BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 Rhif 2988 (Cy.277)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062988w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2988 (Cy.277)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 15 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 78A(9) a 78YC o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990")[1] ac sydd bellach yn arferadwy o ran Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym—

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rhan 2A" yw Rhan 2A o Ddeddf 1990 ac, oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf 1990 sy'n dwyn y Rhif hwnnw.

Addasu Rhan 2A
    
3. I'r graddau y mae niwed i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, mae Rhan 2A yn gymwys mewn cysylltiad â'r niwed, ac at ddibenion ymdrin ag ef, ac mae'n effeithiol gyda'r addasiadau a wneir gan reoliadau 4 i 18.

Dehongli addasiadau
    
4. —(1) Mae'r diffiniadau a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn (sy'n ailadrodd diffiniadau a geir yn Erthygl 1 o'r Gyfarwyddeb) yn gymwys at ddiben dehongli'r addasiadau a wneir i Ran 2A gan y Rheoliadau hyn.

    (2) Yn y rheoliad hwn ac yn yr Atodlen, ystyr "the Directive" yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/29/Euratom[
3], sy'n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer diogelu iechyd gweithwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol rhag y peryglon sy'n deillio o ymbelydredd ïoneiddio ac, at ddibenion yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, mae i "this Directive" yr un ystyr.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn at "Article" neu "Title" â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Teitl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Gyfarwyddeb.

Adran 78A (rhagarweiniol)
     5. —(1) Mae adran 78A (rhagarweiniol) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn lle is-adran (2), rhodder—

    (3) Yn lle is-adran (4), rhodder—

    (4) Yn lle is-adran (5), rhodder—

    (5) Yn lle is-adran (6), rhodder—

    (6) Yn lle is-adran (7), rhodder—

    (7) Hepgorir is-adran (8).

    (8) Yn is-adran (9)—

Adran 78B (adnabod tir halogedig)
    
6. —(1) Mae adran 78B (adnabod tir halogedig) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn lle is-adran (1), rhodder—

Adran 78C (adnabod a dynodi safleoedd arbennig)
    
7. —(1) Mae adran 78C (adnabod a dynodi safleoedd arbennig) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn is-adran (10), yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—

Adran 78E (dyletswydd ar yr awdurdod gorfodi i wneud adfer tir halogedig yn ofynnol etc)
    
8. —(1) Mae adran 78E (dyletswydd ar yr awdurdod gorfodi i wneud adfer tir halogedig yn ofynnol etc) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn is-adran (2), hepgorer "or waters".

    (3) Yn lle is-adran (4), rhodder—

    (4) Yn is-adran (5), ym mharagraff (b), hepgorer ", or waters are,".

Adran 78F (penderfynu pwy yw'r person priodol i fod yn gyfrifol am adfer)
    
9. Mae is-adran (9) o adran 78F (penderfynu pwy yw'r person priodol i fod yn gyfrifoldeb am adfer) yn effeithiol gyda'r geiriau "or radioactive decay" wedi'u mewnosod ar ôl "biological process".

Adran 78G (caniatáu hawliau mynediad ac iawndal mewn cysylltiad â hwy etc)
    
10. —(1) Mae adran 78G (caniatáu hawliau mynediad ac iawndal mewn cysylltiad â hwy etc) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn is-adran (2), yn lle "any of the relevant land or waters", rhodder "any relevant land".

    (3) Yn is-adran (3), ym mharagraff (a), hepgorer "or waters".

    (4) Yn is-adran (4), hepgorer "or serious pollution of controlled waters,".

    (5) Yn lle is-adran (7), rhodder—

Adran 78H (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer)
    
11. Mae is-adran (4) o adran 78H (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) yn effeithiol gyda'r geiriau ", or serious pollution of controlled waters," wedi'u hepgor.

Adran 78J (cyfyngiadau ar atebolrwydd mewn perthynas â llygru dyfroedd a reolir)
    
12. Hepgorer adran 78J.

Adran 78K (atebolrwydd o ran sylweddau sy'n halogi ac sy'n gollwng i dir arall)
    
13. —(1) Mae adran 78K (atebolrwydd o ran sylweddau sy'n halogi ac sy'n gollwng i dir arall) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn lle is-adran (3), rhodder—

    (3) Yn lle is-adran (4), rhodder—

Adran 78N (pwerau'r awdurdod gorfodi i gyflawni adferiad)
    
14. —(1) Mae adran 78N (pwerau'r awdurdod gorfodi i gyflawni adferiad) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn is-adran (1), hepgorer "or waters".

