BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006 Rhif 2932 (Cy.265)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062932w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2932 (Cy.265)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006

  Wedi'u gwneud 7 Tachwedd2006 
  Yn dod i rym 14 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2].

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2006.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy'n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddiffinnir yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb.

Cwmpas y Rheoliadau
     3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i adar a gedwir mewn sw yn ystyr Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Ataliol) (Cymru) 2006[5].

Datganiadau, hysbysiadau a thrwyddedau
     4. —(1) O ran datganiadau parth brechu o dan y Rheoliadau hyn —

    (2) Rhaid i hysbysiadau a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir eu diwygio neu eu dirymu, drwy hysbysiad pellach, ar unrhyw adeg.

    (3) O ran hysbysiadau brechu a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn—

    (4) O ran trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

ac yn achos trwyddedau brechu, rhaid iddynt hefyd bennu'r materion a nodir ym mharagraff (3)(a) a (b).

    (5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod hyd a lled unrhyw barth brechu a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn, natur y cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys ynddo a dyddiadau ei ddatgan a'i dynnu yn ôl yn cael eu cyhoeddi.

    (6) Mae trwyddedau symud a roddir yn yr Alban neu'n Lloegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau symud a roddid o dan y Rheoliadau hyn, ond caiff arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod y cyfryw drwydded, gan ei gyfarwyddo i'w symud i'r fangre a bennir yn yr hysbysiad a'i gadw yno neu ei symud y tu allan i Gymru.

    (7) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud benodol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—

    (8) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud gyffredinol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—

Gwahardd brechu
    
5. —(1) Ni chaiff neb frechu unrhyw aderyn yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu wedi'i drwyddedu ganddo.

    (2) Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys i'r canlynol—

Brechu brys
     6. —(1) Pan fodlonir yr amod ym mharagraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg o ledu ffliw adar—

    (2) Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud asesiad risg sy'n dangos bod bygythiad arwyddocaol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru oherwydd—

    (3) Pan fo parth brechu brys yn cael ei ddatgan, neu pan gyflwynir hysbysiad brechu brys ar ôl i gynllun brechu brys gael ei ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd a'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 53 a 54 o'r Gyfarwyddeb, rhaid datgan neu gyflwyno'r hysbysiad yn unol â darpariaethau'r cynllun hwnnw.

    (4) Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu brys yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Brechu ataliol
    
7. —(1) Pan fodlonir yr amodau ym mharagraff (2) —

    (2) Dyma'r amodau—

    (3) Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ataliol yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.

Pwer i wneud brechu'n ofynnol
    
8. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ddatganiad parth brechu neu hysbysiad brechu, ei gwneud yn ofynnol bod dofednod neu adar caeth eraill yn y parth hwnnw neu yn y fangre honno sy'n destun yr hysbysiad hwnnw gael eu brechu.

    (2) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r brechu yn cael ei wneud drwy arfer pwer yn adran 16(1) o'r Ddeddf—

Mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu i fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu
     9. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn datganiad parth brechu neu mewn hysbysiad brechu, neu drwydded brechu, bennu pwy sydd i wneud y gwaith brechu.

    (2) Mewn datganiad parth brechu, hysbysiad brechu neu drwydded brechu, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol ag unrhyw gynllun brechu a gymeradwywyd, osod unrhyw fesurau o fewn y parth brechu, neu'r fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu, sy'n angenrheidiol er mwyn —

a chaiff osod unrhyw gyfyngiadau ac amodau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar.

    (3) Ym mharagraff (2), ystyr "cynnyrch" dofednod neu adar caeth eraill yw unrhyw garcas, ŵy neu unrhyw beth arall sy'n tarddu neu sydd wedi'i wneud (naill ai'n llwyr neu'n rhannol) o ddofednod neu adar caeth eraill neu o garcasau'r cyfryw adar.

    (4) Mae paragraffau (1) i (3) yn gymwys er gwaethaf unrhyw ofyniad neu gyfyngiad arall sy'n gymwys mewn unrhyw ran o barth neu fangre oherwydd bod rhan o'r parth neu'r fangre yn dod o fewn parth arall a ddatganwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu sy'n destun hysbysiad arall a gyflwynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu arolygydd, at ddibenion lleihau'r risg o ledu ffliw adar neu at unrhyw ddiben arall.

    (5) Rhaid i unrhyw berson sy'n symud dofednod neu adar caeth eraill o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 10 gadw cofnod o ddyddiad y symudiad a Rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir.

    (6) Bernir bod lladd-dai, canolfannau pacio a deorfeydd a ddynodwyd o dan y Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006[
11] wedi'u dynodi at ddiben cael dofednod neu wyau (yn ôl y digwydd) a symudir o dan drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn.

