BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Y Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 Rhif 226 (Cy.20)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070226w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 226 (Cy.20)

CREDYDAU TRETH, CYMRU

Y Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 30 Ionawr 2007 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 2002[1] a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2], yn gwneud y Cynllun canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Cynllun hwn yw'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Chwefror 2007.

    (2) Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diffiniadau
    
2. Yn y Cynllun hwn—

Corff penodedig
     3. Nestor Primecare Services Limited sy'n masnachu fel Nestor Criminal Records Agency[8] yw'r corff a bennwyd at ddibenion rhoi cymeradwyaethau o dan y Cynllun hwn.

Gofynion y Cynllun
     4. At ddibenion rheoliadau sy'n cael eu gwneud o dan adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002, dim ond—

y mae person yn ddarparydd gofal plant a gymeradwyir yn unol â'r Cynllun hwn.

Gofal Plant Cymwys
    
5. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ystyr gofal plant cymwys yw gofal a ddarperir ar gyfer plentyn gan unigolyn am wobr yn llwyr neu'n bennaf yng nghartref y plentyn.

    (2) Pan fo'r gofal y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei ddarparu ar gyfer nifer o blant o wahanol gartrefi ar yr un pryd, mae hwnnw'n ofal plant cymwys os caiff ei ddarparu yn llwyr neu'n bennaf yng nghartref un neu ragor o'r plant y darperir y gofal iddynt.

    (3) Nid yw gofal plant cymwys yn cynnwys—

Person a gymeradwywyd
    
6. —(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 13, rhaid rhoi cymeradwyaeth i berson fel darparydd gofal plant o dan y Cynllun hwn os yw'r corff cymeradwyo wedi'i fodloni bod y meini prawf cymeradwyo wedi'u bodloni mewn perthynas â'r person hwnnw.

    (2) Mae person y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi iddo o dan baragraff (1) yn peidio â bod yn berson sydd wedi'i gymeradwyo felly os yw'r gymeradwyaeth honno wedi'i thynnu'n ôl gan y corff cymeradwyo.

    (3) Caiff y corff cymeradwyo dynnu cymeradwyaeth yn ôl os yw wedi'i fodloni nad yw'r meini prawf cymeradwyo yn cael eu bodloni mwyach o ran y person hwnnw.

Meini prawf cymeradwyo
    
7. O ran cais am gymeradwyaeth fel darparydd gofal plant, y meini prawf cymeradwyo yw—

System gymeradwyo
    
8. —(1) Rhaid i'r corff cymeradwyo weithredu system ar gyfer penderfynu ceisiadau am gymeradwyaeth a gyflwynir iddo o dan y cynllun hwn a rhaid iddo wneud trefniadau digonol i roi cyhoeddusrwydd i fanylion y system honno.

    (2) Yn benodol, a heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid i'r system gymeradwyo y cyfeiriwyd ati yn y paragraff hwnnw:

    (3) Rhaid i'r corff cymeradwyo gadw cofnod o'r personau hynny y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi iddynt am y tro o dan y Cynllun hwn.

    (4) Caniateir i'r cofnodion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau (2) a (3) gael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur.

Yr wybodaeth sydd i'w darparu gan y corff cymeradwyo
    
9. Rhaid i'r corff cymeradwyo ddarparu i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei hangen i gyflawni unrhyw un o'u swyddogaethau ynglŷn â chredyd treth gwaith a honno'n wybodaeth ynglŷn â chymeradwyo neu wrthod cymeradwyo personau o dan y Cynllun hwn neu dynnu cymeradwyaeth y personau hynny yn ôl.

Y cyfnod cymeradwyo
    
10. —(1) Rhaid i gymeradwyaeth a roddir o dan y Cynllun hwn ddatgan cyfnod ei dilysrwydd a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na 12 mis.

    (2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn rhagfarnu cymhwysiad erthygl 6(2).

Apelau
    
11. —(1) Pan fo'r corff cymeradwyo yn gwrthod cais am roi cymeradwyaeth neu'n tynnu'n ôl gymeradwyaeth a roddwyd o'r blaen, caniateir apêl i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

    (2) Bydd darpariaethau'r Rheoliadau Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79M o Ddeddf 1989 ac fel petai'r darpariaethau hynny wedi'u nodi yn y Cynllun hwn, ond gyda'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).

    (3) Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau Tribiwnlys yn gymwys fel petai—

    (4) Bydd y paragraff 3(3)(c) a enwyd yn gymwys—

    (5) Pan fo apêl, caiff y Tribiwnlys—

Ffioedd
    
12. Caiff y corff cymeradwyo godi ar unrhyw berson sy'n ceisio cael cymeradwyaeth o dan y Cynllun hwn unrhyw ffi resymol y bydd y corff cymeradwyo'n penderfynu arni, a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Darpariaethau trosiannol
    
13. Pan fo cais am gymeradwyaeth o dan y Cynllun hwn yn cael ei wneud cyn 6 Ebrill 2007, ni chaniateir rhoi cymeradwyaeth yn gynt na 6 Ebrill 2007.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)


Mae'r Cynllun hwn yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002 ("y Ddeddf")[
10]. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r "awdurdod cenedlaethol priodol" o ran gofal sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru. Mae gofal plant cymwys (fel y'i diffinnir) a ddarperir gan berson a gymeradwyir yn unol â'r Cynllun hwn yn golygu gofal a ddarperir gan berson o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 12(4) o'r Ddeddf. Mae rheoliadau a wnaed o dan adran 12(1) o'r Ddeddf yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y gall hawl i gael credyd treth gwaith ar gyfer gofal a ddarperir gan berson a gymeradwyir yn unol â'r Cynllun hwn godi. (Gweler Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005)[11].

Pennir y corff cymeradwyo a enwir yn y Cynllun hwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 12(7) o'r Ddeddf (erthygl 3). Mae ceisiadau am gymeradwyaeth yn cael eu penderfynu gan y corff cymeradwyo yn unol â meini prawf a nodir yn y Cynllun hwn (erthygl 7).

Mae'r Cynllun hwn yn darparu ymhellach:

Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru'n unig.


Notes:

[1] Deddf Credydau Treth 2002 (p.21).back

[2] Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p.53).back

[3] Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005).back

[4] Deddf Plant 1989 (p.41).back

[5] Rheoliadau Credyd Treth Plant 2002 (O.S. 2002/2007)back

[6] Rheoliadau Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf a'r Tribiwnlys Safonau Gofal 2002 (OS 2002/816).back

[7] Deddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14)back

[8] A gofrestrwyd yn Lloegr Rhif 1963820.back

[9] 1998 p.38.back

[10] Deddf Credydau Treth 2002 (p.21).back

[11] Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005).back



English version



ISBN 0 11 091494 5


 © Crown copyright 2007

Prepared 7 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070226w.html