    (3) Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

    (4) Yn is-adran (3)(a), hepgorer ", or serious pollution of controlled waters,".

    (5) Yn is-adrannau (3)(d) a (4)(d), hepgorer "78J or".

    (6) Yn lle is-adran (5), rhodder—

Adran 78P (adennill cost adfer gan yr awdurdod gorfodi, a gwarant ar gyfer hynny)
    
15. Mae is-adran (1) o adran 78P (adennill cost adfer gan yr awdurdod gorfodi, a gwarant ar gyfer hynny) yn effeithiol gyda'r gair "section" wedi'i roi yn lle'r geiriau "sections 78J(7) and".

Adran 78X (darpariaethau atodol)
    
16. —(1) Mae Adran 78X (darpariaethau atodol) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn lle is-adran (1), rhodder—

    (3) Yn lle is-adran (2), rhodder—

Adran 78YB (rhyngweithio rhwng Rhan 2A a deddfiadau eraill)
    
17. —(1) Mae adran 78YB (rhyngweithio rhwng Rhan 2A a deddfiadau eraill) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol.

    (2) Yn lle is-adran (1), rhodder—

    (3) Yn is-adrannau (2), (2A) a (2B), yn lle "significant harm, or pollution of controlled waters" rhodder "harm".

    (4) Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

Addasu Deddf yr Amgylchedd 1995
     18. —(1) I'r graddau y gellir priodoli'r niwed i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, mae Deddf yr Amgylchedd 1995[5], pan yw'n gymwys mewn cysylltiad â'r niwed, yn effeithiol gyda'r addasiadau a grybwyllir ym mharagraff (2).

    (2) Mae is-adran (15) o adran 108 (pwerau awdurdodau gorfodi a phersonau a awdurdodir ganddynt) yn effeithiol gyda'r addasiadau canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2006



ATODLEN
Rheoliad 4


DIFFINIADAU YN Y GYFARWYDDEB


Activity (A): the activity, A, of an amount of a radionuclide in a particular energy state at a given time is the quotient of dN by dt, where dN is the expectation value of the number of spontaneous nuclear transitions from that energy state in the time interval dt:

 dN
A =
 dt

Apprentice: a person receiving training or instruction within an undertaking with a view to exercising a specific skill.

Artificial sources: radiation sources other than natural radiation sources.

Becquerel (Bq): is the special name of the unit of activity. One becquerel is equivalent to one transition per second:

1 Bq = 1 s- ¹.
Dose limits: maximum references laid down in Title IV for the doses resulting from the exposure of workers, apprentices and students and members of the public to ionizing radiation covered by this Directive that apply to the sum of the relevant doses from external exposures in the specified period and the 50-year committed doses (up to age 70 for children) from intakes in the same period.

Emergency exposure: an exposure of individuals implementing the necessary rapid action to bring help to endangered individuals, prevent exposure of a large number of people or save a valuable installation or goods, whereby one of the individual dose limits equal to that laid down for exposed workers could be exceeded. Emergency exposure shall apply only to volunteers.

Exposed workers: persons, either self-employed or working for an employer, subject to an exposure incurred at work from practices covered by this Directive and liable to result in doses exceeding one or other of the dose levels equal to the dose limits for members of the public.

Exposure: the process of being exposed to ionizing radiation.

Health detriment: an estimate of the risk of reduction in length and quality of life occurring in a population following exposure to ionizing radiations. This includes loss arising from somatic effects, cancer and severe genetic disorder.

Intake: the activities of radionuclides entering the body from the external environment.

Intervention: a human activity that prevents or decreases the exposure of individuals to radiation from sources which are not part of a practice or which are out of control, by acting on sources, transmission pathways and individuals themselves.

Ionizing radiation: the transfer of energy in the form of particles or electromagnetic waves of a wavelength of 100 nanometers or less or a frequency of 3 x 1015 Hertz or more capable of producing ions directly or indirectly.