Brechu brys heb gynllun wedi'i gymeradwyo
     10. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan parth brechu brys neu'n cyflwyno hysbysiad brechu brys cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.

    (2) Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod, unrhyw adar caeth eraill, eu carcasau neu unrhyw wyau dofednod neu adar caeth eraill —

    (3) Ni fydd paragraff (2) yn gymwys i'r canlynol —

    (4) Rhaid i feddiannydd mangre y mae cywion diwrnod oed, dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i gael eu cigydda) neu unrhyw adar caeth eraill sy'n cael eu symud o dan unrhyw un o baragraffau 5 i 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y cywion diwrnod oed, dofednod neu adar caeth eraill yn cael eu rhoi mewn rhan o'r fangre lle nad oes dofednod eraill.

    (5) Rhaid i feddiannydd y fangre y mae dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth eraill yn cael eu symud iddi o dan baragraff 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y dofednod hynny neu'r adar caeth hynny yn cael eu brechu yn ddi-oed os yw brechu'n ofynnol yn y fangre honno gan ddatganiad neu hysbysiad brechu brys o dan reoliad 6(1).

    (6) Rhaid i feddiannydd lladd-dy y mae dofednod i'w cigydda yn cael eu symud iddo o dan baragraff 11, 12 neu 13 o'r Atodlen, sicrhau bod y dofednod hynny yn cael eu cigydda'n ddi-oed.

    (7) Mae paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran yr un symudiadau—

pan fo'r parth hwnnw wedi'i ddatgan, neu pan fo'r hysbysiad hwnnw wedi'i gyflwyno, cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.

    (8) Nid yw paragraff (7) ond yn gymwys os yw meddiannydd y fangre y mae'r peth yn cael ei symud iddi yn ymwybodol, neu y mae'n rhesymol iddo fod yn ymwybodol, ei fod wedi cael ei symud o'r cyfryw barth neu o'r cyfryw fangre o dan y cyfryw hysbysiad.

Methu â brechu anifeiliaid a bennir i'w brechu
    
11. Rhaid i unrhyw berson a ŵyr neu a dybia nad yw aderyn wedi'i frechu fel y mae'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle y mae'r aderyn hwnnw ar unwaith.

Glanhau a diheintio cerbydau: darparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau
    
12. Pan fo glanhau a diheintio cerbydau yn ofynnol mewn unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i feddiannydd y fangre honno ddarparu cyfleusterau digonol a chyfarpar a deunyddiau priodol ar gyfer y gwaith glanhau a diheintio hwnnw.

Newid meddiannaeth mangreoedd o dan gyfyngiad
    
13. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw ceidwad unrhyw ddofednod neu unrhyw adar caeth eraill yn gallu eu symud oddi ar y fangre pan ddaw ei hawl i feddiannu'r fangre neu odanynt i ben oherwydd cyfyngiad ar symud a osodwyd gan y Rheoliadau hyn ac mae'n parhau i fod yn gymwys am saith niwrnod ar ôl tynnu'r cyfryw gyfyngiad.

    (2) Rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre pan ddaw hawl y ceidwad i'w meddiannu i ben —

    (3) Os nad yw'r ceidwad yn gallu neu os nad yw'n fodlon bwydo neu dendio'r dofednod neu'r adar caeth eraill, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednod neu'r adar hynny yn cael eu bwydo a'u tendio'n iawn.

    (4) Mae ceidwad y dofednod neu adar caeth eraill yn atebol i dalu'r costau rhesymol yr eir iddynt o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n eu bwydo neu'n eu tendio, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer eu bwydo, eu tendio neu eu defnyddio fel arall.

Darparu cymorth neu wybodaeth a chydweithrediad rhesymol
    
14. —(1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cyflanwi swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn wneud hynny'n ddi-oed onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio â gwneud hynny.

    (2) Ni chaiff neb ddifwyno, cuddio neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd ar unrhyw aderyn neu beth gan unrhyw berson sy'n cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth anwir
    
15. Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau hyn.

Cadw a dangos cofnodion
    
16. —(1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gan y Rheoliadau hyn wneud neu gadw cofnod—

    (2) Caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre at ddiben arolygu unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff—

    (3) Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddychwelyd unrhyw gofnodion y mae wedi'u dal dan gadwad ar ôl iddo eu copïo neu ar ôl iddo orffen eu harolygu.

Costau cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn
    
17. Rhaid i'r costau y mae unrhyw berson yn mynd iddynt wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu wrth ymatal rhag cymryd camau sy'n waharddedig gan y Rheoliadau hyn neu odanynt, gael eu talu gan y person hwnnw oni bai i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo fel arall yn ysgrifenedig.

