BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 Rhif 2989 (Cy.278)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062989w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2989 (Cy.278)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 15 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 10 Rhagfyr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 78A(9), 78C(8) i (10), 78E(1) a (6), 78G(5) a (6)[1], 78L(4)[2] a (5) a 78R(1), (2) ac (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990")[3] ac sydd bellach yn arferadwy o ran Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol[4], a chan yr adrannau hynny fel y'u cymhwysir gan Reoliadau Tir a halogwyd yn ymbelydrd (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 ("y Rheoliadau Addasu")[5] o ran niwed, i'r graddau y mae niwed i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir yn wahanol —

Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig
    
2. —(1) At ddibenion adran 78C(8) rhagnodir tir halogedig a ddisgrifir fel a ganlyn yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig —

    (2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae "tarau asid gwastraff" yn darau —

    (3) Ym mharagraff (1)(ch), mae i "awdurdodiad" a "proses ragnodedig" yr un ystyr ag "authorisation" a "prescribed process" yn Rhan I o Ddeddf 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol) ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli'n ganolog neu yn lleol).

    (4) Ym mharagraff (1)(d), mae i “gweithfan Rhan A(1), "gwaith symudol Rhan A(1)" a "trwydded" yr un ystyr â "Part A(1) installation", "Part A(1) mobile plant" a "permit" yn Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000[9].

    (5) Ym mharagraff (1)(dd) uchod, ystyr "safle niwclear" yw—

    (6) Ym mharagraff (5) mae i "trwydded safle niwclear", "trwyddedai" a "cyfnod cyfrifoldeb" yr ystyr a roddir i "nuclear site licence", "licensee" a "period of responsibility" gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965[10].

    (7) At ddibenion paragraff (1)(e), dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu i'w drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.

    (8) Ym mharagraff (1)(e)—

    (9) Ym mharagraff (1)(f), mae i "arf cemegol" yr ystyr sydd i "chemical weapon" yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996[13], gan ddiystyru is-adran (2) o'r adran honno.

Llygru dyfroedd a reolir
     3. Yr amgylchiadau y mae rheoliad 2(1)(a) yn cyfeirio atynt yw—

Cynnwys hysbysiadau adfer
     4. —(1) Rhaid i hysbysiad adfer ddatgan (yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol o dan adran 78E(1) a (3))—

    (2) Rhaid i hysbysiad adfer esbonio—

Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer
    
5. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r awdurdod gorfodi, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad adfer, anfon copi ohono at bob un o'r personau canlynol, nad yw'n berson y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo—

    (2) Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu oddi tano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

Iawndal am hawliau mynediad etc
    
6. Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn pennu—

ac mae'n gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag iawndal o'r fath.

Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer
    
7. —(1) Mae unrhyw un neu fwy o'r canlynol yn seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer o dan adran 78L(1) —

    (2) Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos —

    (3) Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg neu'r camgymeriad yn un o sylwedd.

Apelau i'r Cynulliad Cenedlaethol
     8. —(1) Rhaid i apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ("hysbysiad apêl"), sef hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan —

    (2) Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno —

    (3) Os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig; ac ymdrinnir â'r apêl wedyn fel un y rhoddwyd y gorau iddi o'r dyddiad y bydd yr hysbysiad hwnnw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod caniatáu i apelydd roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer pan ddaw'r hysbysiad gan yr apelydd yn unol â pharagraff (3) i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 11(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.

    (5) Pan roir y gorau i apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad y rhoddwyd y gorau iddi i unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol
    
9. —(1) Cyn penderfynu apêl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os gwêl yn dda—

    (2) Cyn penderfynu ar apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu fel a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu'r awdurdod gorfodi am gael gwrandawiad mewn perthynas â'r apêl.

    (3) Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael gwrandawiad mewn gwrandawiad —

    (4) Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad; a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath a hynny'n afresymol.

    (5) Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[
19] (pwer y Cynulliad Cenedlaethol i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau neu i atgyfeirio materion sy'n gysylltiedig ag apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid iddo gynnwys casgliadau'r person penodedig a'i argymhellion (neu resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion).

Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl
     10. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r apelydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ar apêl a darparu copi o unrhyw adroddiad a grybwyllir yn rheoliad 9(5).

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yr un pryd ag y mae'n hysbysu'r apelydd, anfon copi o'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) i'r awdurdod gorfodi ac at unrhyw berson arall yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

Addasu hysbysiad adfer
    
11. —(1) Cyn addasu hysbysiad adfer o dan adran 78L(2)(b) (apelau yn erbyn hysbysiadau adfer) mewn unrhyw fodd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (2) Pan wrandewir ar yr apelydd neu ar unrhyw berson arall, yn unol â pharagraff (1), bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael gwrandawiad hefyd.

