BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 203 (Cy.17)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070203w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 203 (Cy.17)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 30 Ionawr 2007 
  Yn dod i rym 9 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad i asesu'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd ac ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.

Diwygio'r Rheoliadau
    
2. Diwygir Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002[3] fel a ganlyn.

Dehongli
     3. —(1) Yn rheoliad 2(1)—

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwgiwyd o dro i dro.

Cymhwyso'r Rheoliadau
     4. Yn rheoliad 3—

Darparu gwybodaeth
    
5. Yn rheoliad 8, yn lle paragraff (3) rhodder—

Y cais am ganiatâd
     6. Yn rheoliad 9(3)(b)—

Gwybodaeth ychwanegol
    
7. Yn rheoliad 10(3), ar ôl "gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol" mewnosoder "ac ar wefan briodol".

Gwladwriaethau AEE Eraill
    
8. Yn rheoliad 11 —

Y penderfyniad ar ganiatâd
    
9. Yn rheoliad 13 —



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2127) ("y prif Reoliadau").

Maent yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2003/35/EC (OJ Rhif L156, 25.6.2003, t.17) sy'n darparu i'r cyhoedd gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau amgylcheddol penodol, sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ Rhif L175, 5.7.85, t.40, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.3.97, t.5) ("y Gyfarwyddeb EIA") ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, i'r graddau y mae honno yn effeithio ar asesiadau effeithiau amgylcheddol ar dir heb ei drin ac ardaloedd lled-naturiol.

Maent hefyd yn cynnwys diwygiadau i adlewyrchu newid yn y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth amgylcheddol.

Mae rheoliad 3 yn diweddaru dehongliadau yn y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth arfer ei bŵer i roi cyfarwyddyd fod prosiect penodol wedi'i eithrio rhag rheoliadau 4 i 26 o'r prif Reoliadau, i ystyried a fyddai unrhyw asesiad o'r prosiect yn briodol, ac eithrio asesiad o'r math a fyddai yn digwydd o dan reoliadau 4 i 26 o'r prif Reoliadau, ac i roi gwybodaeth benodol yn ymwneud ag arfer y pŵer gerbron y cyhoedd.

Mae rheoliad 5 yn diweddaru'r cyfeiriad yn y prif Reoliadau at Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 1992 (O.S. 1992/3240 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1447), sydd bellach wedi'u dirymu. Mae'n darparu nad yw'n ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i ymgeisydd am ganiatâd unrhyw wybodaeth y caiff wrthod ei datgelu o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391) neu y'i rhwystrir rhag ei datgelu gan y Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi hysbysiad o gais am ganiatâd ar wefan briodol, ac yn ei gwneud yn ofynnol cynnwys gwybodaeth ychwanegol benodol yn yr hysbysiad.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw hysbysiad o wybodaeth amgylcheddol ychwanegol ar wefan briodol.

Mae rheoliad 8 yn diwygio'r gofynion yn y prif Reoliadau sy'n ymwneud â phrosiectau yng Nghymru a ddichon effeithio ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaethau AEE eraill a vice versa.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth ychwanegol benodol wrth roi hysbysiad o benderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2001/2555 (mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad am asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd) ac O.S. 2000/248 (mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt).back

[2] 1972 p. 68. Ymestynwyd pwerau galluogi adran 2(2) o'r Ddeddf hon yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 1 o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (c. 51).back

[3] O.S. 2002/2127 (Cy. 214).back

[4] OJ Rhif L156, 25.06.03, t. 17.back

[5] O.S. 2004/3391.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091497 X


 © Crown copyright 2007

Prepared 9 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070203w.html