Cydymffurfio â hysbysiadau, datganiadau neu drwyddedau
    
18. Mae unrhyw drwyddedai, person y cyflwynir hysbysiad iddo, neu berson y mae datganiad yn gymwys iddo o dan y Rheoliadau hyn, ac sy'n mynd yn groes i'r gofynion neu'r cyfyngiadau yn y drwydded honno, yn yr hysbysiad hwnnw neu yn y datganiad hwnnw, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd.

Pwerau arolygwyr
    
19. —(1) Caiff arolygydd, pan fydd yn cyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y person sydd â gofal unrhyw gerbyd neu gyfarpar yn ei lanhau a'i ddiheintio.

    (2) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, wrth gyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn—

    (3) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf[12]—

    (4) Mae adran 65A o'r Ddeddf[14] (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—

    (5) Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan reoliad 8 neu baragraff (3)—

    (6) Caiff unrhyw berson sy'n mynd i mewn i fangre o dan baragraff (5)(c) fynd yn ôl ati heb neb yn ei hebrwng i gymryd unrhyw gamau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg
     20. —(1) Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu odanynt, caiff arolygydd gymryd y camau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni ar gost y person hwnnw.

    (2) Mae pwerau arolygydd o dan baragraff (1) yn cynnwys pwerau—

Tramgwyddau ac achosion
    
21. —(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

ac fel petai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn.

    (2) Mae adran 69 o'r Ddeddf (cael trwyddedau etc. drwy dwyll) yn gymwys fel petai trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn wedi'u rhoi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.

    (3) Mae adran 75 o Ddeddf[17](cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod penodol) yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio na chaiff unrhyw gyfnod yn y carchar o ganlyniad i gollfarn ddiannod fod yn hwy na thri mis.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
     22. —(1) Os dangosir bod tramgwydd a wnaed gan gorff corfforaethol—

bydd y swyddog hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

    (3) ystyr "swyddog", mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd y cyfryw swydd.

Gorfodi
    
23. —(1) Rhaid i'r awdurdod lleol orfodi'r Rheoliadau hyn.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y bydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Datgymhwyso darpariaethau i unrhyw berson sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn
    
24. Nid yw darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar symud neu ddefnyddio unrhyw beth yn gymwys i'r canlynol wrth iddynt weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn—

Dirymu Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006
    
25. Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006[18]drwy hyn wedi'u dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[19]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006



YR ATODLEN
Rheoliad 10(3)


Symudiadau a ganiateir




RHAN 1

Wyau deor

     1. —(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ŵy sy'n deor—

    (2) Dyma'r amodau—

    (3) Symudiad unrhyw wy deor o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod ei fod yn cael ei gludo yn uniongyrchol i ddeorfa ddynodedig.



RHAN 2

Wyau heblaw wyau deor

     2. —(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ŵy heblaw wy sy'n deor—

    (2) Yr amodau yw bod yr ŵy yn tarddu o haid ddodwy sydd wedi'i harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi gosod yr haid honno o dan unrhyw gyfyngiadau ac—

     3. Symudiad unrhyw ŵy heblaw ŵy deor o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod bod—



RHAN 3

Cywion diwrnod oed

     4. Symudiad cyw diwrnod oed o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu ar yr amod ei fod yn tarddu o ŵy deor sy'n bodloni'r amodau a nodir ym mharagraff 1(2).

     5. Symudiad unrhyw gyw diwrnod oed o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod —

     6. Symudiad unrhyw gyw diwrnod oed o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu.



RHAN 4

Dofednod neu adar caeth byw eraill

     7. Symudiad unrhyw ddofednod (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth byw eraill o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu ar yr amod —

     8. Symudiad unrhyw ddofednod (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth byw eraill o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu ar yr amod —

     9. Symudiad unrhyw ddofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth eraill o fangre sydd y tu allan barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu yn destun hysbysiad brechu.



RHAN 5

Dofednod wedi'u brechu i'w cigydda

     10. —(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ddofednod wedi'u brechu i'w cigydda—

    (2) Dyma'r amodau—



RHAN 6

Dofednod heb eu brechu i'w cigydda

     11. —(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ddofednod heb eu brechu i'w cigydda—

    (2) Dyma'r amodau—

     12. Symudiad unrhyw ddofednod i'w cigydda o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw yn destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun parth brechu, ar yr amod eu bod yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.



RHAN 7

Symudiad dofednod neu adar caeth byw eraill y tu allan i'r Deyrnas Unedig

     13. Symudiad dofednod neu adar caeth byw eraill o'r Deyrnas Unedig o fangre sydd mewn parth brechu neu sy'n destun hysbysiad brechu ar yr amod bod y symudiad wedi'i awdurdodi gan yr Aelod-wladwriaeth sy'n eu derbyn.