Atal hysbysiad adfer
    
12. —(1) Pan gyflwynir apêl yn briodol yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad tra disgwylir am y penderfyniad terfynol ar yr apêl neu nes y rhoddir y gorau iddi.

    (2) Mae apêl yn erbyn hysbysiad adfer yn cael ei gwneud yn briodol at ddibenion y rheoliad hwn os yw'n cael ei gwneud o fewn y cyfnod a bennir yn adran 78L(1) ac os cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 8(1) a (2).

Cofrestrau
    
13. —(1) At ddiben adran 78R(1) (cofrestrau), pennir y manylion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cofrestr a gedwir o dan yr is-adran honno yn Atodlen 3.

    (2) Rhagnodir y disgrifiadau canlynol o wybodaeth at ddibenion adran 78R(2) yn wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiadau at ddibenion adran 78R(1)(h) a (j)—

    (3) Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion adran 78R(8) yn lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno—

Dirymu
    
14. Caiff Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001[20] eu dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[21].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 3(c)


SAFLEOEDD ARBENNIG


     1. Y teuluoedd a'r grwpiau o sylweddau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(i) yw'r canlynol—

     2. Y ffurfiadau creigiau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii) yw'r canlynol—



ATODLEN 2
Rheoliad 6


IAWNDAL AM HAWLIAU MYNEDIAD ETC


Dehongli
     1. Yn yr Atodlen hon—

Y cyfnod ar gyfer gwneud cais
     2. Rhaid gwneud cais am iawndal o fewn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi'r hawliau yr hawlir iawndal mewn perthynas â hwy ac sy'n dod i ben ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

Dull gwneud cais
     3. —(1) Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyflwyno, neu ei anfon drwy bost ragdaledig, i gyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person priodol y rhoddwyd yr hawliau iddo.

    (2) Rhaid i'r cais gynnwys, neu rhaid anfon gyda'r cais,—

Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer
     4. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 5(3) a (5)(b), mae iawndal yn daladwy o dan adran 78G(5) am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—

Y sail ar gyfer asesu'r iawndal
     5. —(1) Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G(5).

    (2) Bydd y rheolau a nodir yn adran 5[23] o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.

    (3) Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.

    (4) Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d), cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.

    (5) Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais —

    (6) Rhaid i iawndal o dan adran 78G(5) gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.

Talu iawndal a phenderfynu dadleuon
     6. —(1) Rhaid i iawndal sy'n daladwy o dan adran 78G(5) mewn perthynas â buddiant sy'n ddarostyngedig i forgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.

    (2) Bydd symiau iawndal a benderfynir o dan yr Atodlen hon yn daladwy —

    (3) Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.

    (4) Mewn perthynas â phenderfynu ar unrhyw gwestiwn o'r fath, bydd adrannau 2[24] a 4 o Ddeddf 1961 (sy'n darparu ar gyfer y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys —



ATODLEN 3
Rheoliad 13(1)


MANYLION A RAGNODIR AT DDIBEN ADRAN 78R(1)


Hysbysiadau Adfer
     1. —(1) Mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi —

Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer
     2. Unrhyw apêl yn erbyn hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi.

     3. Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.

Datganiadau adfer
     4. Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(6).

     5. Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath —

Mynegiad adfer
     6. Unrhyw fynegiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(7) neu gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(9).

     7. Mewn perthynas ag unrhyw fynegiad adfer o'r fath —

Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl
     8. Unrhyw apêl o dan adran 78P(8) yn erbyn hysbysiad codi tâl a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi.

     9. Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.

Dynodi safleoedd arbennig
     10. —(1) Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae'n awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef, ac yn achos awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir yn ei ardal—

Hysbysu adferiad honedig
     11. Unrhyw hysbysiad a roddir i'r awdurdod gorfodi at ddibenion adran 78R(1)(h) neu (j).

Collfarnau am dramgwyddau o dan adran 78M
     12. Unrhyw gollfarniad a gafodd person am unrhyw dramgwyddau o dan adran 78M mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi, gan gynnwys enw'r tramgwyddwr, dyddiad y gollfarn, y gosb a osodwyd ac enw'r Llys.

Canllawiau a roddir o dan adran 78V(1)
     13. Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, dyddiad unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd ganddi o dan adran 78V(1) ac, yn achos awdurdod lleol, dyddiad unrhyw ganllawiau a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth o dan yr is-adran honno.

