BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006 Rhif 3108 (Cy.287)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063108w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3108 (Cy.287)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 22 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 27 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Safonau Gofal 1988[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 27 Tachwedd 2006.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn:

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

     2. Nodir bwyd Cychwyn Iach o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru fel a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    
3. Tabledi neu ddiferion fitamin sy'n cynnwys fitaminau sy'n briodol i'r buddiolwr sy'n eu cael yw fitaminau Cychwyn Iach o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Tachwedd 2006



YR ATODLEN
Categori o fwyd Goleddfiad
Llaeth Llaeth gwartheg hylif, gan gynnwys mathau hir-oes, pastiwreiddiedig, neu fathau a driniwyd ag uwch-wres, ond nid llaeth yr ychwanegwyd cemegion, fitaminau, cyflasau neu liwiau iddo neu laeth y'u tynnwyd oddi wrtho.
Fformiwla babanod Bwyd ac iddo sylfaen o laeth gwartheg ac a fwriedir yn benodol i'w ddefnyddio'n faethol gan fabanod sydd mewn iechyd da ac sy'n diwallu ar ei ben ei hun anghenion maethol y babanod hynny.
Ffrwythau a llysiau ffres Ffrwythau a llysiau ffres gan gynnwys ffrwythau a llysiau rhydd, wedi'u rhagbacio, cyfain, wedi'u tafellu, wedi'u torri, neu wedi'u cymysgu, ond nid ffrwythau na llysiau yr ychwanegwyd halen, siwgr, perlysiau neu unrhyw gyflasyn arall iddynt.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Yn unol ag adrannau 13(1) a (6) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 ("Deddf 1988"), mae gan y Cynulliad y pŵer i ragnodi'r bwydydd Cychwyn Iach sydd ar gael fel rhan o'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru.

Mae'r diffiniad o fwyd yn adran 13(11) o Ddeddf 1988 yn cynnwys fitaminau.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod y bwyd Cychwyn Iach o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru fel a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn darparu disgrifiad o fitaminau Cychwyn Iach a fydd yn gymwys o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru.

Daw'r Rheoliadau i rym ar 27 Tachwedd 2006.

Mae'r cynllun Cychwyn Iach yn gynllun er budd menywod beichiog, mamau a phlant cymwys a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach a Bwyd Lles (Diwygio) 2005, fel y'u diwygiwyd.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.


Notes:

[1] 1988 p.7. Amnewidiwyd adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 gan adran 185 o Ddeddf Iechyd a Gofal cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43).back

[2] O.S. 2005/3262, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2006/589 a Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach a Bwyd Lles (Diwygio Rhif 2) 2006 (OS 2006/2818).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091455 4


 © Crown copyright 2006

Prepared 30 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063108w.html