Members of the public: individuals in the population, excluding exposed workers, apprentices and students during their working hours and individuals during the exposures referred to in Article 6(4)(a), (b) and (c).

Natural radiation sources: sources of ionizing radiation from natural terrestrial or cosmic origin.

Practice: a human activity that can increase the exposure of individuals to radiation from an artificial source, or from a natural radiation source where natural radionuclides are processed for their radioactive, fissile or fertile properties, except in the case of an emergency exposure.

Radioactive substance: any substance that contains one or more radionuclides the activity or concentration of which cannot be disregarded as far as radiation protection is concerned.

Radiological emergency: a situation that requires urgent action in order to protect workers, members of the public or the population either partially or as a whole.

Source: an apparatus, a radioactive substance or an installation capable of emitting ionizing radiation or radioactive substances.

Undertaking: any natural or legal person who carries out the practices or work activities referred to in Article 2 of this Directive and who has the legal responsibility under national law for such practices or work activities.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Ceir yn Rhan 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ("Rhan 2A" o "Ddeddf 1990") gyfundrefn ar gyfer adnabod tir halogedig a'i adfer. Mae adran 78YC yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymhwyso Rhan 2A mewn perthynas â niwed neu lygredd i ddyfroedd a reolir, i'r graddau y gellir priodoli'r niwed neu'r llygredd i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu i Ran 2A fod yn effeithiol gydag addasiadau i'r diben o adnabod tir a halogwyd yn ymbelydrol a'i adfer ac eithrio mewn amgylchiadau pan fydd gweithredydd sefydliad niwclear yn atebol o dan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965 (p.57), neu mewn amgylchiadau cysylltiedig (gweler rheoliad 17).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn trosi Erthyglau 48 a 53 o Gyfarwyddeb y Cyngor 1996/29/Euratom sy'n gosod safonau diogelwch sylfaenol i ddiogelu iechyd gweithwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol rhag y peryglon sy'n deillio o ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L159, 29.06.1996, t.1).

Mae rheoliad 5 yn addasu amrywiol ddiffiniadau yn adran 78A o Ddeddf 1990.

Mae rheoliad 6 yn darparu i adran 78B o Ddeddf 1990 fod yn effeithiol gydag addasiad i sicrhau nad yw'r ddyletswydd sydd ar yr awdurdod lleol i arolygu yn gymwys ond mewn cysylltiad â thir y mae gan yr awdurdod lleol sail resymol dros gredu y gall fod wedi'i halogi.

Mae rheoliad 8 yn cyfyngu ar ddisgresiwn yr awdurdod gorfodi i benderfynu beth sy'n rhesymol o ran adfer at ddibenion adran 78E(4) o Ddeddf 1990. Yr effaith yw ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gorfodi gloriannu'r budd a ddaw o unrhyw ymyriad yn erbyn y niwed i iechyd a'r costau a ddeillia o ymyriad o'r fath ac iddo gynyddu i'r eithaf y budd a ddaw o ymyriad o'r fath.

Mae rheoliad 14 yn addasu adran 78N o Ddeddf 1990 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gorfodi ei hun gyflawni gwaith adfer mewn rhai amgylchiadau.

Mae rheoliad 17 yn darparu nad yw Rhan 2A yn gymwys pan halogir tir gan sylweddau sydd yn y tir, arno neu oddi tano, i'r graddau y mae presenoldeb y sylweddau hynny'n peri difrod i unrhyw eiddo pan eir yn groes i Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965 drwy fethu â chyflawni dyletswyddau penodol sy'n dod oddi tani, neu mewn amgylchiadau cysylltiedig.

Mae rheoliad 18 yn sicrhau bod pwerau Asiantaeth yr Amgylchedd neu'r awdurdod lleol o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) yn ymestyn i'w swyddogaethau o dan Ran 2A fel y mae'n gymwys i niwed y gellir ei briodoli i ymbelydredd.


Notes:

[1] 1990 p.43. Mewnosodwyd adrannau 78A i 78YC gan adran 57 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gweler y diffiniad o "prescribed" a "regulations" yn adran 78A(9).back

[2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw.back

[3] OJ Rhif L159, 29.06.1996, t.1.back

[4] 1965 p.57.back

[5] 1995 p.25.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091443 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062988w.html