BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 Rhif 204 (Cy.18) (C.9) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070204w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 30 Ionawr 2007 |
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â mangreoedd, mannau a cherbydau di-fwg
2.
2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym —
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny
3.
1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny—
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n berthnasol i archwilio
4.
1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â chyrff y GIG yng Nghymru —
(ch) adran 80(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau neu'r dirymiadau a bennir ym mharagraff (c).
Darpariaethau trosiannol sy'n berthnasol i archwilio
5.
—(1) Mewn perthynas â chyrff y GIG yng Nghymru, er gwaethaf rhoi yn lle adran 98 o Ddeddf 1977 adran 56 o'r Ddeddf bydd —
fel y byddant mewn grym ar 31 Ionawr 2007 yn gymwys o ran cyfrifon a gedwir gan y cyrff a restrir yn adran 98(1) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 (yn unol â hynny, bydd y trefniadau a geir yn Atodlen 12B newydd i Ddeddf 1977 yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ddilynol) ac o ran materion sy'n berthnasol i flynyddoedd ariannol cynharach ac nad ydynt wedi'u dirwyn i ben.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ionawr 2007
Mae'r Gorchymyn Cychwyn a ganlyn wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr:
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2006 (O.S. 2006/2603).
[3] Yn rhinwedd adran 83(1)(e) o Ddeddf Iechyd 2006 daeth y darpariaethau hyn i rym ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf i'r graddau y mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i wneud Gorchymyn neu Reoliadau, neu i ddiffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol i arfer unrhyw bŵer o'r fath.back
[4] Yn rhinwedd adran 83(1)(e) o Ddeddf Iechyd 2006 daeth y darpariaethau hyn i rym ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf i'r graddau y mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i wneud Gorchymyn neu Reoliadau, neu i ddiffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol i arfer unrhyw bŵer o'r fath.back