BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 2926 (Cy.261)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062926w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2926 (Cy.261)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'i wneud 7 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 8(1) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] ac a freiniwyd ynddo bellach, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2007.

Diwygio Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006
    
2. —(1) Diwygir Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006[2]fel a ganlyn.

    (2) Yn erthygl 8 (Adnabod anifeiliaid a symudir i Aelod-wladwriaeth arall o'r daliad geni neu o'r daliad mewnforio), yn lle paragraff (2) rhodder—

    (3) Yn erthygl 13 (Rhoi dull newydd o adnabod gyda chod gwahanol yn lle'r hen un)—

    (4) Yn erthygl 23 (Tynnu tagiau clust neu roi rhai newydd yn eu lle), ym mharagraff (3), (4) a (5)—

    (5) Yn erthygl 24 (Tynnu tagiau clust a thatŵs o dan Orchmynion blaenorol neu roi rhai newydd yn eu lle)—

    (6) Yn erthygl 25 (Rhoi tagiau clust newydd yn lle rhai a gollwyd mewn marchnadoedd), ym mharagraff (2), ar ôl "cyn gynted ag y bo modd" mewnosoder", ond dim mwy na 28 niwrnod ar ôl i'r tag clust neu'r tatŵgael ei dynnu, neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu'n annarllenadwy".

    (7) Yn Rhan 9 (Amrywiol), cyn erthygl 35 (Gorfodi), mewnosoder—

Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006
    
3. —(1) Diwygir Atodlen 1 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006 fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 6, yn lle is-baragraff (3) rhodder—

    (3) Ym mharagraff 16 (symud i Aelod-wladwriaeth arall drwy ganolfan gynnull)—

    (4) Ym mharagraff 17 (symud i Aelod-wladwriaeth arall drwy ganolfan gynnull)—

Cymryd lle Atodlen 3 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006
    
4. Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sy'n cymryd lle Atodlen 3 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006, yn effeithiol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006



ATODLEN
Erthygl 4

Yn lle Atodlen 3 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005, rhodder:





NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006 ("y prif Orchymyn").

Mae Erthyglau 2(2) a 3 yn diwygio darpariaethau'r prif Orchymyn ar adnabod anifeiliaid a gaiff eu symud i Aelod-wladwriaeth arall o'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn symud ymaith y posibilrwydd o nodi anifail o'r fath gyda "tag X" (fel y'i diffinnir yn Erthygl 2(1) o'r prif Orchymyn). Mae Erthygl 3(3) yn diwygio Erthygl 16 o Atodlen 1 i'r prif Orchymyn gan beri, yn achos anifail a gaiff ei symud o ddaliad i ganolfan gynnull ar gyfer ei gludo i Aelod-wladwriaeth arall, bod rhaid gosod ail dag clust arno cyn i'r anifail adael y daliad.

Mae paragraffau (3) i (6) o Erthygl 2 yn diwygio darpariaethau'r prif Orchymyn ar osod tagiau neu ddulliau eraill o adnabod yn lle rhai a gafodd eu tynnu, a gollwyd neu a aeth yn annarllenadwy. Effaith y diwygiadau yw bod rhaid gosod modd adnabod yn lle un a gollwyd cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl i'r un gwreiddiol gael ei golli, neu ar ôl canfod y golled neu'r annarllenadwyedd, ond ym mhob achos cyn i'r anifail adael y daliad.

Mae Erthygl 2(7) yn mewnosod darpariaethau gorfodi newydd yn y prif Orchymyn. Mae Erthygl 34A yn rhoi amrediad o bwerau i arolygwyr, ac mae Erthygl 34B yn rhoi pŵer iddynt wahardd symud anifeiliaid ar ddaliad, i ddaliad ac oddi yno, drwy hysbysiad a gyflwynir i geidwad, os ydynt wedi'u bodloni bod gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi'r prif Orchymyn yn briodol. Ceir Erthyglau 34C, 34Ch a 34D newydd yn ymwneud â rhoi cymorth rhesymol i berson sy'n gweithredu o dan y prif Orchymyn, â darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, ac â thramgwyddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol.

Mae Erthygl 3 a'r Atodlen yn cymryd lle Atodlen 3 i'r prif Orchymyn, sy'n rhagnodi'r ffurflen ar gyfer cofnodi symudiadau anifeiliaid. Mae'r ffurflen newydd yn cynnwys blwch i gofnodi'r cyfnod y disgwylir i'r daith ei chymryd. Mae hyn yn ofynnol gan Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (O.J. L3, 5.01.2005, t.1) ar warchod anifeiliaid yn ystod eu cludo a gwaith cysylltiedig.

Cafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the appropriate Minister" ac i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i'r "Secretary of State", ac eithrio'r swyddogaethau hynny a gynhwysir yn Atodlen 1 o Ddeddf 1981, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044).back

[2] O.S. 2006/1036 (Cy. 106).back

[3] 1998 p.38.back



ISBN 0 11 091427 9


 © Crown copyright 2006

Prepared 17 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062926w.html