RHAN 8

Dehongli

     14. Yn yr Atodlen hon, mae mangre sydd i'w mynegi fel un "dynodedig" yn fangre y bernir ei bod yn ddynodedig yn unol â rheoliad 9(6).



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi o ran Cymru Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau Cymunedol i reoli ffliw adar a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC (OJ Rhif L10, 14.1.2006, t. 16) i'r graddau y mae'n ymdrin â brechu yn erbyn ffliw adar.

Mae Rheoliad 5 yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar frechu anifeiliaid yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol neu wedi'i drwyddedu gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rheoliadau 6 a 7 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar, ddatgan parthau brechu mewn ardaloedd sy'n cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylent gael eu brechu, neu gyflwyno hysbysiadau brechu i feddianwyr mangreoedd lle y mae'r cyfryw adar yn cael eu cadw. Mae Rheoliad 8 yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i wneud brechu'n ofynnol yn y parthau hyn neu yn y cyfryw fangreoedd. Ni chaniateir cyflawni'r cyfryw fesurau ond pan fônt yn unol â chynllun brechu a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd a phan fo asesiad risg wedi'i wneud a bod hwnnw wedi dangos bod bygythiad arwyddocaol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru, neu fod ardaloedd penodol neu adar penodol yn agored beth bynnag i risg ffliw adar. Bydd y mesurau hyn yn fesurau brys neu'n fesurau atal, gan ddibynnu ar natur y risg. Mae Rheoliad 7 hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol roi trwyddedau i feddianwyr mangreoedd sy'n caniatáu brechu adar, neu gategorïau penodol o adar, yn y mangreoedd hynny. Ni chaniateir cyflawni'r cyfryw fesur ond ar sail ataliol a phan fo asesiad risg yn dangos bod yr adar yn y mangreoedd yn agored i risg ffliw adar.

Mae Rheoliad 9 yn darparu ar gyfer mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu. Mae Rheoliad 10 yn darparu, pan fo gwaith brechu brys yn cael ei wneud cyn bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo'r cynllun brechu cenedlaethol brys, bod gwaharddiad cyffredinol ar symud dofednod, adar caeth eraill a'u hwyau o'r naill fangre mewn parth brechu brys i'r llall mewn parth brechu brys, i mewn i unrhyw barth brechu brys ac allan ohono ac i mewn i unrhyw fangre sy'n destun hysbysiad brechu ac allan ohoni oni bai bod y symudiad yn un o'r symudiadau a ganiateir ac a restrir yn yr Atodlen a bod y symudiad wedi'i drwyddedu.

Mae a wnelo rheoliadau 14 i 24 â phwerau arolygwyr, tramgwyddau a gorfodi'r gyfraith. Mae rheoliad 21 yn cymhwyso darpariaethau sy'n gysylltiedig â thramgwyddau o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22) fel petai'r Rheoliadau wedi'u gwneud o dan y Ddeddf honno. O ganlyniad, tramgwydd yw methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau o dan adran 73 o'r Ddeddf. Mae rheoliad 21(3) yn darparu bod person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored ar gollfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na 3 mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na £5000 neu'r ddau.

Mae rheoliad 25 yn dirymu Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006.

Ni ddarparwyd arfarniad rheoliadol o ran y Rheoliadau hyn. Gellir cael Nodyn Trosi, sy'n nodi sut y trosir prif elfennau brechu Cyfarwyddeb 2005/94/EC yn y Rheoliadau hyn, oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1972 p.68.back

[2] O.S. 2005/2766.back

[3] 1981 p.22, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3293 a Deddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p.42. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[4] OJ Rhif L 10, 14.1.2006, t. 16.back

[5] O.S. 2006/2803 (Cy.242).back

[6] O.S. 1998/463, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[7] O.S. 2005/2745, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[8] Diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (c.42), adran 7.back

[9] Mewnosodwyd adran 16A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 5.back

[10] Mewnosodwyd adran 62A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 8.back

[11] O.S. 2006/2927 (Cy.262).back

[12] Estynnwyd y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf i gynnwys dofednod ac adar caeth eraill, fel y'i diffinnir gan y Rheoliadau hyn, gan O.S. 2006/2927 (W.262).back

[13] Mewnosodwyd adran 64A gan O.S. 1992/3293, rheoliad 2.back

[14] Mewnosodwyd adran 65A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 10.back

[15] Mewnosodwyd adran 66A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 8(2).back

[16] Mewnosodwyd adran 71A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 14.back

[17] Diwygiwyd adran 75 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 13back

[18] O.S. 2006/1761 (Cy.183).back

[19] 1998 p.38.back

[20] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55.back

[21] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1.back



English version



ISBN 0 11 091437 6


 © Crown copyright 2006

Prepared 27 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062932w.html