BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006 Rhif 2983 (Cy.274)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062983w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2983 (Cy.274)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 14 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 17 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 125B(3) a (4) o Ddeddf Tai 1996[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 17 Tachwedd 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai annedd yng Nghymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at—

Hawl i gael adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar
    
2. —(1) Pan fo tenant yn gwneud cais am hynny, rhaid i adolygiad o dan adran 125B o Ddeddf Tai 1996 o benderfyniad fod ar ffurf gwrandawiad llafar.

    (2) Rhaid gwneud unrhyw gais o'r fath i'r landlord cyn diwedd y cyfnod amser a ganiateir o dan is-adran (1) o'r adran honno (yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais am adolygiad).

Hysbysiad am adolygiad
    
3. Rhaid i'r landlord roi i'r tenant hysbysiad o ddeng niwrnod clir o leiaf am—

Personau sy'n cael cynnal adolygiadau
    
4. —(1) Rhaid i adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd ganddo ran yn y penderfyniad.

    (2) Pan fo'r adolygiad yn adolygiad o benderfyniad a wnaed gan un o swyddogion y landlord a bod yr adolygiad i'w gynnal gan swyddog arall, rhaid i'r swyddog sy'n adolygu'r penderfyniad fod mewn swydd uwch o fewn sefydliad y landlord na'r swyddog a wnaeth y penderfyniad.

Sylwadau ysgrifenedig yn yr adolygiad
    
5. —(1) P'un a yw'r adolygiad i'w gynnal ar ffurf gwrandawiad llafar ai peidio, caiff y tenant gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r landlord mewn cysylltiad â'r adolygiad.

    (2) Rhaid i'r sylwadau hynny ddod i law'r landlord nid llai na dau ddiwrnod clir cyn dyddiad yr adolygiad.

    (3) Rhaid i'r landlord ystyried unrhyw sylwadau o'r fath sy'n dod i law erbyn y dyddiad hwnnw.

Y weithdrefn sydd i'w dilyn yn y gwrandawiad
    
6. —(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae'r weithdrefn mewn adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar i'w phenderfynu gan y person sy'n cynnal yr adolygiad.

    (2) Mae gan y tenant hawl—

    (3) Mae unrhyw gynrychiolydd y tenant i gael yr un hawliau a phwerau â'r rhai sydd gan y tenant o dan y Rheoliadau hyn.

Absenoldeb tenant neu gynrychiolydd o wrandawiad
    
7. Pan fo'r landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 3 am adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar ac nad yw'r tenant na chynrychiolydd y tenant yn bresennol ar y dyddiad hwnnw, ac ar yr amser ac yn y lle yr hysbyswyd amdanynt, caiff y person sy'n cynnal yr adolygiad—

Gohirio gwrandawiad
    
8. —(1) Pan fo'r landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 3 am adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar a bod y tenant yn gwneud cais am ei ohirio, caiff y landlord dderbyn neu wrthod y cais fel y gwêl yn dda.

    (2) Os gohirir y gwrandawiad, rhaid i'r landlord roi hysbysiad rhesymol i'r tenant am ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad a ailgynullir.

Torri yn ystod gwrandawiad
    
9. —(1) Caiff y person sy'n cynnal adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar dorri ar y gwrandawiad hwnnw ar unrhyw bryd o'i ben a'i bastwn ei hun, ar gais y tenant, cynrychiolydd y tenant neu'r landlord.

    (2) Os bydd yr adolygiad hwnnw'n cael ei gynnal gan fwy nag un person a bod unrhyw un o'r personau hynny'n absennol, rhaid torri ar y gwrandawiad, oni bai bod y tenant neu gynrychiolydd y tenant yn cytuno fel arall.

    (3) Os torrir ar yr adolygiad hwnnw ar ôl gwrandawiad rhannol ac nad y person a gynhaliodd y gwrandawiad y torrwyd arno gynt yw'r person sy'n cynnal y gwrandawiad a ailgynullwyd, yna rhaid cynnal ailwrandawiad cyflawn oni fydd y tenant neu gynrychiolydd y tenant yn cytuno fel arall.

    (4) Os torrir ar y gwrandawiad, rhaid i'r landlord roi hysbysiad rhesymol i'r tenant am ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad a ailgynullir.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Tachwedd 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Pennod 1 o Ran 5 o Ddeddf Tai 1996 yn sefydlu trefn tenantiaethau rhagarweiniol y caiff awdurdodau tai lleol ddewis ei gweithredu. Pan fo trefn o'r fath yn weithredol, mae'r denantiaeth yn "denantiaeth ragarweiniol" tan ddiwedd y cyfnod treialu, sef cyfnod o flwyddyn.

Mae adran 179 o Ddeddf Tai 2004 yn diwygio'r Bennod honno i ganiatáu i awdurdodau tai lleol sydd wedi dewis gweithredu trefn tenantiaethau rhagarweiniol i estyn y cyfnod treialu mewn achosion unigol am gyfnod o chwe mis.

Os bydd landlord yn dymuno estyn tenantiaeth ragarweiniol, rhaid iddo gyflwyno i'r tenant hysbysiad estyn sy'n nodi'r rhesymau dros benderfyniad y landlord ac sy'n dweud wrth y tenant am yr hawl i wneud cais am adolygiad o benderfyniad y landlord ac am y cyfnod amser y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath ynddo. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn mewn adolygiad o'r fath.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod hawl gan y tenant i wneud cais am wrandawiad llafar ac yn nodi sut mae'r hawl honno i'w harfer.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord roi hysbysiad i'r tenant am yr adolygiad.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i'r adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd ganddo ran yn y penderfyniad gwreiddiol. Os yw'r person sy'n cynnal yr adolygiad a'r person a wnaeth y penderfyniad i estyn y cyfnod treialu ill dau'n swyddogion i'r landlord, rhaid i'r person sy'n cynnal yr adolygiad fod yn uwch ei swydd yn sefydliad y landlord na'r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.

Mae rheoliad 5 yn nodi'r gofynion ynglŷn â sylwadau ysgrifenedig yn yr adolygiad.

Mae rheoliadau 6 i 9 yn nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn yn ystod adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar.

Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau a fydd gan y Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth yr Uned Rheoleiddio a Buddsoddi Tai Cymdeithasol,Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920 825111); e-bost: HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).


Notes:

[1] 1996 p.52; mewnosodwyd adran 125B gan adran 179 o Ddeddf Tai 2004 (2004 p.34). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1996, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) (y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn) ac adran 267 o Ddeddf Tai 2004.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091464 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 8 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062983w.html