BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2006 Rhif 2980 (Cy.271)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062980w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2980 (Cy.271)

AER GLÂN, CYMRU

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 14 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 24 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), ac yntau wedi'i fodloni y gall y dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwydd nad tanwydd awdurdodedig mohono a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 24 Tachwedd 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio rhag adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
    
2. Mae'r dosbarthau ar leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sy'n gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Tachwedd 2006



YR ATODLEN
Erthygl 2


DOSBARTHAU AR LEOEDD TÂN SY'N ESEMPT


Dosbarthau ar Leoedd Tân Amodau
Modelau RRK 22 — 49 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 49kW) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria.      1. Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.

Modelau RRK 80 — 175 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 75 — 149 kW) ynghyd â modelau seiclon ZA 80 — 175 a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria.      1. Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.

Model RRK 130 — 250 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 185 — 230 kW) gyda seiclon (model math ZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria.      3. Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

     4. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.

Model RRK 200 — 350 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 250 — 300 kW) gyda seiclon (model math ZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria.      1. Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.

Model RRK 400 — 600 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 350 — 500 kW) gyda seiclon (model math ZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria.      1. Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.

Model RRK 640 — 850 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 650 — 840 kW) gyda seiclon (model math ZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria.      1. Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.

Model RRK 1000 y Binder Wood Fired Boiler (allbwn 1200 kW) gydag amlseiclon (model MZA) a wneir gan Binder Gesellschaft mit beschrankter Haftung (GmbH) o Awstria.      3. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i gadw a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a Wood Energy Limited sy'n dwyn y teitl Binder Equipment Installation, Commissioning and Maintenance dated 17 May 2005 a'r cyfeirnod WELBinderManualrev0.doc, revision 0.

     4. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu a dymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.

Y Dunsley Yorkshire Woodburning Stove and Boiler a wneir gan Dunsley Heat Limited.      1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i gadw a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004 a'r cyfeirnod D13W ynghyd â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Hydref 2004 a'r cyfeirnod GHD/DUN4B/1.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pren sych heb ei drin mohono.

Boileri Math USV sy'n llosgi pelenni a sglodion pren, modelau Rhif USV-15, 25, 30, 40, 50, 60, 80 a 100, a wneir gan KWB — Kraft und Wärme aus Biomasse Gesellschaft mit beschränkter Haftung (GmbH) o Industriestrasse 235, A-8321 St. Margarethen an der Raab, Awstria.      1. Rhaid i'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad Awst 2003 a'r cyfeirnod BA-USV 0803.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni neu sglodion pren mohono fel y disgrifir yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, ond heb gynnwys unrhyw belenni neu sglodion o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu neu ddymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.

Boileri Math USP sy'n llosgi pelenni pren, modelau Rhif USP-10, 15, 20, 25 a 30, a wneir gan KWB — Kraft und Wärme aus Biomasse Gesellschaft mit beschränkter Haftung (GmbH) o Industriestrasse 235, A-8321 St. Margarethen an der Raab, Awstria.      1. Rhaid I'r lleoedd tân gael eu gosod, eu cynnal a'u cadw a'u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 28 Gorffennaf 2003 a'r cyfeirnod BA-USP 0703.

     2. Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad pelenni pren mohono fel y disgrifir yng nghyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, ond heb gynnwys unrhyw belenni o'r fath (yn benodol, rhai sy'n deillio o wastraff adeiladu neu ddymchwel) sy'n cynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i fod wedi'u trin â chadwolion pren neu i fod wedi'u cotio.




NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("Deddf 1993") yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg.

Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn a wnaed o dan adran 21 o Ddeddf 1993, esemptio dosbarthau penodedig ar leoedd tân rhag ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gallant gael eu defnyddio at losgi tanwydd nad tanwydd awdurdodedig mohono a hynny heb greu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn esemptio'r dosbarthau ar leoedd tân a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf 1993, yn ddarostyngedig i'r amodau yn yr ail golofn o'r Atodlen honno.


Notes:

[1] 1993 p.11.back

[2] Trosglwyddwyd pwerau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091439 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062980w.html