BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006 Rhif 3245 (Cy.293)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063245w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3245 (Cy.293)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 5 Rhagfyr 2006 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1].

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[2] at ddibenion yr adran honno ynghylch mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[4] cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2007.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn —

Ffioedd
     3. —(1) Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol o ran y rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

    (2) Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ran unrhyw fangre o'r fath a bennir yn y paragraff hwnnw, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.

    (3) Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac—

    (4) Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.

    (5) Os cafodd unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd eu defnyddio i gyfrifo ffi y mae angen ei hysbysu i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3), rhaid gwrthgyfrifo'r costau hynny yn erbyn swm y ffi honno wrth gyfrifo'r ffi wirioneddol a hysbysir oddi tano, ar yr amod na wneir ad-daliad i'r gweithredydd perthnasol.

    (6) Os yw swm o dan baragraff (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n penderfynu gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.

Tynnu rheolaethau swyddogol yn ôl
    
4. Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sydd yn agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y fangre homo hyd nes y bodlonir y dyfarniad.

Gwybodaeth
    
5. —(1) Rhaid i unrhyw berson pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi—

    (2) Bydd unrhyw berson sydd —

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu
    
6. Mae Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005[10] wedi'u dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Rhagfyr 2006



ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)


DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL




ATODLEN 2
Rheoliad 2(1)


CYFRIFO FFI RHEOLAETHAU SWYDDOGOL


Y ffi rheolaethau swyddogol
     1. Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—

     2. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).

    (2) Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.

    (3) Yn y paragraff hwn ystyr "cyfnod ariannol" ("financial period") yw—

Y ffi safonol
     3. Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda yno neu yn ôl y digwydd eu trin yno yn y cyfnod.

     4. Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod.

Y math o anifail Cyfradd fesul math o anifail mewn Ewros
Anifeiliaid buchol           
• 6 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy

4.5
• yn llai na 6 wythnos oed pan gigyddir hwy

2.5
Equidae ac uncarnolion eraill 4.4
Moch gan gynnwys baeddod gwyllt           
• pwysau carcas llai na 25 kg

0.5
• pwysau carcas mwy na neu'n gytbwys â 25 kg

1.3
Defaid, geifr ac anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil nas rhestrir yn rhywle arall yn y Tabl hwn           
• pwysau carcas llai na 12 kg

0.175
• pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol

0.35
• pwysau carcas mwy na 18 kg

0.5
Dofednod, cwningod, adar hela bach a helfilod daear           
• pob brwyliad; pob iâr gast; dofednod eraill, cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso llai na 2 kg

0.01
• dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg)

0.02
• dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear (sydd i gyd yn oedolion) ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg

0.04
Estrysiaid ac adar di-gêl eraill 1.3
Mamaliaid tir ac adar o fath nas crybwyllir uchod 1.3

     5. Mae'r ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela o ran cig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad i'w dorri neu neu i dynnu'r esgyrn yno, i'w chyfrifo drwy luosi â 3 y nifer o dunelli o gig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad o dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno.

     6. Trosir y ffi safonol (a fynegir mewn Ewros) i bunnoedd drwy ei luosi â'r gyfradd drosi Ewro / sterling sy'n gymwys yn y flwyddyn y cyflawnwyd y rheolaethau swyddogol a arweiniodd at godi'r ffi.

     7. —(1) Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.

    (2) Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.

    (3) Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.

    (4) Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.

    (5) At ddibenion y paragraff hwn ystyr "aneffeithlonrwydd" ("inefficiency") yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—

    (6) At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.

    (7) Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

    (8) Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).

    (9) Ni chaniateir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

     8. —(1) Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 7 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).

    (2) Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 7(3).

    (3) Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)—

    (4) Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Costau amser
     9. Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 10 ac 11) drwy—

     10. Mae'r costau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol yn cynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd o dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.

     11. Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, mae unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd—

     12. Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.

     13. Rhaid cyfrifo'r tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu y cyfryw gyfrannedd o gostau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 a dynnwyd gan yr arolygydd hwnnw neu'r dosbarth hwnnw o arolygydd wrth arfer rheolaethau swyddogol (ond heb gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a gymerwyd i ystyriaeth yn unol â pharagraff 10) ag y bydd yr Asiantaeth yn credu ei fod yn briodol ei ddosrannu i'r tâl hwnnw yr awr;

     14. Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 12 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 13, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

     15. Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 12 i 14, rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yn ôl yr awr.

Diffiniadau
     16. Yn yr Atodlen hon —



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3370 (Cy.267)).

     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi mewn perthynas â Chymru Erthyglau 26 a 27 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n ei gwneud yn ofynnol i ffioedd gael eu casglu i dalu'r costau sy'n cael eu peri gan reolaethau swyddogol a gyflawnir, yn gyntaf, ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83) ac yn ail, i wirhau cydymffurfedd â'r rheolau lles anifeiliaid a nodir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 93/119/EC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t.21) i'r graddau y maent yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl.

     3. Mae'r Rheoliadau hyn —

     4. Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn nodi sut y mae'r ffi'r rheolaethau swyddogol i'w chyfrifo.

     5. Mae arfarniad rheoliadol am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1972 p.68.back

[2] O.S. 2005/1971.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.back

[5] 1992 p. 4.back

[6] O.S. 1995/731, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/400, O.S. 1999/1820, O.S. 2000/656, O.S. 2000/3352, O.S. 2001/447, O.S. 2001/3830 ac O.S. 2003/3272.back

[7] O.S. 1995/539, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292.back

[8] O.S. 1995/540, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292.back

[9] O.S. 1995/2148, a ddirymwyd o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/2059.back

[10] O.S. 2005/3370 (Cy.267).back

[11] 1998 p.38.back

[12] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back

[13] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[14] OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.back

[15] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back

[16] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back

[17] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back

[18] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back

[19] OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.back

[20] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1.back

[21] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.back

[22] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60.back

[23] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.back

[24] OJ Rhif L136, 24.5.2006, t.3.back



English version



ISBN 0 11 091470 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 15 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063245w.html