BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 Rhif 3339 (Cy.302) (C.120)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063339w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3339 (Cy.302) (C.120)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 12 Rhagfyr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 128(4) a 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1].

Enwi a Dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2003.

Dod i rym
    
2. Yn ddarostyngedig i Erthygl 3, daw adran 63 o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2007.

Arbedion
    
3. Mae adrannau 42A(1), 43(6B) a 47(3A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[2], fel maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny, i barhau i weithredu mewn perthynas â Chymru fel pe nas gwnaethpwyd y diwygiadau i'r adrannau hynny gan adran 63 o'r Ddeddf.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Rhagfyr 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i rym ar 1 Ebrill 2007. Mae'r adran hon yn diddymu'r rhyddhad ardrethi gorfodol a disgresiynol yn y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig (a sefydlwyd gan ddarpariaethau yn adrannau 42A(1), 43(6B) a 47(3A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ar gyfer Cymru drwy ddiwygio'r darpariaethau presennol fel mai i Loegr yn unig y maent yn gymwys.

Mae Erthygl 3 yn gwneud arbedion fel bod yr adrannau nas diwygiwyd o Ddeddf 1988 yn parhau i weithredu, mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny, fel pe na bai adran 63 o Ddeddf 2003 wedi cael ei dwyn i rym.



NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf sy'n gymwys o ran Cymru wedi'u dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth Y dyddiad cychwyn Rhif O.S.
Adrannau 83, 92(1), 100(1), (2) a (4) i (8), 101 (yn rhannol), 107, 108, 111, a 127(1) (yn rhannol); a pharagraffau 31, 36 i 39 a 65 o Atodlen 7. 18 Tachwedd 2003 2003/2938
Adran 127(1) (yn rhannol); a pharagraffau 27 and 33(2) a (4) o Atodlen 7. 1 Ebrill 2004 2003/2938
Adrannau 62(11) a 127(1) (yn rhannol); a pharagraffau 20, 21, 25(4) i (6) a 26(3) o Atodlen 7. 25 Tachwedd 2004 2004/3132


Notes:

[1] 2003 p.26.back

[2] 1988 p.41.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091473 2


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063339w.html