BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 117 (Cy.8)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070117w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 117 (Cy.8)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 23 Ionawr 2007 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan mai ef yw'r person priodol at ddibenion adran 79(7C)(d) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990")[1], yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol, ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan baragraff 1(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Ionawr 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Mangreoedd diwydiannol perthnasol etc: eithriadau pellach
    
2. At ddibenion paragraff (d) o adran 79(7C) o Ddeddf 1990, rhagnodir tir o ddisgrifiad a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Niwsans Statudol (Apelau) 1995
    
3. —(1) Mae Rheoliad 2 (apelau o dan adran 80(3) o Ddeddf 1990) o Reoliadau Niwsans Statudol (Apelau) 1995[3] wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:

    (2) Ym mharagraff (2)(e)—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 2

Disgrifiad o'r Tir Deddfwriaeth
Tir sydd wedi'i ddynodi am y tro fel Ardal Amgylcheddol Sensitif o dan adran 18(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49)           
Tir y gwneir unrhyw daliad mewn perthynas ag ef yn unol â darpariaethau Offeryn Statudol a enwir gyferbyn â hyn Rheoliadau Cynefinoedd (Coetiroedd Llydanddail) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3099)
Rheoliadau Cynefinoedd (Ymylon Dŵr) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3100)
Rheoliadau Cynefinoedd (Lleiniau Arfordirol) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/3101)
Rheoliadau Cynefinoedd (Tiroedd Glas Toreithiog eu Rhywogaethau) 1994 (O.S. 1994/3102)
Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994 (O.S. 1994/2716)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 1996 (O.S. 1996/908)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/3709)
Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1606)
Rheoliadau Rhostiroedd (Dad-ddwysáu Da Byw) (Cymru) 1995 (O.S. 1995/1159)
Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994 (O.S. 1994/1721)
Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001 (O.S. 2001/424)
Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 (O.S. 2006/41)
Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176)



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 101 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16) ("Deddf 2005") yn ychwanegu categori newydd o niwsans statudol at adran 79(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ("Deddf 1990"), sef "any insects emanating from relevant industrial, trade or business premises and being prejudicial to health or a nuisance".

Mae adran 79(7C)(a) i (c) ac (e) o Ddeddf 1990 yn eithrio mathau penodol o dir o'r diffiniad o "relevant industrial, trade or business premises", ac effaith hynny yw na fydd unrhyw drychfilod sy'n dod o'r mangreoedd hynny ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans, yn niwsans statudol at ddibenion y drefn o ran niwsans statudol yn Rhan 3 o Ddeddf 1990.

O dan adran 79(7C)(d) o Ddeddf 1990, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi bod tir arall sy'n rhan o uned amaethyddol (ond nad yw eisoes wedi'i eithrio o dan adran 79(7C)(a) i (c)) yn cael ei eithrio o'r diffiniad o "relevant industrial, trade or business premises".

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, at ddibenion adran 79(7C)(d) o Ddeddf 1990, dir y mae taliadau'n cael eu gwneud ar eu cyfer o dan unrhyw un o'r cynlluniau rheoli tir a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau fel na fydd trychfilod sy'n dod o'r tir hwnnw ac sy'n niweidiol i iechyd neu'n niwsans yn niwsans statudol at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1990 (rheoliad 2 a'r Atodlen).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio hefyd Reoliadau Niwsans Statudol (Apelau) 1995 (O.S. 1995/2644) ("Rheoliadau 1995").

Mae Rheoliadau 1995 (rheoliad 2(2)) yn nodi ar ba sail y caiff person ddibynnu pan fo'n apelio i lys ynadon o dan adran 80(3) o Ddeddf 1990 yn erbyn hysbysiad gostegu a gyflwynwyd i'r person hwnnw ynglŷn â niwsans statudol. O ran unrhyw un o'r niwsansau statudol a nodir yn adran 79(1)(a), (d), (e), (f) neu (g) o Ddeddf 1990, pan fo niwsans o'r fath wedi codi ar fangre ddiwydiannol, mangre fasnachol neu fangre busnes, y seiliau yw'r ffaith bod y moddion ymarferol gorau wedi'u defnyddio i atal y niwsans, neu i wrthweithio effeithiau'r niwsans hwnnw (gweler rheoliad 2(2)(e)(i) o Reoliadau 1995).

Mae Deddf 2005 (adrannau 101 i 103) yn ychwanegu dau niwsans statudol newydd at y rhai a restrir yn adran 79(1) o Ddeddf 1990. Y rhain yw (yn adran 79(1)(fa)) y niwsans trychfilod y mae darpariaeth wedi'i gwneud ar ei gyfer yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn (y niwsans trychfilod) ac (yn adran 79(1)(fb)) golau artiffisial a belydrir o fangre yn y fath fodd ag i fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans (y niwsans golau artiffisial).

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn galluogi person, pan fo apêl yn cael ei gwneud i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gostegu sy'n enwi naill ai niwsans trychfilod neu niwsans golau artiffisial, i ddibynnu ar y ffaith bod y moddion ymarferol gorau wedi'u defnyddio i ostegu, neu i wrthweithio effaith, niwsans o'r fath. Mae adran 79(1)(fa) o Ddeddf 1990 (y niwsans trychfilod) wedi'i hychwanegu at y rhestr o ddarpariaethau yn rheoliad 2(2)(e)(i) o Reoliadau 1995. Mae adran 79(1)(fb) o Ddeddf 1990 (y niwsans golau artiffisial) wedi'i gwneud yn destun rheoliad newydd yn Reoliadau 1995, sef Rheoliad 2(2)(e)(iv), sy'n darparu amddiffyniad y moddion ymarferol gorau fel sail dros apelio yn erbyn hysbysiad gostegu ynglŷn â'r niwsans hwn pan fo'r golau artiffisial yn cael ei belydru naill ai o fangre ddiwydiannol, mangre fasnachol neu fangre busnes, neu gan oleuadau sy'n cael eu defnyddio i oleuo cyfleuster chwaraeon perthnasol awyr-agored (rheoliad 3).


Notes:

[1] 1990 p. 43; mewnosodwyd y diffiniad o "person priodol" yn adran 79(7) gan adran 101(4) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16), a mewnosodwyd adran 79(7C) gan adran 101(5) o'r Ddeddf honno.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1995/2644; mae'r Rheoliadau yn rhychwantu Cymru a Lloegr.back

[4] Mewnosodwyd adran 79(1)(fa) o Ddeddf 1990 gan adran 101(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16).back

[5] Mewnosodwyd adran 79(1)(fb) o Ddeddf 1990 gan adran 102(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd Glân (p. 16). Mewnosodwyd adran 80(80A) gan adran 102(3) o Ddeddf 2005.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091488 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 30 January 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070117w.html