BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth Ar Gyfer Cymorth I Fyfyrwyr I Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006 Rhif 2828 (Cy.250)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062828w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2828 (Cy.250)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth Ar Gyfer Cymorth I Fyfyrwyr I Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 24 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 27 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 45 a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth ar Gyfer Cymorth i Fyfyrwyr i Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 27 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongliad
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Cyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, caiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5 i gorff llywodraethu at y dibenion a ragnodir ym mharagraff (2).

    (2) Y dibenion a ragnodir yw'r dibenion o gynorthwyo'r corff llywodraethu—

Gwybodaeth ragnodedig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr i'w chyflenwi gyda chydsyniad yn unig
    
4. —(1) Ni chaiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5(a) neu (c) heb gydsyniad yr ymgeisydd.

    (2) Ni chaiff awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 5(b) heb gydsyniad noddwr yr ymgeisydd.

Gwybodaeth ragnodedig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr
    
5. Mae gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn wybodaeth o'r disgrifiad a ragnodir os—



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Adran 45 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth i awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr pan fo'n wybodaeth o ddisgrifiad rhagnodedig sy'n cael ei rhoi i berson rhagnodedig at ddiben rhagnodedig.

At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr "awdurdod cymorth i fyfyrwyr" yw: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol neu gorff llywodraethu y trosglwyddwyd swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr iddo o dan adran 23(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pherson y cafodd swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr eu dirprwyo iddo o dan adran 23(4) o'r Ddeddf honno.

Mae'r rheoliadau hyn yn galluogi awdurdod cymorth i fyfyrwyr i gyflenwi gwybodaeth a ddarperir mewn cysylltiad â chais am gymorth i fyfyrwyr naill ai gan y myfyriwr dan sylw neu gan ei noddwyr i gyrff llywodraethu sefydliadau sy'n darparu cyrsiau sy'n gyrsiau wedi eu dynodi at ddibenion y cynllun cymorth i fyfyrwyr. Mae'r Rheoliadau hefyd yn galluogi awdurdodau cymorth i fyfyrwyr i gyflenwi i gyrff llywodraethu wybodaeth sy'n deillio o'r cais, megis a yw'r myfyriwr yn gymwys yn ystyr y cynllun cymorth i fyfyrwyr neu swm y cymorth i fyfyrwyr sy'n daladwy i'r myfyriwr o dan y cynllun hwnnw.

Dim ond at y diben o gynorthwyo cyrff llywodraethu i benderfynu a yw myfyriwr sydd wedi gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr yn gymwys am fwrsari (neu gymorth cyllidol arall) sy'n cael ei gynnig gan y sefydliad perthnasol, ac i benderfynu swm y bwrsari sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw, ac hefyd, os yw'n berthnasol, er mwyn gwneud y taliad angenrheidiol i'r myfyriwr hwnnw, y ceir cyflenwi'r wybodaeth honno.

Ni cheir cyflenwi unrhyw wybodaeth o dan y Rheoliadau hyn heb, yn achos gwybodaeth a roddir gan yr ymgeisydd neu wybodaeth sy'n deillio o'r cais, gydsyniad yr ymgeisydd neu, yn achos gwybodaeth a roddir gan y noddwr, gydsyniad y noddwr.


Notes:

[1] 2004 p. 8.back

[2] 1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) ac Atodlen 11 iddi, Atodlen 6 i Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p.14), ac adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (p.79)).back

[3] Diffinnir "Student support scheme" yn adran 45(8) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091418 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 1 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062828w.html