Rheolaethau amgylcheddol eraill
     14. Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) neu 78YB(2B)[
25] rhag cyflwyno hysbysiad adfer —

     15. —(1) Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw —

     16. Pan fydd yr awdurdod gorfodi, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod 2 o Ran 3 o Ddeddf Adnoddau Dwr 1991 (troseddau llygru), yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath,—



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn disodli Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2197 (Cy.157)) ("Rheoliadau 2001") ac, yn ogystal â gwneud darpariaeth debyg i'r un a wnaed yn Rheoliadau 2001, yn gwneud, o ran Cymru, ddarpariaeth sy'n hafal i'r un a wnaed o ran Lloegr ym mharagraff 50 o Atodlen 10 i Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) ac mae'n nodi darpariaethau pellach ynghylch adnabod ac adfer tir halogedig o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990").

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgrifiad ychwanegol o dir halogedig y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig: sef tir sy'n dir halogedig o ganlyniad i sylweddau ymbelydrol yn y tir hwnnw, arno neu oddi tano.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu darpariaethau sy'n gysylltiedig ag apelau i lys ynadon yn erbyn hysbysiadau adfer, o ganlyniad i ddiwygiadau i adran 78L o Ddeddf 1990 a wnaed gan adran 104 o Ddeddf Cymdogaethau ac Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16).

Mae rheoliadau 2 a 3 ac Atodlen 1 yn nodi'r categorïau hynny o safleoedd (a elwir yn "safleoedd arbennig") y mae Asiantaeth yr Amgylchedd i fod yn awdurdod gorfodi ar eu cyfer. Awdurdodau lleol yw'r awdurdod gorfodi o ran unrhyw safle o fath arall.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cynnwys "hysbysiadau adfer" ac ar gyfer cyflwyno copïau ohonynt: sef hysbysiadau a gyflwynir gan awdurdod lleol neu gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn nodi beth sydd i'w wneud o ran adfer, ac o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu.

Mae rheoliad 6 ac Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth o ran yr iawndal sydd i'w dalu'n unol ag adran 78G(5) o Ddeddf 1990 i berson sy'n rhoi, neu sy'n uno ag eraill i roi, hawliau mynediad etc sy'n ofynnol i alluogi person i gydymffurfio â hysbysiad adfer.

Mae rheoliadau 7 i 12 yn gwneud darpariaeth o ran apelau yn erbyn hysbysiadau adfer, gan gynnwys seiliau apelio a'r weithdrefn i'w dilyn.

Mae rheoliad 13 ac Atodlen 3 yn rhagnodi manylion materion y mae'n ofynnol o dan adran 78R o Ddeddf 1990 eu gosod ar gofrestr a gedwir gan awdurdodau lleol neu, yn achos safleoedd arbennig, gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae Rheoliad 14 yn dirymu Rheoliadau 2001.


Notes:

[1] Mae adran 78G(6) yn darparu y caiff rheoliadau a wnaed o dan is-adran 78G(5) wneud y cyfryw ddarpariaeth o ran iawndal ag y caniateir ei gwneud gan reoliadau yn rhinwedd adran 35A(4) o Ddeddf 1990 o ran iawndal o dan yr adran honno.back

[2] Diwygiwyd is-adran (4) o adran 78L gan Ddeddf Cymdogaethau ac Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adrannau 104 a 107, a Rhan 10 o Atodlen 5.back

[3] 1990 p.43. Mewnosodwyd adrannau 78A i 78YC gan adran 57 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gweler y diffiniad o "prescribed" ac o "regulations" yn adran 78A(9).back

[4] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.back

[5] O.S. 2006/2988 (Cy.277).back

[6] 1974 p.6.back

[7] 1991 p.46.back

[8] 1996 p.46.back

[9] O.S. 2000/1973.back

[10] 1965 p.57.back

[11] 1964 p.5.back

[12] 1952 p.67.back

[13] 1996 p.6.back

[14] 1991 p.56.back

[15] 1991 p.57.back

[16] Diwygiwyd adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan I, paragraffau 2 a 6.back

[17] Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.back

[18] Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).back

[19] 1995 p25.back

[20] O.S. 2001/2197 (Cy.157).back

[21] 1998 p.38.back

[22] 1961 p.33.back

[23] Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.43), adrannau 70 ac 84, Atodlen 15, paragraff 1 ac Atodlen 19, Rhan 3.back

[24] Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65), adran 193 ac Atodlen 33, paragraff 5.back

[25] Mewosodwyd is-adran (2B) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.back

[26] Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.back

[27] Mewnosodwyd is-adran (2C) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.back

[28] Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).back

[29] Diwygiwyd is-adran (3) o adran 30 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), adrannau 22(3) a 66(8) ac Atodlen 9, paragraff 17(3) ac Atodlen 18.back



English version



ISBN 0 11 091442 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 23 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062989w.html