BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006 Rhif 3100 (Cy.284)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063100w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3100 (Cy.284)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 21 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2006 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf

RHAN 2

PANELAU
4. Cyfansoddi panelau
5. Aelodaeth o'r panelau
6. Cyfarfodydd y panelau
7. Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd
8. Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniadn ar ddatgelu
9. Gweinyddu'r Panelau
10. Ffioedd aelodau panel
11. Cofnodion

RHAN 3

Y WEITHDREFN
12. Cais am adolygu penderfyniad cymhwysol
13. Penodi panel a chynnal adolygiad
14. Argymhelliad y panel
15. Gorchymyn i dalu costau
16. Diwygio Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005
17. Achosion ar y gweill o dan Reoliadau Adolygu Annibynnol 2005 ar y diwrnod penodedig.
18. Dirymu

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9 a 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[
1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol—



RHAN 1

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006.

    (2) Maent yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2006.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.
     3. At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, mae penderfyniad cymhwysol—



RHAN 2

PANELAU

Cyfansoddi panelau
     4. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed gan geisydd yn unol â rheoliad 11, gyfansoddi panel i adolygu'r penderfyniad cymhwysol.

    (2) Rhaid dewis aelodau'r panel oddi ar restr o bersonau sydd wedi'u penodi ac sy'n gwasanaethu fel aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y rhestr ganolog") a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o bersonau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas, yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad i fod yn aelodau panel.

    (3) Rhaid i aelodau o'r rhestr ganolog gynnwys—

Aelodaeth o'r Panelau
    
5. —(1) Mwyafswm nifer y personau y caniateir eu penodi i banel yw pump.

    (2) Rhaid i banel gael ei gynghori:

    (3) Pan fo'r panel yn credu fod hynny'n briodol, caiff ei gynghori gan

    (4) Pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu'n benderfyniad i ddatgelu, mae'n rhaid i'r panel gynnwys o leiaf ddau berson sy'n dod o fewn rheoliad 4(3)(a).

    (5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

    (6) Rhaid peidio â phenodi person i banel—

    (7) Yn y rheoliad hwn—

Cyfarfodydd y panelau
    
6. Bydd trafodion y panel yn cael eu hannilysu oni bai bod o leiaf bedwar o'i aelodau yn bresennol.

Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd
    
7. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu yn benderfyniad ar addasrwydd.

    (2) Rhaid i banel—

    (3) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—

Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad i ddatgelu
    
8. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu yn benderfyniad i ddatgelu.

    (2) Rhaid i banel adolygu'r penderfyniad i ddatgelu a chyflwyno i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad i ddatgelu argymhelliad ynghylch a ddylai'r asiantaeth fwrw ymlaen â'i phenderfyniad gwreiddiol.

    (3) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—

Gweinyddu'r Panelau
    
9. Rhaid i'r panel gael ei weinyddu gan y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd rhaid iddo wneud darpariaeth addas ar gyfer trefniadau clercio i'r panel.

Ffioedd aelodau panel
    
10. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn rhesymol.

Cofnodion
    
11. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod cofnod ysgrifenedig o adolygiad panel o benderfyniad cymhwysol, gan gynnwys y rhesymau dros ei argymhelliad ac a oedd yr argymhelliad yn argymhelliad unfrydol neu'n argymhelliad y mwyafrif, yn cael ei gadw—



RHAN 3

Y WEITHDREFN

Cais am adolygu penderfyniad cymhwysol
    
12. —(1) Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol am adolygiad o benderfyniad cymhwysol gael ei wneud gan y ceisydd mewn ysgrifen a rhaid iddo gynnwys y sail dros ei wneud.

    (2) Yn achos penderfyniad ar addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unig a gaiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu o'r penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â'r darpar fabwysiadydd, am i banel gael ei gyfansoddi i adolygu'r penderfyniad hwnnw.

