BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006 Rhif 2979 (Cy.270)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062979w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2979 (Cy.270)

AER GLÂN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 14 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 24 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993
    
2. Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm isel eu hanweddolrwydd a'r tanwyddau a ddisgrifir yn Atodlen 1 yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.

Dirymiadau ac arbedion
    
3. —(1) Mae'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 2 wedi'u dirymu.

    (2) Bydd unrhyw danwydd a weithgynhyrchwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a oedd yn danwydd awdurdodedig adeg ei weithgynhyrchu, yn parhau i fod yn danwydd awdurdodedig er bod y Rheoliadau a restrir yn Atodlen 2 wedi'u dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Tachwedd 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 2


TANWYDDAU AWDURDODEDIG


     1. Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, County Durham—

     2. Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, North East Lincolnshire —

     3. Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire —

     4. Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     5. Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon—

     6. Brics glo Bord na Móna Firepak (sy'n cael eu marchnata hefyd fel brics glo Arigna Special) a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon—

     7. Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

     8. Bryant and May Firelogs a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria—

     9. Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—

     10. Coalite a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, yn ymyl Chesterfield, Derbyshire ac yn Grimethorpe, South Yorkshire drwy ddefnyddio proses carboneiddio tymheredd isel.

     11. Golosg a weithgynhyrchir gan—

     12. Cosycoke (sy'n cael ei farchnata hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus) a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, sydd ym mhob achos—

     13. Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

     14. Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

     15. Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt B.V., Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, Yr Iseldiroedd—

     16. Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon—

     17. Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft mbH yn Hückelhoven, Yr Almaen—

     18. Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc—

     19. Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     20. Homefire Ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     21. Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     22. Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America—

     23. Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—

     24. Long Beach Lump nuts (a elwir fel arall yn LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America—

     25. Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

     26. Brics glo Multiheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     27. Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

     28. Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     29. Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, East Riding of Yorkshire—

     30. Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire—

     31. Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     32. Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H. J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham—

     33. Brics glo Supacite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

     34. Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     35. Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     36. Brics glo Taybrite (a elwir fel arall yn frics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     37. Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

     38. Boncyffion tân ZIP Cracklelog, boncyffion tân ZIP Crackle-log a boncyffion tân ZIP Crackling Log, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

     39. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—

     40. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk B.V., Apolloweg 4, Harbour No: M189A, 4782 SB Moerdijk, Yr Iseldiroedd—



ATODLEN 2
Rheoliad 3(1)


DIRYMIADAU


Y rheoliadau a ddirymwyd:—



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("Deddf 1993") yn darparu, pan fo simnai naill ai—

fod meddiannydd yr adeilad, neu (yn ôl y digwydd) y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau yn euog o dramgwydd os yw'r simnai mewn ardal rheoli mwg ac yn gollwng mwg. Er hynny, mae'n amddiffyniad os gellir profi yr achoswyd y gollyngiad honedig drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig a dim byd arall.

Yng Nghymru, ystyr "tanwydd awdurdodedig" yw tanwydd y datgenir ei fod wedi'i awdurdodi drwy Reoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd ar hyn o bryd wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993. Maent yn cydgrynhoi ac yn disodli Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 (OS 2001/3762 (Cy.311)), Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001 (OS 2001/3996 (Cy.327)) a Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 (OS 2002/3160) (Cy.295)).

Mae'r rhan fwyaf o'r tanwyddau yn y Rheoliadau hyn wedi bod yn danwyddau awdurdodedig o'r blaen. Serch hynny, mae'r disgrifiad o frics glo Ancit, brics glo Phurnacite a brics glo Taybright wedi'i ddiwygio i adlewyrchu newidiadau yn y modd y maent yn cael eu gweithgynhyrchu.

Mae brics glo Briteflame, Duraflame Firelogs, brics glo Multiheat, brics glo Stoveheat Premium, boncyffion tân ZIP Cracklelog, boncyffion tân ZIP Crackle-log, boncyffion tân ZIP Crackling Log, a ZIP Firelogs a weithgynhyrchir gan Allspan B.V. a Woodflame Moerdijk B.V. wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio am y tro cyntaf.

Mae darpariaeth arbed (gweler Rheoliad 3(2)) yn sicrhau y bydd stociau tanwyddau awdurdodedig a weithgynhyrchwyd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym yn parhau i fod yn danwyddau awdurdodedig. Bydd defnyddio'r tanwyddau hyn yn parhau i fod yn amddiffyniad felly yn erbyn unrhyw honiad bod mwg wedi'i ollwng yn anghyfreithlon, hynny yw, yn groes i adran 20 o Ddeddf 1993.


Notes:

[1] 1993 p.11.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091438 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 27 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062979w.html