BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 3390 (Cy.310)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063390w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3390 (Cy.310)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 12 Rhagfyr 2006 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 62 a 69 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2007.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995
    
2. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[3] wedi'i ddiwygio yn unol ag erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.

Diwygiadau sy'n ymwneud â datganiadau mynediad
     3. —(1) Ar ôl erthygl 4C (datganiadau dylunio a mynediad) rhodder—

    (2) In paragraph (4)(a) of article 25 (register of applications), after "thereto" insert "and of any accompanying access statement provided in accordance with article 4D".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Rhagfyr 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) ("Gorchymyn 1995") yn pennu'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio, apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a materion cysylltiedig i'r graddau nad ydynt wedi'u gosod i lawr yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 neu mewn deddfwriaeth berthynol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 4D yng Ngorchymyn 1995. Mae erthygl 4D newydd yn gymwys o ran Cymru ac mae'n darparu ar gyfer datganiadau mynediad y mae'n ofynnol eu bod yn mynd gyda cheisiadau penodol am ganiatâd cynllunio.


Notes:

[1] 1990 p.8. Amnewidiwyd adran 62 gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), adran 42(1). Gweler adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddedf 1990 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Gweler y cofnod ar gyfer Deddf 1990 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, fel yr amrywiwyd ef gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5) ac Atodlen 3 iddo ac fel y diwygiwyd ef gan adran 118(3) o Ddeddf 2004.back

[3] O.S. 1995/419. Gwnaethpwyd diwygiadau perthnasol gan O.S. 1997/2971 a 2004/3156 (Cy.273).back

[4] Gweler adran 38(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) i gael ystyr "development plan" a'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847) (p.118).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091479 1


 © Crown copyright 2006

Prepared 22 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063390w.html