Penodi panel a chynnal adolygiad
    
13. Ar ôl cael cais sydd wedi'i wneud yn unol â rheoliad 12, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

    (2) Ni fydd y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cais ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y panel yn cael yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â'r adolygiad cyn gynted ag y bo modd ond dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr adolygiad.

Argymhelliad y panel
    
14. —(1) Pan na fydd argymhelliad y panel yn unfrydol, rhaid i'r argymhelliad fod yn argymhelliad y mwyafrif.

    (2) Caniateir i'r argymhelliad gael ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad neu ei gadw yn ôl.

    (3) Rhaid i'r argymhelliad a'r rhesymau drosto ac a oedd yr argymhelliad yn argymhelliad unfrydol neu'n argymhelliad mwyafrif gael eu cofnodi'n ddi-oed mewn dogfen a gaiff ei llofnodi a'i dyddio gan y cadeirydd.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon yn ddi-oed, a beth bynnag heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae'r argymhelliad yn cael ei wneud, gopi o'r argymhelliad a'r rhesymau drosto at y ceisydd ac i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol.

Gorchymyn i dalu costau
    
15. Caiff y panel wneud gorchymyn i'r asiantaeth fabwysiadu y cafodd y penderfyniad cymhwysol a adolygwyd ei wneud ganddi dalu'r costau y mae'r panel yn eu hystyried yn rhesymol.

Diwygio Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005
    
16. —(1) Mae Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005[8] wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—

    (3) Ar ôl rheoliad 13 (Cofnod o sylwadau) mewnosoder y rheoliad canlynol—

Achosion ar y gweill o dan Reoliadau Adolygu Annibynnol 2005 ar y diwrnod Penodedig
    
17. —(1) O ran unrhyw gais gan ddarpar fabwysiadydd ar gyfer adolygad o benderfyniad cynhwysol a waned cyn y diwrnod Penodedig rhaid i unrhyw weithred neu benderfyniad a gymerwyd cyn y diwrnod Penodedig o dan ddarpariaeth o Reoliadau Adolygu Annibyynnol 2005, ar y diwrnod Penodedig neu ar ei ol, gael ei thrin neu'i drin fel pebai'n weithred neu'n benderfyniad o dan y ddardpariaeth gyfatebol o'r Rheoliadau hyn.

    (2) Yn y rheoliad hun ystyr "diwrnod penodedig" yw 31 Rhagfyr 2006.

Dirymu
    
18. Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005[9] drwy hyn wedi'u dirymu.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Tachwedd 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("y Deddf"). Maent yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn gwneud darpariaeth i banel annibynnol adolygu mewn dau fath o achos. Yn gyntaf, penderfyniad a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 nad yw'n bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fabwysiadu plentyn neu benderfyniad ar ôl adolygiad nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fabwysiadu plentyn. Mae penderfyniad o'r fath wedi'i bennu yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn fel penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf. Yn ail, penderfyniadau a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005. Mae'r penderfyniadau hyn wedi'u pennu mewn rheoliad 13A newydd o'r Rheoliadau hynny fel penderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth panelau, eu swyddogaethau a thalu ffioedd, cyfarfodydd a gwaith cadw cofnodion y panelau sy'n cael eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu penderfyniadau cymhwysol.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn pan geisir penderfyniad cymhwysol gan banel a gyfansoddwyd o dan Ran 2.


Notes:

[1] 2002 p.38. Diwygiwyd adran 12 gan adran 57 o Ddeddf Plant 2004 (p.31).back

[2] Deddf Safonau Gofal 2000, p.14.back

[3] Mae Rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu yn pennu'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol, mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf: (a) peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson am ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir; (b) datgelu gwybodaeth i geisydd pan fo'r person hwnnw wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth; ac (c) peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd pan fo'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth.back

[4] 2005/1891 (Cy.147).back

[5] O.S. 2005/1313.back

[6] O.S. 2005/2689.back

[7] Gweler rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn.back

[8] O.S. 2005/2689 (Cy. 189).back

[9] 2005/1819 (Cy.147).back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091450 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 5 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063100w.html