.back

[3] 1989 p.42.back

[4] Gweler O.S. 2002/1860.back

[5] Nid yw "landlord sector cyhoeddus" yn cynnwys "landlord cymdeithasol cofrestredig" o fewn ystyr "registered social landlord" yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996 (p.52).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091422 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 1 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062825w.html