BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 3097 (Cy.281)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063097w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3097 (Cy.281)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 21 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 23 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolyddion ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006.

    (2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.

    (3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr "cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol" yw cwestiwn o beidio â chasglu o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ac—

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005
    
2. Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005[3], mewnosoder "cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un a gyfeirir at baragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
     3. —(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997[4] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle "£1,575" ym mhob man y'i gwelir rhodder "£1,625".

    (3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, rhodder "£12,470" yn lle "£12,182".

    (4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—

(1) Part of relevant income to which specified percentage applies (2) Only assisted pupil (% ) (3) Each of two assisted pupils (% ) Each of three assisted pupils
(% )
That part (if any) which exceeds £12,304 but does not exceed £13,380. 9 6.75 5.25
That part (if any) which exceeds £13,380 but does not exceed £14,472. 12 9 7
That part (if any) which exceeds £14,472 but does not exceed £16,637. 15 11.25 8.75
That part (if any) which exceeds £16,637 but does not exceed £19,977. 21 15.75 12.25
That part (if any) which exceeds £19,977 but does not exceed £24,331. 24 18 14
That part (if any) which exceeds £24,331 35 24.75 19.25



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Tachwedd 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ("Rheoliadau 1997") ymhellach.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch cwestiynau o beidio â chasglu sy'n codi ym mlwyddyn ysgol 2006/07 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno. Cwestiwn o beidio â chasglu yw cwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 fel nas cesglir oddi wrtho ffioedd sy'n daladwy am addysg plentyn mewn ysgol annibynnol.

Mae'r swm sydd i'w dynnu o'r incwm perthnasol o ran perthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,575 i £1,625.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r prawf modd ar gyfer ad-dalu ffioedd: gosodir lefel yr incwm na chesglir y ffioedd, naill ai yn gyfangwbl neu'n rhannol, arno neu islaw iddo ar £12,470 yn lle £12,182, gyda chynnydd cyfatebol yng ngraddau'r ad-daliadau pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r swm hwnnw.


Notes:

[1] 1997 p. 59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).back

[2] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2005/2838 (Cy. 202).back

[4] O.S. 1997/1968. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1938 (Cy. 136), O.S. 2001/2680 (Cy. 221), O.S. 2002/1879 (Cy. 188), O.S. 2003/1854 (Cy. 204), O.S. 2004/1812 (Cy. 197) ac O.S. 2005/2838 (Cy. 202).back

[5] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091462 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 4 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063097w.html