BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 Rhif 3452 (Cy. 313)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063452w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3452 (Cy. 313)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006

  Wedi'u gwneud 21 Rhagfyr 2006 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran Polisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2006.

Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006
    
2. —(1) Mae Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006[3] wedi'u diwygio'n unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 16(4), yn lle "1 January 2007" rhodder "1 Ebrill 2007".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru

21 Rhagfyr 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536 (Cy. 153)) ("y prif Reoliadau").

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r prif Reoliadau i roi ei effaith i'r estyniad i waharddiad yr Undeb Ewropeaidd o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/760/EC (OJ Rhif L285, 28.10.2005, t. 52) fel y'i diwygiwyd ar fewnforio adar caeth o drydydd gwledydd tan 31 Mawrth 2007.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 2006/1536 (Cy. 153).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091484 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 17 January 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063452w.html