BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3250 (Cy.294)
HADAU, CYMRU
Rheoliadau Hadau Yd (Cymru) a Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
5 Rhagfyr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
20 Rhagfyr 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16(1), (1A), (3) a (4) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2].
Yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno mae wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo yr effeithir arnynt.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) a Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) (Diwygio) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 20 Rhagfyr 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005[3] fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 3 o'r Tabl yn Atodlen 7 (pwysau lotiau a samplau), yn lle "25", pa le bynnag yr ymddengys, rhodder "30".
Diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005
3.
—(1) Diwygir Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005[4] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 23(3) (samplu), ychwaneger ar y diwedd—
(c) where more than 50% of the mixture consists of a species of seed for which the maximum weight of a seed lot prescribed in seed regulations is 30 tonnes, the maximum weight of the seed lot must be 30 tonnes.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Rhagfyr 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/55/EC ar 12 Mehefin 2006 sy'n diwygio Atodiad III i Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC o ran mwyafswm pwysau lotiau hadau (O.J. Rhif L 159, 13.6.2006, t.13).
Maent yn diwygio Rheoliadau Hadau Ŷd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3036 (Cy. 224)) i gynyddu mwyafswm pwysau lot hadau o rywogaeth o hadau ŷd, ac eithrio indrawn, o 25 tunnell i 30 tunnell. Maent hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1207 (Cy. 79)) i sicrhau, lle mae mwy na 50% o lot hadau sy'n cynnwys cymysgedd o hadau planhigion porthiant a hadau y cynyddir y mwyafswm pwysau lot hadau ar eu cyfer gan y Rheoliadau hyn i 30 tunnell, bod mwyafswm pwysau y lot hadau cymysg hefyd yn 30 tunnell.
Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi), O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaeth 1986 (p.49); gweler adran 38(1) i gael diffiniad o "the Minister".back
[2]
O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 a gafodd eu trosglwyddo i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[3]
O.S. 2005/3036 (Cy. 224).back
[4]
O.S. 2005/1207 (Cy. 79).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091465 1
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
13 December 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063250w.html